Iago 2:10-13
Iago 2:10-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae torri un o orchmynion Duw yr un fath â thorri’r Gyfraith i gyd. Dwedodd Duw “Paid godinebu” (sef cael rhyw tu allan i dy briodas), a dwedodd hefyd “Paid llofruddio” . Felly os wyt ti’n lladd rhywun, rwyt ti wedi torri’r Gyfraith, hyd yn oed os wyt ti ddim wedi godinebu. Dylech chi siarad a byw fel pobl sy’n mynd i gael eu barnu gan gyfraith cariad, sef ‘y gyfraith sy’n eich rhyddhau chi’. Fydd dim trugaredd i chi os ydych chi heb ddangos trugaredd at eraill, ond mae dangos trugaredd yn trechu barn.
Iago 2:10-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae pwy bynnag a gadwodd holl ofynion y Gyfraith, ond a lithrodd ar un peth, yn euog o dorri'r cwbl. Oherwydd y mae'r un a ddywedodd, “Na odineba”, wedi dweud hefyd, “Na ladd”. Os nad wyt yn godinebu, ond eto yn lladd, yr wyt yn droseddwr yn erbyn y Gyfraith. Llefarwch a gweithredwch fel rhai sydd i'w barnu dan gyfraith rhyddid. Didrugaredd fydd y farn honno i'r sawl na ddangosodd drugaredd. Trech trugaredd na barn.
Iago 2:10-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys pwy bynnag a gadwo’r gyfraith i gyd oll, ac a ballo mewn un pwnc, y mae efe yn euog o’r cwbl. Canys y neb a ddywedodd, Na odineba, a ddywedodd hefyd, Na ladd. Ac os ti ni odinebi, eto a leddi, yr wyt ti yn troseddu’r gyfraith. Felly dywedwch, ac felly gwnewch, megis rhai a fernir wrth gyfraith rhyddid. Canys barn ddidrugaredd fydd i’r hwn ni wnaeth drugaredd; ac y mae trugaredd yn gorfoleddu yn erbyn barn.