Iago 2:3-7
Iago 2:3-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Petaech chi’n rhoi’r sylw i gyd i’r person yn y dillad crand, ac yn dweud wrtho, “Eisteddwch yma, dyma’r sedd orau”, ond wedyn yn dweud wrth y cardotyn, “Dos di i sefyll yn y cefn, fan acw” neu, “Eistedd di ar lawr yn y gornel yma”, fyddech chi ddim yn awgrymu fod un person yn well na’r llall ac yn dangos fod eich cymhellion chi’n anghywir? Gwrandwch arna i, frodyr a chwiorydd annwyl. Onid y bobl sy’n dlawd yng ngolwg y byd mae Duw wedi’u dewis i fod yn gyfoethog yn ysbrydol? Byddan nhw’n cael rhannu yn y deyrnas mae wedi’i haddo i’r rhai sy’n ei garu. Ond dych chi’n amharchu’r tlawd! Y cyfoethog ydy’r bobl sy’n eich cam-drin chi! Onid nhw sy’n eich llusgo chi o flaen y llysoedd? Onid nhw sy’n cablu enw da yr un dych chi’n perthyn iddo?
Iago 2:3-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A bwriwch eich bod chwi'n talu sylw i'r un sy'n gwisgo dillad crand, ac yn dweud wrtho ef, “Eisteddwch yma, os gwelwch yn dda”; ond eich bod yn dweud wrth y dyn tlawd, “Saf di fan draw, neu eistedd wrth fy nhroedfainc.” Onid ydych yn anghyson eich agwedd ac yn llygredig eich barn? Clywch, fy nghyfeillion annwyl. Oni ddewisodd Duw y rhai sy'n dlawd yng ngolwg y byd i fod yn gyfoethog mewn ffydd ac yn etifeddion y deyrnas a addawodd ef i'r rhai sydd yn ei garu? Eto rhoesoch chwi anfri ar y dyn tlawd. Onid y cyfoethogion sydd yn eich gormesu chwi, ac onid hwy sydd yn eich llusgo i'r llysoedd? Onid hwy sydd yn cablu'r enw glân a alwyd arnoch?
Iago 2:3-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac edrych ohonoch ar yr hwn sydd yn gwisgo’r dillad gwychion, a dywedyd wrtho, Eistedd di yma mewn lle da; a dywedyd wrth y tlawd, Saf di yna, neu eistedd yma islaw fy ystôl droed i: Onid ydych chwi dueddol ynoch eich hunain? ac onid aethoch yn farnwyr meddyliau drwg? Gwrandewch, fy mrodyr annwyl; Oni ddewisodd Duw dlodion y byd hwn yn gyfoethogion mewn ffydd, ac yn etifeddion y deyrnas yr hon a addawodd efe i’r rhai sydd yn ei garu ef? Eithr chwithau a amharchasoch y tlawd. Onid yw’r cyfoethogion yn eich gorthrymu chwi, ac yn eich tynnu gerbron brawdleoedd? Onid ydynt hwy’n cablu’r enw rhagorol, yr hwn a elwir arnoch chwi?