Iago 5:14-16
Iago 5:14-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Oes rhywun yn sâl? Dylai ofyn i arweinwyr yr eglwys leol ddod i weddïo drosto a’i eneinio ag olew ar ran yr Arglwydd. Os gwnân nhw weddïo a chredu yn nerth Duw bydd y claf yn cael ei iacháu. Bydd yr Arglwydd yn ei godi ar ei draed, ac os ydy e wedi pechu, bydd yn cael maddeuant. Felly cyffeswch eich pechodau i’ch gilydd a gweddïwch dros eich gilydd, er mwyn i chi gael eich iacháu. Mae gweddi daer rhywun sydd â pherthynas iawn gyda Duw yn beth grymus ac effeithiol.
Iago 5:14-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A oes rhywun yn glaf yn eich plith? Galwed ato henuriaid yr eglwys, i weddïo trosto a'i eneinio ag olew yn enw yr Arglwydd. Bydd gweddi a offrymir mewn ffydd yn iacháu y sawl sy'n glaf, a bydd yr Arglwydd yn ei godi ar ei draed; ac os yw wedi pechu, fe gaiff faddeuant. Felly, cyffeswch eich pechodau i'ch gilydd, a gweddïwch dros eich gilydd, er mwyn ichwi gael iachâd. Peth grymus iawn ac effeithiol yw gweddi y cyfiawn.
Iago 5:14-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A oes neb yn eich plith yn glaf? galwed ato henuriaid yr eglwys; a gweddïant hwy drosto, gan ei eneinio ef ag olew yn enw’r Arglwydd: A gweddi’r ffydd a iachâ’r claf, a’r Arglwydd a’i cyfyd ef i fyny; ac os bydd wedi gwneuthur pechodau, hwy a faddeuir iddo. Cyffeswch eich camweddau bawb i’ch gilydd, a gweddïwch dros eich gilydd, fel y’ch iachaer. Llawer a ddichon taer weddi’r cyfiawn.