Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Barnwyr 11:29-40

Barnwyr 11:29-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Daeth ysbryd yr ARGLWYDD ar Jefftha, ac aeth trwy Gilead a Manasse a thrwy Mispe Gilead, ac oddi yno drosodd at yr Ammoniaid. A gwnaeth Jefftha adduned i'r ARGLWYDD a dweud, “Os rhoi di'r Ammoniaid yn fy llaw, beth bynnag a ddaw allan o ddrws fy nhŷ i'm cyfarfod wrth imi ddychwelyd yn ddiogel oddi wrth yr Ammoniaid, bydd yn eiddo i'r ARGLWYDD, ac offrymaf ef yn boethoffrwm.” A phan aeth Jefftha i frwydro yn erbyn yr Ammoniaid, fe roddodd yr ARGLWYDD hwy yn llaw Jefftha, a goresgynnodd hwy'n llwyr, o Aroer hyd gyffiniau Minnith—ugain tref, gan gynnwys Abel-ceramim; felly darostyngwyd yr Ammoniaid gan yr Israeliaid. Pan gyrhaeddodd Jefftha ei gartref yn Mispa, daeth ei ferch allan i'w gyfarfod â thympanau a dawnsiau. Hi oedd ei unig blentyn; nid oedd ganddo fab na merch ar wahân iddi hi. A phan welodd ef hi, rhwygodd ei wisg, a dweud, “Gwae fi, fy merch! Yr wyt ti wedi fy nryllio'n llwyr, a thi yw achos fy nhrallod. Gwneuthum addewid i'r ARGLWYDD, ac ni allaf ei thorri.” Ac meddai hithau wrtho, “Fy nhad, yr wyt wedi gwneud addewid i'r ARGLWYDD; gwna imi fel yr addewaist, wedi i'r ARGLWYDD sicrhau iti ddialedd ar dy elynion, yr Ammoniaid.” Ychwanegodd, “Caniatâ un peth i mi; rho imi ysbaid o ddeufis i grwydro'r mynyddoedd ac i wylo am fy morwyndod gyda'm ffrindiau.” Dywedodd yntau, “Ie, dos.” Gadawodd iddi fynd am ddeufis; ac aeth hithau a'i ffrindiau i wylo am ei morwyndod ar y mynyddoedd. Ar derfyn y deufis, daeth yn ôl at ei thad, a gwnaeth yntau iddi yn ôl yr adduned a dyngodd. Nid oedd hi wedi cael cyfathrach â gŵr. A daeth hyn yn ddefod yn Israel, bod merched Israel yn mynd allan bob blwyddyn i alaru am ferch Jefftha o Gilead am bedwar diwrnod yn y flwyddyn.

Barnwyr 11:29-40 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Yna dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod ar Jefftha. Dyma fe’n arwain ei fyddin drwy diroedd Gilead a Manasse, pasio drwy Mitspe yn Gilead, a mynd ymlaen i wynebu byddin yr Ammoniaid. Dyma fe’n addo ar lw i’r ARGLWYDD, “Os gwnei di adael i mi guro byddin yr Ammoniaid, gwna i roi i’r ARGLWYDD beth bynnag fydd gyntaf i ddod allan o’r tŷ i’m cwrdd i pan af i adre. Bydda i’n ei gyflwyno’n offrwm i’w losgi’n llwyr i Dduw.” Yna dyma Jefftha a’i fyddin yn croesi i ymladd yn erbyn yr Ammoniaid, a dyma’r ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth iddo. Cafodd yr Ammoniaid eu trechu’n llwyr, o Aroer yr holl ffordd i Minnith, a hyd yn oed i Abel-ceramîm – dau ddeg o drefi i gyd. Dinistriodd nhw’n llwyr! Roedd yr Ammoniaid wedi’u trechu gan Israel. Pan aeth Jefftha adre i Mitspa, pwy redodd allan i’w groesawu ond ei ferch, yn dawnsio i gyfeiliant tambwrinau. Roedd hi’n unig blentyn. Doedd gan Jefftha ddim mab na merch arall. Pan welodd hi, dyma fe’n rhwygo’i ddillad. “O na! Fy merch i. Mae hyn yn ofnadwy. Mae’n drychinebus. Dw i wedi addo rhywbeth ar lw i’r ARGLWYDD, a does dim troi’n ôl.” Meddai ei ferch wrtho, “Dad, os wyt ti wedi addo rhywbeth i’r ARGLWYDD, rhaid i ti gadw dy addewid. Mae’r ARGLWYDD wedi cadw ei ochr e a rhoi buddugoliaeth i ti dros dy elynion, yr Ammoniaid. Ond gwna un peth i mi. Rho ddau fis i mi grwydro’r bryniau gyda’m ffrindiau, i alaru am fy mod byth yn mynd i gael priodi.” “Dos di,” meddai wrthi. A gadawodd iddi fynd i grwydro’r bryniau am ddeufis, yn galaru gyda’i ffrindiau am na fyddai byth yn cael priodi. Yna ar ddiwedd y deufis, dyma hi’n dod yn ôl at ei thad, a dyma fe’n gwneud beth roedd e wedi’i addo. Roedd hi’n dal yn wyryf pan fuodd hi farw. Daeth yn ddefod yn Israel fod y merched yn mynd i ffwrdd am bedwar diwrnod bob blwyddyn, i goffáu merch Jefftha o Gilead.

