Barnwyr 11:30-31
Barnwyr 11:30-31 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma fe’n addo ar lw i’r ARGLWYDD, “Os gwnei di adael i mi guro byddin yr Ammoniaid, gwna i roi i’r ARGLWYDD beth bynnag fydd gyntaf i ddod allan o’r tŷ i’m cwrdd i pan af i adre. Bydda i’n ei gyflwyno’n offrwm i’w losgi’n llwyr i Dduw.”
Barnwyr 11:30-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A gwnaeth Jefftha adduned i'r ARGLWYDD a dweud, “Os rhoi di'r Ammoniaid yn fy llaw, beth bynnag a ddaw allan o ddrws fy nhŷ i'm cyfarfod wrth imi ddychwelyd yn ddiogel oddi wrth yr Ammoniaid, bydd yn eiddo i'r ARGLWYDD, ac offrymaf ef yn boethoffrwm.”
Barnwyr 11:30-31 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A Jefftha a addunedodd adduned i’r ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Os gan roddi y rhoddi di feibion Ammon yn fy llaw i; Yna yr hwn a ddelo allan o ddrysau fy nhŷ i’m cyfarfod, pan ddychwelwyf mewn heddwch oddi wrth feibion Ammon, a fydd eiddo yr ARGLWYDD, a mi a’i hoffrymaf ef yn boethoffrwm.