Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Barnwyr 2:11-23

Barnwyr 2:11-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Gwnaeth yr Israeliaid yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD; aethant i addoli'r Baalim, gan adael yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, a'u dygodd allan o wlad yr Aifft, a mynd ar ôl duwiau estron o blith duwiau'r cenhedloedd oedd o'u cwmpas, ac ymgrymu iddynt hwy, a digio'r ARGLWYDD. Gadawsant yr ARGLWYDD ac addoli Baal ac Astaroth. Cyneuodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn Israel, a rhoddodd hwy yn llaw rhai a fu'n eu hanrheithio, a gwerthodd hwy i law eu gelynion oddi amgylch, fel nad oeddent bellach yn medru gwrthsefyll eu gelynion. I ble bynnag yr aent, yr oedd llaw yr ARGLWYDD yn eu herbyn er drwg, fel yr oedd wedi addo a thyngu iddynt. Ac aeth yn gyfyng iawn arnynt. Yna fe gododd yr ARGLWYDD farnwyr a'u hachubodd o law eu hanrheithwyr. Eto nid oeddent yn gwrando hyd yn oed ar eu barnwyr, ond yn hytrach yn puteinio ar ôl duwiau estron ac yn ymgrymu iddynt, gan gefnu'n fuan ar y ffordd a gerddodd eu hynafiaid mewn ufudd-dod i orchmynion yr ARGLWYDD; ni wnaent hwy felly. Pan fyddai'r ARGLWYDD yn codi barnwr iddynt, byddai ef gyda'r barnwr ac yn eu gwaredu o law eu gelynion holl ddyddiau y barnwr hwnnw; oherwydd byddai'r ARGLWYDD yn tosturio wrthynt yn eu griddfan o achos eu gormeswyr a'u cystuddwyr. Eto, pan fyddai farw'r barnwr, yn ôl yr aent ac ymddwyn yn fwy llygredig na'u hynafiaid, gan fynd ar ôl duwiau estron i'w haddoli ac ymgrymu iddynt, heb roi heibio yr un o'u harferion na'u ffyrdd gwrthnysig. Cyneuodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn Israel, a dywedodd, “Am i'r genedl hon droseddu fy nghyfamod a orchmynnais i'w hynafiaid, heb wrando ar fy llais, nid wyf finnau am ddisodli o'u blaen yr un o'r cenhedloedd a adawodd Josua pan fu farw.” Gadawyd hwy i brofi'r Israeliaid, i weld a fyddent yn cadw ffordd yr ARGLWYDD ai peidio, ac yn rhodio ynddi fel y gwnaeth eu hynafiaid. Gadawodd yr ARGLWYDD y cenhedloedd hyn heb eu disodli ar unwaith, na'u rhoi yn llaw Josua.

Barnwyr 2:11-23 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Yna dyma bobl Israel yn gwneud rhywbeth gwirioneddol ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD: addoli delwau o Baal. Dyma nhw’n troi cefn ar yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, wnaeth eu hachub nhw o wlad yr Aifft, a dechrau addoli duwiau’r bobloedd o’u cwmpas. Roedd Duw wedi digio go iawn! Roedden nhw wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD, a dechrau addoli Baal a’r delwau o’r dduwies Ashtart. Roedd yr ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda phobl Israel! Dyma fe’n gadael i ladron ddwyn oddi arnyn nhw. Roedd y gelynion o’u cwmpas nhw yn gallu gwneud beth fynnen nhw! Doedden nhw’n gallu gwneud dim i’w rhwystro. Pan oedd Israel yn mynd allan i ymladd, roedd yr ARGLWYDD yn eu herbyn nhw! Roedd e wedi rhybuddio mai dyna fyddai’n ei wneud. Roedd hi’n argyfwng go iawn arnyn nhw. Yna dyma’r ARGLWYDD yn codi arweinwyr i achub pobl Israel o ddwylo eu gelynion. Ond doedden nhw ddim yn gwrando ar eu harweinwyr. Roedden nhw’n puteinio drwy roi eu hunain i dduwiau eraill a’u haddoli nhw. Roedden nhw’n rhy barod i grwydro oddi ar y llwybr roedd eu hynafiaid wedi’i ddilyn. Roedd eu hynafiaid wedi bod yn ufudd i orchmynion yr ARGLWYDD, ond doedden nhw ddim. Wrth i bobl Israel riddfan am fod y gelynion yn eu cam-drin nhw, roedd yr ARGLWYDD yn teimlo drostyn nhw. Roedd yn dewis arweinwyr iddyn nhw, ac yn helpu’r arweinwyr hynny i’w hachub o ddwylo eu gelynion. Wedyn roedd popeth yn iawn tra oedd yr arweinydd yn fyw, ond ar ôl i’r arweinydd farw, byddai’r genhedlaeth nesaf yn ymddwyn yn waeth na’r un o’i blaen. Bydden nhw’n mynd yn ôl i addoli duwiau eraill ac yn gweddïo arnyn nhw. Roedden nhw mor ystyfnig, ac yn gwrthod stopio gwneud drwg. Roedd yr ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda phobl Israel. “Mae’r genedl yma wedi torri amodau’r ymrwymiad wnes i gyda’u hynafiaid nhw. Maen nhw wedi gwrthod gwrando arna i, felly o hyn ymlaen wna i ddim gyrru allan y bobloedd hynny oedd yn dal heb eu concro pan fuodd Josua farw. Cawson nhw eu gadael i brofi Israel. Rôn i eisiau gweld fyddai’r bobl yn ufuddhau i’r ARGLWYDD fel roedd eu hynafiaid wedi gwneud.” Dyna’r rheswm pam wnaeth yr ARGLWYDD ddim gyrru’r bobloedd yna allan yn syth, na gadael i Josua eu concro nhw i gyd.

