Iago 2:8-12
Iago 2:8-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Os ydych chi’n ufudd i orchymyn pwysica’r ysgrifau sanctaidd: “Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti’n dy garu dy hun,” da iawn chi. Ond os ydych chi’n dangos ffafriaeth dych chi’n pechu, ac mae Cyfraith Duw yn dweud eich bod chi’n droseddwr. Mae torri un o orchmynion Duw yr un fath â thorri’r Gyfraith i gyd. Dwedodd Duw “Paid godinebu” (sef cael rhyw tu allan i dy briodas), a dwedodd hefyd “Paid llofruddio” . Felly os wyt ti’n lladd rhywun, rwyt ti wedi torri’r Gyfraith, hyd yn oed os wyt ti ddim wedi godinebu. Dylech chi siarad a byw fel pobl sy’n mynd i gael eu barnu gan gyfraith cariad, sef ‘y gyfraith sy’n eich rhyddhau chi’.
Iago 2:8-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Os cyflawni yr ydych y gyfraith frenhinol yn ôl yr ysgrythur, Câr dy gymydog fel ti dy hun; da yr ydych yn gwneuthur: Eithr os derbyn wyneb yr ydych, yr ydych yn gwneuthur pechod, ac yn cael eich argyhoeddi gan y gyfraith megis troseddwyr. Canys pwy bynnag a gadwo’r gyfraith i gyd oll, ac a ballo mewn un pwnc, y mae efe yn euog o’r cwbl. Canys y neb a ddywedodd, Na odineba, a ddywedodd hefyd, Na ladd. Ac os ti ni odinebi, eto a leddi, yr wyt ti yn troseddu’r gyfraith. Felly dywedwch, ac felly gwnewch, megis rhai a fernir wrth gyfraith rhyddid.
Iago 2:8-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Wrth gwrs, os cyflawni gofynion y Gyfraith frenhinol yr ydych, yn unol â'r Ysgrythur, “Câr dy gymydog fel ti dy hun”, yr ydych yn gwneud yn ardderchog. Ond os ydych yn dangos ffafriaeth, cyflawni pechod yr ydych, ac yng ngoleuni'r Gyfraith yr ydych yn droseddwyr. Y mae pwy bynnag a gadwodd holl ofynion y Gyfraith, ond a lithrodd ar un peth, yn euog o dorri'r cwbl. Oherwydd y mae'r un a ddywedodd, “Na odineba”, wedi dweud hefyd, “Na ladd”. Os nad wyt yn godinebu, ond eto yn lladd, yr wyt yn droseddwr yn erbyn y Gyfraith. Llefarwch a gweithredwch fel rhai sydd i'w barnu dan gyfraith rhyddid.