Barnwyr 11:29-40 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Yna y daeth ysbryd yr ARGLWYDD ar Jefftha; ac efe a aeth dros Gilead a Manasse; ac a aeth dros Mispa Gilead, ac o Mispa Gilead yr aeth efe drosodd at feibion Ammon. A Jefftha a addunedodd adduned i’r ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Os gan roddi y rhoddi di feibion Ammon yn fy llaw i; Yna yr hwn a ddelo allan o ddrysau fy nhŷ i’m cyfarfod, pan ddychwelwyf mewn heddwch oddi wrth feibion Ammon, a fydd eiddo yr ARGLWYDD, a mi a’i hoffrymaf ef yn boethoffrwm. Felly Jefftha a aeth drosodd at feibion Ammon i ymladd yn eu herbyn; a’r ARGLWYDD a’u rhoddodd hwynt yn ei law ef. Ac efe a’u trawodd hwynt o Aroer hyd oni ddelych di i Minnith, sef ugain dinas, a hyd wastadedd y gwinllannoedd, â lladdfa fawr iawn. Felly y darostyngwyd meibion Ammon o flaen meibion Israel. A Jefftha a ddaeth i Mispa i’w dŷ ei hun: ac wele ei ferch yn dyfod allan i’w gyfarfod â thympanau, ac â dawnsiau; a hi oedd ei unig etifedd ef; nid oedd ganddo na mab na merch ond hyhi. A phan welodd efe hi, efe a rwygodd ei ddillad, ac ddywedodd, Ah! ah! fy merch, gan ddarostwng y darostyngaist fi; ti hefyd wyt un o’r rhai sydd yn fy molestu: canys myfi a agorais fy ngenau wrth yr ARGLWYDD, ac ni allaf gilio. A hi a ddywedodd wrtho, Fy nhad, od agoraist dy enau wrth yr ARGLWYDD, gwna i mi yn ôl yr hyn a aeth allan o’th enau; gan i’r ARGLWYDD wneuthur drosot ti ddialedd ar dy elynion, meibion Ammon. Hi a ddywedodd hefyd wrth ei thad, Gwneler i mi y peth hyn; paid â mi ddau fis, fel yr elwyf i fyny ac i waered ar y mynyddoedd, ac yr wylwyf oherwydd fy morwyndod, mi a’m cyfeillesau. Ac efe a ddywedodd, Dos. Ac efe a’i gollyngodd hi dros ddau fis. A hi a aeth â’i chyfeillesau, ac a wylodd oherwydd ei morwyndod ar y mynyddoedd. Ac ymhen y ddau fis hi a ddychwelodd at ei thad: ac efe a wnaeth â hi yr adduned a addunasai efe: a hi ni adnabuasai ŵr. A bu hyn yn ddefod yn Israel, Fyned o ferched Israel bob blwyddyn i alaru am ferch Jefftha y Gileadiad, bedwar diwrnod yn y flwyddyn.