Iago 4:13-16
Iago 4:13-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Gwrandwch, chi sy’n dweud, “Awn i’r lle a’r lle heddiw neu fory, aros yno am flwyddyn, dechrau busnes a gwneud llwyth o arian.” Wyddoch chi ddim beth fydd yn digwydd fory! Dydy’ch bywyd chi yn ddim byd ond tarth – mae’n ymddangos am ryw ychydig, ac yna’n diflannu! Dyma beth dylech chi ddweud: “Os Duw a’i myn, cawn ni wneud hyn a’r llall.” Ond yn lle hynny dych chi’n brolio eich bod yn mynd i wneud rhyw bethau mawr. Peth drwg ydy brolio fel hyn.
Iago 4:13-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Clywch yn awr, chwi sy'n dweud, “Heddiw neu yfory, byddwn yn mynd i'r ddinas a'r ddinas, ac fe dreuliwn flwyddyn yno yn marchnata ac yn gwneud arian.” Nid oes gan rai fel chwi ddim syniad sut y bydd hi ar eich bywyd yfory. Nid ydych ond tarth, sy'n cael ei weld am ychydig, ac yna'n diflannu. Dylech ddweud, yn hytrach, “Os yr Arglwydd a'i myn, byddwn yn fyw ac fe wnawn hyn neu'r llall.” Ond yn lle hynny, ymffrostio yr ydych yn eich honiadau balch. Y mae pob ymffrost o'r fath yn ddrwg.
Iago 4:13-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Iddo yn awr, y rhai ydych yn dywedyd, Heddiw neu yfory ni a awn i gyfryw ddinas, ac a arhoswn yno flwyddyn, ac a farchnatawn, ac a enillwn: Y rhai ni wyddoch beth a fydd yfory. Canys beth ydyw eich einioes chwi? Canys tarth ydyw, yr hwn sydd dros ychydig yn ymddangos, ac wedi hynny yn diflannu. Lle y dylech ddywedyd, Os yr Arglwydd a’i myn, ac os byddwn byw, ni a wnawn hyn, neu hynny. Eithr yn awr gorfoleddu yr ydych yn eich ymffrost: pob cyfryw orfoledd, drwg ydyw.