Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Barnwyr 10:1-18

Barnwyr 10:1-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Ar ôl Abimelech, yr un a gododd i waredu Israel oedd Tola fab Pua, fab Dodo, dyn o Issachar a oedd yn byw yn Samir ym mynydd-dir Effraim. Bu'n farnwr ar Israel am dair blynedd ar hugain; a phan fu farw, claddwyd ef yn Samir. Ar ei ôl cododd Jair, brodor o Gilead. Bu'n farnwr ar Israel am ddwy flynedd ar hugain. Yr oedd ganddo ddeg ar hugain o feibion a arferai farchogaeth ar ddeg ar hugain o asynnod; ac yr oedd ganddynt ddeg dinas ar hugain yn nhir Gilead; gelwir y rhain yn Hafoth-jair hyd heddiw. Pan fu farw Jair, claddwyd ef yn Camon. Unwaith eto gwnaeth yr Israeliaid yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac addoli'r Baalim a'r Astaroth, a duwiau Syria, Sidon, Moab, yr Ammoniaid a'r Philistiaid; gwrthodasant yr ARGLWYDD a pheidio â'i wasanaethu. Enynnodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn Israel, a gwerthodd hwy i law'r Philistiaid a'r Ammoniaid. Ysigodd y rheini'r Israeliaid a'u gormesu y flwyddyn honno; ac am ddeunaw mlynedd buont yn gormesu'r holl Israeliaid y tu hwnt i'r Iorddonen, yn Gilead yng ngwlad yr Amoriaid. Wedyn croesodd yr Ammoniaid dros yr Iorddonen i ryfela yn erbyn Jwda a Benjamin a thylwyth Effraim, a bu'n gyfyng iawn ar Israel. Yna galwodd yr Israeliaid ar yr ARGLWYDD, a dweud, “Yr ydym wedi pechu yn d'erbyn; yr ydym wedi gadael ein Duw ac addoli'r Baalim.” Dywedodd yr ARGLWYDD wrth yr Israeliaid, “Pan ormeswyd chwi gan yr Eifftiaid, Amoriaid, Ammoniaid, Philistiaid, Sidoniaid, Amaleciaid, a Midianiaid, galwasoch arnaf fi, a gwaredais chwi o'u gafael. Ond yr ydych wedi fy ngadael i a gwasanaethu duwiau eraill, ac am hynny nid wyf am eich gwaredu rhagor. Ewch a galwch ar y duwiau yr ydych wedi eu dewis; bydded iddynt hwy eich gwaredu chwi yn awr eich cyfyngdra.” Yna dywedodd yr Israeliaid wrth yr ARGLWYDD, “Yr ydym wedi pechu; gwna inni beth bynnag a weli'n dda, ond eto gwared ni y tro hwn.” Bwriasant y duwiau dieithr allan o'u plith, a gwasanaethu'r ARGLWYDD, ac ni allai yntau oddef adfyd Israel yn hwy. Pan alwodd yr Ammoniaid eu milwyr ynghyd a gwersyllu yn Gilead, ymgasglodd yr Israeliaid hefyd a gwersyllu yn Mispa. Dywedodd swyddogion byddin Gilead wrth ei gilydd, “Pwy bynnag fydd yn dechrau'r ymladd â'r Ammoniaid, ef fydd yn ben ar holl drigolion Gilead.”

Barnwyr 10:1-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Ar ôl i Abimelech farw, dyma Tola, mab Pwa ac ŵyr Dodo, yn codi i achub Israel. Roedd yn perthyn i lwyth Issachar ac yn byw yn Shamîr ym mryniau Effraim. Bu’n arwain Israel am ddau ddeg tair o flynyddoedd. Pan fu farw, cafodd ei gladdu yn Shamîr. Ar ôl Tola, dyn o’r enw Jair o Gilead wnaeth arwain Israel am ddau ddeg dwy o flynyddoedd. Roedd gan Jair dri deg o feibion ac roedd gan bob un ohonyn nhw ei asyn ei hun, ac roedd pob un yn rheoli tref yn Gilead. Mae’r trefi yma yn Gilead yn dal i gael eu galw yn Hafoth-jair hyd heddiw. Pan fuodd Jair farw, cafodd ei gladdu yn Camon. Dyma bobl Israel, unwaith eto, yn gwneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. Dyma nhw’n addoli delwau o Baal a’r dduwies Ashtart, a duwiau Syria, Sidon, Moab, yr Ammoniaid a’r Philistiaid. Roedden nhw wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD ac wedi stopio’i addoli e! Roedd yr ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda phobl Israel. Dyma fe’n gadael i’r Philistiaid a’r Ammoniaid eu rheoli. Roedden nhw’n curo a cham-drin pobl Israel yn ddidrugaredd. Bu pobl Israel oedd yn byw ar dir yr Amoriaid, i’r dwyrain o afon Iorddonen (sef Gilead), yn dioddef am un deg wyth o flynyddoedd. Wedyn dyma’r Ammoniaid yn croesi’r Iorddonen i ymladd gyda llwythau Jwda, Benjamin ac Effraim. Roedd hi’n argyfwng go iawn ar Israel. Yna dyma bobl Israel yn gweiddi ar yr ARGLWYDD a dweud, “Dŷn ni wedi pechu yn dy erbyn di! Dŷn ni wedi troi cefn ar ein Duw ac addoli delwau Baal.” A dyma’r ARGLWYDD yn ateb, “Yr Eifftiaid, yr Amoriaid, yr Ammoniaid, y Philistiaid, y Sidoniaid, yr Amaleciaid, y Midianiaid…, mae pob un ohonyn nhw wedi’ch cam-drin chi. A phan oeddech chi’n gweiddi arna i am help, roeddwn i’n eich achub chi. Ond dw i ddim yn mynd i’ch achub chi eto. Dych chi wedi troi cefn arna i a mynd ar ôl duwiau eraill. Ewch i weiddi ar eich duwiau eich hunain – cân nhw’ch helpu chi!” Dyma bobl Israel yn dweud, “Dŷn ni wedi pechu. Ti’n iawn i’n cosbi ni. Ond plîs achub ni heddiw!” Yna dyma bobl Israel yn cael gwared â’r duwiau eraill oedd ganddyn nhw, a dechrau addoli’r ARGLWYDD eto. Yn y diwedd, roedd yr ARGLWYDD wedi blino gweld pobl Israel yn dioddef. Roedd byddin yr Ammoniaid yn paratoi i fynd i ryfel ac wedi gwersylla yn Gilead, tra oedd byddin Israel yn gwersylla yn Mitspa. Dyma arweinwyr Gilead yn gofyn, “Pwy sy’n barod i arwain yr ymosodiad yn erbyn byddin yr Ammoniaid? Bydd y person hwnnw’n cael ei wneud yn llywodraethwr ar Gilead!”

