Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Iago 5:1-12

Iago 5:1-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

A chi bobl gyfoethog, gwrandwch! – dylech chi fod yn crio ac yn griddfan o achos y dioddefaint sydd o’ch blaenau. Mae’ch cyfoeth chi’n pydru a’ch dillad yn cael eu difa gan wyfynod. Mae’ch aur a’ch arian chi’n rhydu, a bydd yn dystiolaeth yn eich erbyn chi. Cewch eich difa gan dân am gasglu cyfoeth i chi’ch hunain mewn byd sy’n dod i ben. Gwrandwch! Mae’r cyflogau dych chi heb eu talu i’r gweithwyr yn gweiddi’n uchel. Mae Arglwydd y Lluoedd wedi clywed cri y rhai hynny fu’n casglu’r cynhaeaf yn eich caeau chi. Dych chi wedi byw’n foethus ac wedi bod yn gwbl hunanol. Ydych! Dych chi wedi bod yn pesgi’ch hunain ar gyfer y diwrnod y byddwch chi’n mynd i’r lladd-dy! Mae pobl ddiniwed sydd ddim yn gallu’ch gwrthwynebu chi wedi’u hecsbloetio a’u condemnio i farwolaeth gynnoch chi. Felly, frodyr a chwiorydd annwyl, byddwch yn amyneddgar wrth ddisgwyl i’r Arglwydd ddod yn ôl. Meddyliwch am y ffermwr sy’n disgwyl yn amyneddgar am law yn yr hydref a’r gwanwyn i wneud i’r cnwd dyfu. Dylech chi fod yr un mor amyneddgar, a sefyll yn gadarn, gan fod yr Arglwydd yn dod yn fuan. Peidiwch grwgnach am eich gilydd, frodyr a chwiorydd, neu cewch chi’ch cosbi. Mae’r Barnwr yn dod! Mae’n sefyll y tu allan i’r drws! Ystyriwch y proffwydi hynny oedd yn cyhoeddi neges Duw – dyna i chi beth ydy amynedd yn wyneb dioddefaint! Fel dych chi’n gwybod, y rhai wnaeth ddal ati gafodd eu bendithio. Mae Job yn enghraifft dda o ddyn wnaeth ddal ati drwy’r cwbl, a chofiwch beth wnaeth yr Arglwydd iddo yn y diwedd. Mae tosturi a thrugaredd yr Arglwydd mor fawr! Ac yn olaf, frodyr a chwiorydd: peidiwch byth tyngu llw – ddim i’r nefoedd nac i’r ddaear na dim arall. Dylai dweud “ie” olygu “ie”, a dweud “na” olygu “na”, wedyn chewch chi mo’ch cosbi.

Iago 5:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Ac yn awr, chwi'r cyfoethogion, wylwch ac udwch o achos y trallodion sydd yn dod arnoch. Y mae eich golud wedi pydru, ac y mae'r gwyfyn wedi difa eich dillad. Y mae eich aur a'ch arian wedi rhydu, a bydd eu rhwd yn dystiolaeth yn eich erbyn, ac yn bwyta eich cnawd fel tân. Casglu cyfoeth a wnaethoch yn y dyddiau olaf. Clywch! Y mae'r cyflogau na thalasoch i'r gweithwyr a fedodd eich meysydd yn gweiddi allan; ac y mae llefain y medelwyr yng nghlustiau Arglwydd y Lluoedd. Buoch yn byw yn foethus a glwth ar y ddaear; buoch yn eich pesgi'ch hunain ar gyfer dydd y lladdfa. Yr ydych wedi condemnio a lladd y cyfiawn, heb iddo yntau eich gwrthsefyll. Byddwch yn amyneddgar, gyfeillion, hyd ddyfodiad yr Arglwydd. Gwelwch fel y mae'r ffermwr yn aros am gynnyrch gwerthfawr y ddaear, yn fawr ei amynedd amdano nes i'r ddaear dderbyn y glaw cynnar a diweddar. Byddwch chwithau hefyd yn amyneddgar, a'ch cadw eich hunain yn gadarn, oherwydd y mae dyfodiad yr Arglwydd wedi dod yn agos. Peidiwch ag achwyn ar eich gilydd, fy nghyfeillion, rhag ichwi gael eich barnu. Gwelwch, y mae'r Barnwr yn sefyll wrth y drws. Ystyriwch, gyfeillion, fel esiampl o rai'n dioddef yn amyneddgar, y proffwydi a lefarodd yn enw'r Arglwydd. Ac yr ydym yn dweud mai gwyn eu byd y rhai a ddaliodd eu tir. Clywsoch am ddyfalbarhad Job, a gwelsoch y diwedd a gafodd ef gan yr Arglwydd; y mae'r Arglwydd mor dosturiol a thrugarog. Ond yn anad dim, fy nghyfeillion, peidiwch â thyngu llw wrth y nef, nac wrth y ddaear, nac wrth ddim arall chwaith. I'r gwrthwyneb, bydded eich “ie” yn “ie” yn unig, a'ch “nage” yn “nage” yn unig, rhag ichwi syrthio dan farn.

Iago 5:1-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Iddo yn awr, chwi gyfoethogion, wylwch ac udwch am eich trueni sydd yn dyfod arnoch. Eich cyfoeth a bydrodd, a’ch gwisgoedd a fwytawyd gan bryfed. Eich aur a’ch arian a rydodd; a’u rhwd hwynt a fydd yn dystiolaeth yn eich erbyn chwi, ac a fwyty eich cnawd chwi fel tân. Chwi a gasglasoch drysor yn y dyddiau diwethaf. Wele, y mae cyflog y gweithwyr, a fedasant eich meysydd chwi, yr hwn a gamataliwyd gennych, yn llefain: a llefain y rhai a fedasant a ddaeth i mewn i glustiau Arglwydd y lluoedd. Moethus fuoch ar y ddaear, a thrythyll; meithrin eich calonnau a wnaethoch, megis mewn dydd lladdedigaeth. Condemniasoch a lladdasoch y cyfiawn: ac yntau heb sefyll i’ch erbyn. Byddwch gan hynny yn ymarhous, frodyr, hyd ddyfodiad yr Arglwydd. Wele, y mae’r llafurwr yn disgwyl am werthfawr ffrwyth y ddaear, yn dda ei amynedd amdano, nes iddo dderbyn y glaw cynnar a diweddar. Byddwch chwithau hefyd dda eich amynedd; cadarnhewch eich calonnau: oblegid dyfodiad yr Arglwydd a nesaodd. Na rwgnechwch yn erbyn eich gilydd, frodyr, fel na’ch condemnier: wele, y mae’r Barnwr yn sefyll wrth y drws. Cymerwch, fy mrodyr, y proffwydi, y rhai a lefarasant yn enw yr Arglwydd, yn siampl o ddioddef blinder, ac o hirymaros. Wele, dedwydd yr ydym yn gadael y rhai sydd ddioddefus. Chwi a glywsoch am amynedd Job, ac a welsoch ddiwedd yr Arglwydd: oblegid tosturiol iawn yw’r Arglwydd, a thrugarog. Eithr o flaen pob peth, fy mrodyr, na thyngwch, nac i’r nef, nac i’r ddaear, nac un llw arall: eithr bydded eich ie chwi yn ie, a’ch nage yn nage; fel na syrthioch i farnedigaeth.