Barnwyr 2:1-10
Barnwyr 2:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Aeth angel yr ARGLWYDD i fyny o Gilgal i Bochim, a dywedodd, “Dygais chwi allan o'r Aifft, a dod â chwi i'r wlad a addewais i'ch hynafiaid. Dywedais hefyd, ‘Ni thorraf fy nghyfamod â chwi byth; peidiwch chwithau â gwneud cyfamod â thrigolion y wlad hon, ond bwriwch i lawr eu hallorau.’ Eto nid ydych wedi gwrando arnaf. Pam y gwnaethoch hyn? Yr wyf wedi penderfynu na yrraf hwy allan o'ch blaen, ond byddant yn ddrain yn eich ystlysau, a'u duwiau yn fagl ichwi.” Pan lefarodd angel yr ARGLWYDD y geiriau hyn wrth yr holl Israeliaid, torrodd y bobl allan i wylo'n uchel. Am hynny enwyd y lle hwnnw Bochim; ac offrymasant yno aberth i'r ARGLWYDD. Gollyngodd Josua y bobl ac aeth pob un o'r Israeliaid i'w etifeddiaeth i gymryd meddiant o'r wlad. Addolodd y bobl yr ARGLWYDD holl ddyddiau Josua, a holl ddyddiau'r henuriaid oedd wedi goroesi Josua ac wedi gweld yr holl waith mawr a wnaeth yr ARGLWYDD dros Israel. Bu farw Josua fab Nun, gwas yr ARGLWYDD, yn gant a deg oed, a chladdwyd ef o fewn terfynau ei etifeddiaeth, yn Timnath-heres ym mynydd-dir Effraim, i'r gogledd o Fynydd Gaas. Casglwyd yr holl genhedlaeth honno at eu hynafiaid, a chododd cenhedlaeth arall ar eu hôl, nad oedd yn adnabod yr ARGLWYDD na chwaith yn gwybod am yr hyn a wnaeth dros Israel.
Barnwyr 2:1-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma angel yr ARGLWYDD yn mynd o Gilgal i Bochîm gyda neges i bobl Israel: “Fi ddaeth â chi allan o wlad yr Aifft, a’ch arwain chi i’r tir roeddwn i wedi addo’i roi i’ch hynafiaid. Dwedais wrthoch chi, ‘Wna i byth dorri’r ymrwymiad dw i wedi’i wneud gyda chi. Ond rhaid i chi beidio gwneud cytundeb heddwch â’r bobl sy’n byw yn y wlad yma, a rhaid i chi ddinistrio’r allorau lle maen nhw’n addoli eu duwiau.’ Ond dych chi ddim wedi gwrando arna i. Pam hynny? Rôn i wedi’ch rhybuddio chi, ‘Os wnewch chi ddim gwrando, fydda i ddim yn gyrru’r Canaaneaid allan o’ch blaen chi. Byddan nhw’n fygythiad cyson, a byddwch yn cael eich denu gan eu duwiau nhw.’” Pan oedd angel yr ARGLWYDD wedi dweud hyn wrth bobl Israel, dyma nhw’n torri allan i grio’n uchel. Dyma nhw’n galw’r lle yn Bochîm, ac yn cyflwyno aberthau i’r ARGLWYDD. ARGLWYDD Ar ôl i Josua adael i bobl Israel fynd, y bwriad oedd iddyn nhw i gyd feddiannu’r tir oedd wedi cael ei roi iddyn nhw. Tra oedd Josua’n fyw roedden nhw wedi addoli’r ARGLWYDD. Ac roedden nhw wedi dal ati i’w addoli pan oedd yr arweinwyr eraill o’r un genhedlaeth yn dal yn fyw – y dynion oedd wedi gweld drostyn nhw eu hunain y cwbl wnaeth yr ARGLWYDD dros bobl Israel. Ond yna dyma Josua fab Nwn, gwas yr ARGLWYDD, yn marw, yn gant a deg. Cafodd ei gladdu ar ei dir ei hun, yn Timnath-cheres ym mryniau Effraim, i’r gogledd o Fynydd Gaash. Pan oedd y genhedlaeth yna i gyd wedi mynd, daeth cenhedlaeth ar eu holau oedd ddim wedi cael profiad personol o’r ARGLWYDD nac wedi gweld drostyn nhw eu hunain beth wnaeth e dros Israel.
Barnwyr 2:1-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac angel yr ARGLWYDD a ddaeth i fyny o Gilgal i Bochim, ac a ddywedodd, Dygais chwi i fyny o’r Aifft, ac arweiniais chwi i’r wlad am yr hon y tyngais wrth eich tadau; ac a ddywedais, Ni thorraf fy nghyfamod â chwi byth. Na wnewch chwithau gyfamod â thrigolion y wlad hon; ond bwriwch i lawr eu hallorau: eto ni wrandawsoch ar fy llef: paham y gwnaethoch hyn? Am hynny y dywedais, Ni yrraf hwynt allan o’ch blaen chwi: eithr byddant i chwi yn ddrain yn eich ystlysau, a’u duwiau fydd yn fagl i chwi. A phan lefarodd angel yr ARGLWYDD y geiriau hyn wrth holl feibion Israel, yna y bobl a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant. Ac a alwasant enw y lle hwnnw Bochim: ac yna yr aberthasant i’r ARGLWYDD. A Josua a ollyngodd y bobl ymaith; a meibion Israel a aethant bob un i’w etifeddiaeth, i feddiannu y wlad. A’r bobl a wasanaethasant yr ARGLWYDD holl ddyddiau Josua, a holl ddyddiau yr henuriaid y rhai a fu fyw ar ôl Josua, y rhai a welsent holl fawrwaith yr ARGLWYDD, yr hwn a wnaethai efe er Israel. A bu farw Josua mab Nun, gwas yr ARGLWYDD, yn fab dengmlwydd a chant. A hwy a’i claddasant ef yn nherfyn ei etifeddiaeth, o fewn Timnath-heres, ym mynydd Effraim, o du y gogledd i fynydd Gaas. A’r holl oes honno hefyd a gasglwyd at eu tadau: a chyfododd oes arall ar eu hôl hwynt, y rhai nid adwaenent yr ARGLWYDD, na’i weithredoedd a wnaethai efe er Israel.