Barnwyr 10:1-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac ar ôl Abimelech, y cyfododd i waredu Israel, Tola, mab Pua, mab Dodo, gŵr o Issachar; ac efe oedd yn trigo yn Samir ym mynydd Effraim. Ac efe a farnodd Israel dair blynedd ar hugain, ac a fu farw, ac a gladdwyd yn Samir. Ac ar ei ôl ef y cyfododd Jair, Gileadiad; ac efe a farnodd Israel ddwy flynedd ar hugain. Ac iddo ef yr oedd deng mab ar hugain yn marchogaeth ar ddeg ar hugain o ebolion asynnod; a deg dinas ar hugain oedd ganddynt, y rhai a elwid Hafoth-jair hyd y dydd hwn, y rhai ydynt yng ngwlad Gilead. A Jair a fu farw, ac a gladdwyd yn Camon. A meibion Israel a chwanegasant wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac a wasanaethasant Baalim, ac Astaroth, a duwiau Syria, a duwiau Sidon, a duwiau Moab, a duwiau meibion Ammon, a duwiau y Philistiaid; a gwrthodasant yr ARGLWYDD, ac ni wasanaethasant ef. A llidiodd dicllonedd yr ARGLWYDD yn erbyn Israel; ac efe a’u gwerthodd hwynt yn llaw y Philistiaid, ac yn llaw meibion Ammon. A hwy a flinasant ac a ysigasant feibion Israel y flwyddyn honno: tair blynedd ar bymtheg, holl feibion Israel y rhai oedd tu hwnt i’r Iorddonen, yng ngwlad yr Amoriaid, yr hon sydd yn Gilead. A meibion Ammon a aethant trwy’r Iorddonen, i ymladd hefyd yn erbyn Jwda, ac yn erbyn Benjamin, ac yn erbyn tŷ Effraim; fel y bu gyfyng iawn ar Israel. A meibion Israel a lefasant ar yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Pechasom yn dy erbyn; oherwydd gwrthod ohonom ein DUW, a gwasanaethu Baalim hefyd. A dywedodd yr ARGLWYDD wrth feibion Israel, Oni waredais chwi rhag yr Eifftiaid, a rhag yr Amoriaid, a rhag meibion Ammon, a rhag y Philistiaid? Y Sidoniaid hefyd, a’r Amaleciaid, a’r Maoniaid, a’ch gorthrymasant chwi; a llefasoch arnaf, a minnau a’ch gwaredais chwi o’u llaw hwynt. Eto chwi a’m gwrthodasoch i, ac a wasanaethasoch dduwiau dieithr: am hynny ni waredaf chwi mwyach. Ewch, a llefwch at y duwiau a ddewisasoch: gwaredant hwy chwi yn amser eich cyfyngdra. A meibion Israel a ddywedasant wrth yr ARGLWYDD, Pechasom; gwna di i ni fel y gwelych yn dda: eto gwared ni, atolwg, y dydd hwn. A hwy a fwriasant ymaith y duwiau dieithr o’u mysg, ac a wasanaethasant yr ARGLWYDD: a’i enaid ef a dosturiodd, oherwydd adfyd Israel. Yna meibion Ammon a ymgynullasant, ac a wersyllasant yn Gilead: a meibion Israel a ymgasglasant, ac a wersyllasant ym Mispa. Y bobl hefyd a thywysogion Gilead a ddywedasant wrth ei gilydd, Pa ŵr a ddechrau ymladd yn erbyn meibion Ammon? efe a fydd yn bennaeth ar drigolion Gilead.