Iago 2:20-22
Iago 2:20-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y ffŵl, a oes rhaid dy argyhoeddi mai diwerth yw ffydd heb weithredoedd? Onid trwy ei weithredoedd y cyfiawnhawyd Abraham, ein tad, pan offrymodd ef Isaac, ei fab, ar yr allor? Y mae'n eglur iti mai cydweithio â'i weithredoedd yr oedd ei ffydd, ac mai trwy'r gweithredoedd y cafodd ei ffydd ei mynegi'n berffaith.
Iago 2:20-22 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Y twpsyn! Oes rhaid i mi brofi i ti fod ‘credu’ sydd ddim yn arwain at wneud rhywbeth yn dda i ddim? Meddylia am ein cyndad Abraham. Onid y ffaith ei fod wedi gweithredu, a mynd ati i offrymu ei fab Isaac ar yr allor wnaeth ei berthynas e gyda Duw yn iawn? Roedd ei ffydd i’w weld drwy beth wnaeth e. Roedd y gweithredu yn dangos ei fod yn credu go iawn, dim rhyw hanner credu.
Iago 2:20-22 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Eithr a fynni di wybod, O ddyn ofer, am ffydd heb weithredoedd, mai marw yw? Abraham ein tad ni, onid o weithredoedd y cyfiawnhawyd ef, pan offrymodd efe Isaac ei fab ar yr allor? Ti a weli fod ffydd yn cydweithio â’i weithredoedd ef, a thrwy weithredoedd fod ffydd wedi ei pherffeithio.