Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Iago 2:1-13

Iago 2:1-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Frodyr a chwiorydd, dydy dangos ffafriaeth ddim yn beth iawn i bobl sy’n dweud eu bod nhw’n credu yn ein Harglwydd bendigedig ni, Iesu Grist. Er enghraifft, meddyliwch petai rhywun cyfoethog, yn gwisgo dillad crand a modrwyau aur a gemau, yn dod i mewn i un o’ch cyfarfodydd, ac yna cardotyn tlawd mewn dillad budron yn dod i mewn hefyd. Petaech chi’n rhoi’r sylw i gyd i’r person yn y dillad crand, ac yn dweud wrtho, “Eisteddwch yma, dyma’r sedd orau”, ond wedyn yn dweud wrth y cardotyn, “Dos di i sefyll yn y cefn, fan acw” neu, “Eistedd di ar lawr yn y gornel yma”, fyddech chi ddim yn awgrymu fod un person yn well na’r llall ac yn dangos fod eich cymhellion chi’n anghywir? Gwrandwch arna i, frodyr a chwiorydd annwyl. Onid y bobl sy’n dlawd yng ngolwg y byd mae Duw wedi’u dewis i fod yn gyfoethog yn ysbrydol? Byddan nhw’n cael rhannu yn y deyrnas mae wedi’i haddo i’r rhai sy’n ei garu. Ond dych chi’n amharchu’r tlawd! Y cyfoethog ydy’r bobl sy’n eich cam-drin chi! Onid nhw sy’n eich llusgo chi o flaen y llysoedd? Onid nhw sy’n cablu enw da yr un dych chi’n perthyn iddo? Os ydych chi’n ufudd i orchymyn pwysica’r ysgrifau sanctaidd: “Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti’n dy garu dy hun,” da iawn chi. Ond os ydych chi’n dangos ffafriaeth dych chi’n pechu, ac mae Cyfraith Duw yn dweud eich bod chi’n droseddwr. Mae torri un o orchmynion Duw yr un fath â thorri’r Gyfraith i gyd. Dwedodd Duw “Paid godinebu” (sef cael rhyw tu allan i dy briodas), a dwedodd hefyd “Paid llofruddio” . Felly os wyt ti’n lladd rhywun, rwyt ti wedi torri’r Gyfraith, hyd yn oed os wyt ti ddim wedi godinebu. Dylech chi siarad a byw fel pobl sy’n mynd i gael eu barnu gan gyfraith cariad, sef ‘y gyfraith sy’n eich rhyddhau chi’. Fydd dim trugaredd i chi os ydych chi heb ddangos trugaredd at eraill, ond mae dangos trugaredd yn trechu barn.

Iago 2:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Fy nghyfeillion, fel rhai sydd â ffydd yn ein Harglwydd Iesu Grist, Arglwydd y gogoniant, peidiwch â rhoi lle i ffafriaeth. Bwriwch fod dyn â modrwy aur a dillad crand yn dod i'r cwrdd, a bod dyn tlawd mewn dillad carpiog yn dod hefyd. A bwriwch eich bod chwi'n talu sylw i'r un sy'n gwisgo dillad crand, ac yn dweud wrtho ef, “Eisteddwch yma, os gwelwch yn dda”; ond eich bod yn dweud wrth y dyn tlawd, “Saf di fan draw, neu eistedd wrth fy nhroedfainc.” Onid ydych yn anghyson eich agwedd ac yn llygredig eich barn? Clywch, fy nghyfeillion annwyl. Oni ddewisodd Duw y rhai sy'n dlawd yng ngolwg y byd i fod yn gyfoethog mewn ffydd ac yn etifeddion y deyrnas a addawodd ef i'r rhai sydd yn ei garu? Eto rhoesoch chwi anfri ar y dyn tlawd. Onid y cyfoethogion sydd yn eich gormesu chwi, ac onid hwy sydd yn eich llusgo i'r llysoedd? Onid hwy sydd yn cablu'r enw glân a alwyd arnoch? Wrth gwrs, os cyflawni gofynion y Gyfraith frenhinol yr ydych, yn unol â'r Ysgrythur, “Câr dy gymydog fel ti dy hun”, yr ydych yn gwneud yn ardderchog. Ond os ydych yn dangos ffafriaeth, cyflawni pechod yr ydych, ac yng ngoleuni'r Gyfraith yr ydych yn droseddwyr. Y mae pwy bynnag a gadwodd holl ofynion y Gyfraith, ond a lithrodd ar un peth, yn euog o dorri'r cwbl. Oherwydd y mae'r un a ddywedodd, “Na odineba”, wedi dweud hefyd, “Na ladd”. Os nad wyt yn godinebu, ond eto yn lladd, yr wyt yn droseddwr yn erbyn y Gyfraith. Llefarwch a gweithredwch fel rhai sydd i'w barnu dan gyfraith rhyddid. Didrugaredd fydd y farn honno i'r sawl na ddangosodd drugaredd. Trech trugaredd na barn.

Iago 2:1-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Fy mrodyr, na fydded gennych ffydd ein Harglwydd ni Iesu Grist, sef Arglwydd y gogoniant, gyda derbyn wyneb. Oblegid os daw i mewn i’ch cynulleidfa chwi ŵr â modrwy aur, mewn dillad gwychion, a dyfod hefyd un tlawd mewn dillad gwael; Ac edrych ohonoch ar yr hwn sydd yn gwisgo’r dillad gwychion, a dywedyd wrtho, Eistedd di yma mewn lle da; a dywedyd wrth y tlawd, Saf di yna, neu eistedd yma islaw fy ystôl droed i: Onid ydych chwi dueddol ynoch eich hunain? ac onid aethoch yn farnwyr meddyliau drwg? Gwrandewch, fy mrodyr annwyl; Oni ddewisodd Duw dlodion y byd hwn yn gyfoethogion mewn ffydd, ac yn etifeddion y deyrnas yr hon a addawodd efe i’r rhai sydd yn ei garu ef? Eithr chwithau a amharchasoch y tlawd. Onid yw’r cyfoethogion yn eich gorthrymu chwi, ac yn eich tynnu gerbron brawdleoedd? Onid ydynt hwy’n cablu’r enw rhagorol, yr hwn a elwir arnoch chwi? Os cyflawni yr ydych y gyfraith frenhinol yn ôl yr ysgrythur, Câr dy gymydog fel ti dy hun; da yr ydych yn gwneuthur: Eithr os derbyn wyneb yr ydych, yr ydych yn gwneuthur pechod, ac yn cael eich argyhoeddi gan y gyfraith megis troseddwyr. Canys pwy bynnag a gadwo’r gyfraith i gyd oll, ac a ballo mewn un pwnc, y mae efe yn euog o’r cwbl. Canys y neb a ddywedodd, Na odineba, a ddywedodd hefyd, Na ladd. Ac os ti ni odinebi, eto a leddi, yr wyt ti yn troseddu’r gyfraith. Felly dywedwch, ac felly gwnewch, megis rhai a fernir wrth gyfraith rhyddid. Canys barn ddidrugaredd fydd i’r hwn ni wnaeth drugaredd; ac y mae trugaredd yn gorfoleddu yn erbyn barn.