Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Iago 3:1-12

Iago 3:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Fy nghyfeillion, peidiwch â thyrru i fod yn athrawon, oherwydd fe wyddoch y byddwn ni'r athrawon yn cael ein barnu'n llymach. Oherwydd y mae mynych lithriad yn hanes pawb ohonom. Os gall rhywun ymgadw rhag llithro yn ei ymadrodd, dyma un perffaith, â'r gallu ganddo i ffrwyno ei holl gorff hefyd. Yr ydym yn rhoi'r ffrwyn yng ngenau'r march i'w wneud yn ufudd inni, ac yna gallwn droi ei gorff cyfan. A llongau yr un modd; hyd yn oed os ydynt yn llongau mawr, ac yn cael eu gyrru gan wyntoedd geirwon, gellir eu troi â llyw bychan iawn i ba gyfeiriad bynnag y mae'r peilot yn ei ddymuno. Felly hefyd y mae'r tafod; aelod bychan ydyw, ond y mae'n honni pethau mawr. Ystyriwch fel y mae gwreichionen fechan yn gallu rhoi coedwig fawr ar dân. A thân yw'r tafod; byd o anghyfiawnder ydyw, wedi ei osod ymhlith ein haelodau, yn halogi'r corff i gyd, ac yn rhoi holl gylch ein bodolaeth ar dân wrth iddo ef ei hun gael ei roi ar dân gan uffern. Y mae'r hil ddynol yn gallu rheoli pob math o anifeiliaid ac adar, o ymlusgiaid a physgod; yn wir, y mae wedi eu rheoli. Ond nid oes neb sy'n gallu rheoli'r tafod. Drwg diorffwys yw, yn llawn o wenwyn marwol. Â'r tafod yr ydym yn bendithio'r Arglwydd a'r Tad; â'r tafod hefyd yr ydym yn melltithio'r rhai a luniwyd ar ddelw Duw. O'r un genau y mae bendith a melltith yn dod. Fy nghyfeillion, nid felly y mae pethau i fod. A welir dŵr peraidd a dŵr chwerw yn tarddu o lygad yr un ffynnon? A yw'r pren ffigys, fy nghyfeillion, yn gallu dwyn olifiau, neu'r winwydden ffigys? Nac ydyw, ac ni ddaw dŵr peraidd o ddŵr hallt chwaith.

Iago 3:1-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Frodyr a chwiorydd, nid lle pawb ydy ceisio bod yn athrawon sy’n dysgu pobl eraill yn yr eglwys. Dylech sylweddoli y byddwn ni sy’n dysgu eraill yn cael ein barnu’n fwy llym. Dŷn ni i gyd yn gwneud pob math o gamgymeriadau. Os oes rhywun yn gallu rheoli ei dafod, a dweud dim byd o’i le byth, dyna i chi berson perffaith! Rhywun sy’n gallu rheoli ei hun yn llwyr. Dŷn ni’n rhoi ffrwyn ar geffyl i’w wneud yn ufudd i ni, a’i droi i’r cyfeiriad dŷn ni am iddo fynd. A gyda llongau mawr sy’n cael eu gyrru gan wyntoedd cryfion, llyw bach iawn sydd ei angen i’r peilot eu troi nhw i ble bynnag mae’n dewis mynd. Dyna i chi’r tafod! Mae’n rhan bach iawn o’r corff, ond mae’n gallu honni pethau mawr iawn! Fflam fach iawn sydd ei angen i roi coedwig enfawr ar dân. A fflam felly ydy’r tafod! Mae’r tafod yn llawn drygioni, ac o bob rhan o’r corff, hwn ydy’r un sy’n gallu llygru’r bersonoliaeth gyfan. Mae’n gallu dinistrio holl gwrs ein bywyd ni! Mae’n fflam sydd wedi’i thanio gan uffern! Mae pobl yn gallu dofi pob math o anifeiliaid ac adar, ymlusgiaid a physgod, ond does neb byw sy’n gallu dofi’r tafod. Mae’n ddrwg cwbl afreolus; mae’n llawn gwenwyn marwol! Gallwn addoli ein Harglwydd a’n Tad nefol un funud, ac yna’r funud nesa dŷn ni’n melltithio pobl sydd wedi’u creu ar ddelw Duw! Mae bendith a melltith yn llifo o’r un geg! Ddylai hi ddim bod felly, frodyr a chwiorydd! Ydy dŵr glân a dŵr hallt yn tarddu o’r un ffynnon? Ydy olewydd yn tyfu ar goeden ffigys, neu ffigys ar winwydden? Wrth gwrs ddim! A dydy pwll o ddŵr hallt ddim yn rhoi dŵr glân i ni chwaith!

Iago 3:1-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Na fyddwch feistriaid lawer, fy mrodyr: gan wybod y derbyniwn ni farnedigaeth fwy. Canys mewn llawer o bethau yr ydym ni bawb yn llithro. Od oes neb heb lithro ar air, gŵr perffaith yw hwnnw, yn gallu ffrwyno’r holl gorff hefyd. Wele, yr ydym ni yn rhoddi ffrwynau ym mhennau’r meirch, i’w gwneuthur yn ufudd i ni; ac yr ydym yn troi eu holl gorff hwy oddi amgylch. Wele, y llongau hefyd, er eu maint, ac er eu gyrru gan wyntoedd creulon, a droir oddi amgylch â llyw bychan, lle y mynno’r llywydd. Felly hefyd y tafod, aelod bychan yw, ac yn ffrostio pethau mawrion. Wele, faint o ddefnydd y mae ychydig dân yn ei ennyn! A’r tafod, tân ydyw, byd o anghyfiawnder. Felly y mae’r tafod wedi ei osod ymhlith ein haelodau ni, fel y mae yn halogi’r holl gorff, ac yn gosod troell naturiaeth yn fflam; ac wedi ei wneuthur yn fflam gan uffern. Canys holl natur gwylltfilod, ac adar, ac ymlusgiaid, a’r pethau yn y môr, a ddofir ac a ddofwyd gan natur ddynol: Eithr y tafod ni ddichon un dyn ei ddofi; drwg anllywodraethus ydyw, yn llawn gwenwyn marwol. Ag ef yr ydym yn bendithio Duw a’r Tad; ag ef hefyd yr ydym yn melltithio dynion, a wnaethpwyd ar lun Duw. O’r un genau y mae’n dyfod allan fendith a melltith. Fy mrodyr, ni ddylai’r pethau hyn fod felly. A ydyw ffynnon o’r un llygad yn rhoi dwfr melys a chwerw? A ddichon y pren ffigys, fy mrodyr, ddwyn olifaid? neu winwydden, ffigys? felly ni ddichon un ffynnon roddi dwfr hallt a chroyw.