Barnwyr 3:1-11
Barnwyr 3:1-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd yr ARGLWYDD wedi gadael y bobloedd yn y wlad er mwyn profi pobl Israel (sef y rhai oedd ddim wedi gorfod brwydro yn erbyn y Canaaneaid eu hunain). Roedd e eisiau i bob cenhedlaeth oedd ddim wedi cael profiad o ryfela, ddysgu sut i ymladd. Dyma’r bobloedd oedd ar ôl: Y Philistiaid a’u pum arweinydd, y Canaaneaid i gyd, y Sidoniaid a’r Hefiaid oedd yn byw yn mynydd-dir Libanus (o Fynydd Baal-hermon i Fwlch Chamath). Cafodd y rhain eu gadael i brofi pobl Israel, er mwyn gweld fyddai’r bobl yn ufudd i’r gorchmynion roedd yr ARGLWYDD wedi’u rhoi i’w hynafiaid nhw drwy Moses. Roedd pobl Israel wedi setlo i lawr yng nghanol y Canaaneaid, Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid. Roedden nhw’n priodi eu merched, ac yn rhoi eu merched eu hunain i’r Canaaneaid. Ac roedden nhw’n addoli eu duwiau nhw hefyd. Gwnaeth pobl Israel rywbeth oedd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. Dyma nhw’n anghofio’r ARGLWYDD eu Duw ac addoli delwau o Baal a pholion y dduwies Ashera. Roedd yr ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda phobl Israel. Dyma fe’n gadael i Cwshan-rishathaïm, brenin Mesopotamia, eu rheoli nhw. Roedden nhw’n gaethion i Cwshan-rishathaïm am wyth mlynedd. Pan waeddodd pobl Israel ar yr ARGLWYDD am help, dyma fe’n codi rhywun i’w hachub nhw – Othniel, mab Cenas (brawd iau Caleb). Daeth Ysbryd yr ARGLWYDD arno, a dyma fe’n arwain Israel i frwydro yn erbyn Cwshan-rishathaïm. A dyma Othniel yn ennill y frwydr. Ar ôl hynny, roedd heddwch yn y wlad am bedwar deg mlynedd, nes i Othniel, mab Cenas, farw.
Barnwyr 3:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gadawodd yr ARGLWYDD y cenhedloedd hyn i brofi'r Israeliaid oedd heb gael unrhyw brofiad o ryfeloedd Canaan, a hynny er mwyn i genedlaethau Israel gael profiad, ac er mwyn dysgu'r rhai nad oedd ganddynt brofiad blaenorol sut i ryfela. Gadawyd pum arglwydd y Philistiaid, y Canaaneaid oll, y Sidoniaid, a'r Hefiaid oedd yn byw ar fynydd-dir Lebanon o Fynydd Baal-hermon hyd Lebo-hamath. Yr oeddent yno i'r ARGLWYDD brofi Israel drwyddynt, a chael gwybod a fyddent yn ufuddhau i'r gorchmynion a roddodd ef i'w hynafiaid trwy Moses. Ymgartrefodd yr Israeliaid ymysg y Canaaneaid, Hethiaid, Amoriaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid; a chymerasant eu merched hwy yn wragedd, a rhoi eu merched eu hunain i'w meibion hwy, ac addoli eu duwiau. Gwnaeth yr Israeliaid yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac anghofio'r ARGLWYDD eu Duw ac addoli'r duwiau Baal ac Asera. Cyneuodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn Israel a gwerthodd hwy i law Cusan-risathaim, brenin Aram-naharaim, a bu'r Israeliaid yn gwasanaethu Cusan-risathaim am wyth mlynedd. Yna gwaeddodd yr Israeliaid ar yr ARGLWYDD, a chododd yr ARGLWYDD achubwr i'r Israeliaid, sef Othniel fab Cenas, brawd iau Caleb, ac fe'u gwaredodd. Daeth ysbryd yr ARGLWYDD arno, a barnodd Israel a mynd allan i ryfela, a rhoddodd yr ARGLWYDD yn ei law Cusan-risathaim, brenin Aram, ac fe'i trechodd. Yna cafodd y wlad lonydd am ddeugain mlynedd, nes i Othniel fab Cenas farw.
Barnwyr 3:1-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Dyma y cenhedloedd a adawodd yr ARGLWYDD i brofi Israel trwyddynt, (sef y rhai oll ni wyddent gwbl o ryfeloedd Canaan; Yn unig i beri i genedlaethau meibion Israel wybod, i’w dysgu hwynt i ryfel; y rhai yn ddiau ni wyddent hynny o’r blaen;) Pum tywysog y Philistiaid, a’r holl Ganaaneaid, a’r Sidoniaid, a’r Hefiaid y rhai oedd yn aros ym mynydd Libanus, o fynydd Baal-hermon, hyd y ffordd y deuir i Hamath. A hwy a fuant i brofi Israel trwyddynt, i wybod a wrandawent hwy ar orchmynion yr ARGLWYDD, y rhai a orchmynasai efe i’w tadau hwynt trwy law Moses. A meibion Israel a drigasant ymysg y Canaaneaid, yr Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Pheresiaid, yr Hefiaid hefyd, a’r Jebusiaid: Ac a gymerasant eu merched hwynt iddynt yn wragedd, ac a roddasant eu merched i’w meibion hwythau, ac a wasanaethasant eu duwiau hwynt. Felly meibion Israel a wnaethant ddrygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac a anghofiasant yr ARGLWYDD eu DUW, ac a wasanaethasant Baalim, a’r llwyni. Am hynny dicllonedd yr ARGLWYDD a lidiodd yn erbyn Israel; ac efe a’u gwerthodd hwynt i law Cusan-risathaim, brenin Mesopotamia: a meibion Israel a wasanaethasant Cusan-risathaim wyth mlynedd. A meibion Israel a waeddasant ar yr ARGLWYDD: a’r ARGLWYDD a gododd achubwr i feibion Israel, yr hwn a’u hachubodd hwynt; sef Othniel mab Cenas, brawd Caleb, ieuangach nag ef. Ac ysbryd yr ARGLWYDD a ddaeth arno ef, ac efe a farnodd Israel, ac a aeth allan i ryfel: a’r ARGLWYDD a roddodd yn ei law ef Cusan-risathaim, brenin Mesopotamia; a’i law ef oedd drech na Cusan-risathaim. A’r wlad a gafodd lonydd ddeugain mlynedd. A bu farw Othniel mab Cenas.