Iago 2:1-4
Iago 2:1-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Frodyr a chwiorydd, dydy dangos ffafriaeth ddim yn beth iawn i bobl sy’n dweud eu bod nhw’n credu yn ein Harglwydd bendigedig ni, Iesu Grist. Er enghraifft, meddyliwch petai rhywun cyfoethog, yn gwisgo dillad crand a modrwyau aur a gemau, yn dod i mewn i un o’ch cyfarfodydd, ac yna cardotyn tlawd mewn dillad budron yn dod i mewn hefyd. Petaech chi’n rhoi’r sylw i gyd i’r person yn y dillad crand, ac yn dweud wrtho, “Eisteddwch yma, dyma’r sedd orau”, ond wedyn yn dweud wrth y cardotyn, “Dos di i sefyll yn y cefn, fan acw” neu, “Eistedd di ar lawr yn y gornel yma”, fyddech chi ddim yn awgrymu fod un person yn well na’r llall ac yn dangos fod eich cymhellion chi’n anghywir?
Iago 2:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Fy nghyfeillion, fel rhai sydd â ffydd yn ein Harglwydd Iesu Grist, Arglwydd y gogoniant, peidiwch â rhoi lle i ffafriaeth. Bwriwch fod dyn â modrwy aur a dillad crand yn dod i'r cwrdd, a bod dyn tlawd mewn dillad carpiog yn dod hefyd. A bwriwch eich bod chwi'n talu sylw i'r un sy'n gwisgo dillad crand, ac yn dweud wrtho ef, “Eisteddwch yma, os gwelwch yn dda”; ond eich bod yn dweud wrth y dyn tlawd, “Saf di fan draw, neu eistedd wrth fy nhroedfainc.” Onid ydych yn anghyson eich agwedd ac yn llygredig eich barn?
Iago 2:1-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Fy mrodyr, na fydded gennych ffydd ein Harglwydd ni Iesu Grist, sef Arglwydd y gogoniant, gyda derbyn wyneb. Oblegid os daw i mewn i’ch cynulleidfa chwi ŵr â modrwy aur, mewn dillad gwychion, a dyfod hefyd un tlawd mewn dillad gwael; Ac edrych ohonoch ar yr hwn sydd yn gwisgo’r dillad gwychion, a dywedyd wrtho, Eistedd di yma mewn lle da; a dywedyd wrth y tlawd, Saf di yna, neu eistedd yma islaw fy ystôl droed i: Onid ydych chwi dueddol ynoch eich hunain? ac onid aethoch yn farnwyr meddyliau drwg?