Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Barnwyr 2:16-23

Barnwyr 2:16-23 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Yna dyma’r ARGLWYDD yn codi arweinwyr i achub pobl Israel o ddwylo eu gelynion. Ond doedden nhw ddim yn gwrando ar eu harweinwyr. Roedden nhw’n puteinio drwy roi eu hunain i dduwiau eraill a’u haddoli nhw. Roedden nhw’n rhy barod i grwydro oddi ar y llwybr roedd eu hynafiaid wedi’i ddilyn. Roedd eu hynafiaid wedi bod yn ufudd i orchmynion yr ARGLWYDD, ond doedden nhw ddim. Wrth i bobl Israel riddfan am fod y gelynion yn eu cam-drin nhw, roedd yr ARGLWYDD yn teimlo drostyn nhw. Roedd yn dewis arweinwyr iddyn nhw, ac yn helpu’r arweinwyr hynny i’w hachub o ddwylo eu gelynion. Wedyn roedd popeth yn iawn tra oedd yr arweinydd yn fyw, ond ar ôl i’r arweinydd farw, byddai’r genhedlaeth nesaf yn ymddwyn yn waeth na’r un o’i blaen. Bydden nhw’n mynd yn ôl i addoli duwiau eraill ac yn gweddïo arnyn nhw. Roedden nhw mor ystyfnig, ac yn gwrthod stopio gwneud drwg. Roedd yr ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda phobl Israel. “Mae’r genedl yma wedi torri amodau’r ymrwymiad wnes i gyda’u hynafiaid nhw. Maen nhw wedi gwrthod gwrando arna i, felly o hyn ymlaen wna i ddim gyrru allan y bobloedd hynny oedd yn dal heb eu concro pan fuodd Josua farw. Cawson nhw eu gadael i brofi Israel. Rôn i eisiau gweld fyddai’r bobl yn ufuddhau i’r ARGLWYDD fel roedd eu hynafiaid wedi gwneud.” Dyna’r rheswm pam wnaeth yr ARGLWYDD ddim gyrru’r bobloedd yna allan yn syth, na gadael i Josua eu concro nhw i gyd.