Iago 4:1-3
Iago 4:1-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Beth sy’n gyfrifol am yr holl frwydro a’r gwrthdaro sy’n eich plith chi? Onid yr ymdrech barhaus i fodloni’r hunan ydy’r drwg? Dych chi eisiau rhywbeth ond yn methu ei gael. Mae’r ysfa yn gwneud i chi fod yn barod i ladd. Dych chi eisiau pethau ac yn methu cael gafael ynddyn nhw, felly dych chi’n ffraeo ac yn ymladd. Dych chi ddim yn cael am eich bod chi ddim yn gofyn i Dduw. A dych chi ddim yn derbyn hyd yn oed pan dych chi yn gofyn, am eich bod chi’n gofyn am y rheswm anghywir! Dych chi ddim ond eisiau bodloni eich awydd am bleser.
Iago 4:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
O ble y daeth ymrafaelion a chwerylon yn eich plith? Onid o'r chwantau sy'n milwrio yn eich aelodau? Yr ydych yn chwennych ac yn methu cael; yr ydych yn llofruddio ac eiddigeddu ac yn methu meddiannu; yr ydych yn ymladd a rhyfela. Nid ydych yn cael am nad ydych yn gofyn. A phan fyddwch yn gofyn, nid ydych yn derbyn, a hynny am eich bod yn gofyn ar gam, â'ch bryd ar wario yr hyn a gewch ar eich pleserau.
Iago 4:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
O ba le y mae rhyfeloedd ac ymladdau yn eich plith chwi? onid oddi wrth hyn, sef eich melyschwantau y rhai sydd yn rhyfela yn eich aelodau? Chwenychu yr ydych, ac nid ydych yn cael: cenfigennu yr ydych ac eiddigeddu, ac nid ydych yn gallu cyrhaeddyd: ymladd a rhyfela yr ydych, ond nid ydych yn cael, am nad ydych yn gofyn. Gofyn yr ydych, ac nid ydych yn derbyn, oherwydd eich bod yn gofyn ar gam, fel y galloch eu treulio ar eich melyschwantau.