Barnwyr 2:11-23 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A meibion Israel a wnaethant ddrygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac a wasanaethasant Baalim: Ac a wrthodasant ARGLWYDD DDUW eu tadau, yr hwn a’u dygasai hwynt o wlad yr Aifft, ac a aethant ar ôl duwiau dieithr, sef rhai o dduwiau y bobloedd oedd o’u hamgylch, ac a ymgrymasant iddynt, ac a ddigiasant yr ARGLWYDD. A hwy a wrthodasant yr ARGLWYDD, ac a wasanaethasant Baal ac Astaroth. A llidiodd dicllonedd yr ARGLWYDD yn erbyn Israel; ac efe a’u rhoddodd hwynt yn llaw yr anrheithwyr, y rhai a’u hanrheithiasant hwy; ac efe a’u gwerthodd hwy i law eu gelynion o amgylch, fel na allent sefyll mwyach yn erbyn eu gelynion. I ba le bynnag yr aethant, llaw yr ARGLWYDD oedd er drwg yn eu herbyn hwynt; fel y llefarasai yr ARGLWYDD, ac fel y tyngasai yr ARGLWYDD wrthynt hwy: a bu gyfyng iawn arnynt. Eto yr ARGLWYDD a gododd farnwyr, y rhai a’u hachubodd hwynt o law eu hanrheithwyr. Ond ni wrandawent chwaith ar eu barnwyr; eithr puteiniasant ar ôl duwiau dieithr, ac ymgrymasant iddynt: ciliasant yn ebrwydd o’r ffordd y rhodiasai eu tadau hwynt ynddi, gan wrando ar orchmynion yr ARGLWYDD; ond ni wnaethant hwy felly. A phan godai yr ARGLWYDD farnwyr arnynt hwy, yna yr ARGLWYDD fyddai gyda’r barnwr, ac a’u gwaredai hwynt o law eu gelynion holl ddyddiau y barnwr: canys yr ARGLWYDD a dosturiai wrth eu griddfan hwynt, rhag eu gorthrymwyr a’u cystuddwyr. A phan fyddai farw y barnwr, hwy a ddychwelent, ac a ymlygrent yn fwy na’u tadau, gan fyned ar ôl duwiau dieithr, i’w gwasanaethu hwynt, ac i ymgrymu iddynt: ni pheidiasant â’u gweithredoedd eu hunain, nac â’u ffordd wrthnysig. A dicllonedd yr ARGLWYDD a lidiai yn erbyn Israel: ac efe a ddywedai, Oblegid i’r genedl hon droseddu fy nghyfamod a orchmynnais i’w tadau hwynt, ac na wrandawsant ar fy llais; Ni chwanegaf finnau yrru ymaith o’u blaen hwynt neb o’r cenhedloedd a adawodd Josua pan fu farw: I brofi Israel trwyddynt hwy, a gadwent hwy ffordd yr ARGLWYDD, gan rodio ynddi, fel y cadwodd eu tadau hwynt, neu beidio. Am hynny yr ARGLWYDD a adawodd y cenhedloedd hynny, heb eu gyrru ymaith yn ebrwydd; ac ni roddodd hwynt yn llaw Josua.