Iago 1:26-27
Iago 1:26-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Os yw rhywun yn tybio ei fod yn grefyddol, ac yntau'n methu ffrwyno'i dafod, ac yn wir yn twyllo'i galon ei hun, yna ofer yw crefydd hwnnw. Dyma'r grefydd sy'n bur a dilychwin yng ngolwg Duw ein Tad: bod rhywun yn gofalu am yr amddifad a'r gweddwon yn eu cyfyngder, ac yn ei gadw ei hun heb ei ddifwyno gan y byd.
Iago 1:26-27 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Os ydy rhywun yn meddwl ei fod yn dduwiol ond ddim yn gallu rheoli ei dafod, mae’n twyllo’i hun – dydy crefydd rhywun felly yn dda i ddim. Y math o grefydd mae Duw y Tad yn ei ystyried yn bur ac yn ddilys ydy’r grefydd sy’n gofalu am blant amddifad a gwragedd gweddwon sy’n dioddef, ac sy’n gwrthod dylanwad y byd.
Iago 1:26-27 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Os yw neb yn eich mysg yn cymryd arno fod yn grefyddol, heb atal ei dafod, ond twyllo’i galon ei hun, ofer yw crefydd hwn. Crefydd bur a dihalogedig gerbron Duw a’r Tad, yw hyn; Ymweled â’r amddifaid a’r gwragedd gweddwon yn eu hadfyd, a’i gadw ei hun yn ddifrycheulyd oddi wrth y byd.