Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Iago 1:2-18

Iago 1:2-18 beibl.net 2015, 2023 (BNET)

Frodyr a chwiorydd, pan fyddwch chi’n wynebu pob math o dreialon, ystyriwch hynny’n rheswm i fod yn llawen. Achos pan mae’ch ffydd chi’n cael ei brofi mae hynny’n meithrin y gallu i ddal ati a pheidio rhoi’r gorau iddi. Ac mae dal ati drwy’r cwbl yn eich gwneud chi’n gryf ac aeddfed – yn barod ar gyfer unrhyw beth! Os oes angen doethineb ar rywun, dylai ofyn i Dduw. Mae Duw yn rhoi yn hael i bawb sy’n gofyn, ac yn gwneud hynny heb oedi na phwyntio bys at eu beiau nhw. Ond rhaid gofyn gan gredu y bydd Duw yn ateb – peidio amau, am fod y rhai sy’n amau yn debyg i donnau’r môr yn cael eu taflu a’u chwipio i bobman gan y gwynt. Ddylai pobl felly ddim disgwyl cael unrhyw beth gan yr Arglwydd! Dŷn nhw ddim yn gwybod beth sydd arnyn nhw eisiau. Maen nhw’n byw mewn ansicrwydd. Dylai’r Cristion sy’n dod o gefndir tlawd frolio fod Duw wedi’i anrhydeddu, ond dylai’r cyfoethog fod yn falch pan mae Duw yn ei ddarostwng. Bydd e’n diflannu fel blodyn gwyllt. Wrth i’r haul tanbaid grino’r glaswellt mae’r blodyn yn syrthio a’i harddwch yn diflannu. Dyna’n union fydd yn digwydd i bobl gyfoethog – marw yng nghanol eu busnes! Mae’r rhai sy’n dal ati yn wyneb treialon yn cael eu bendithio gan Dduw. Ar ôl mynd drwy’r prawf byddan nhw’n cael eu coroni â’r bywyd mae Duw wedi’i addo i’r rhai sy’n ei garu. A ddylai neb ddweud pan mae’n cael ei brofi, “Duw sy’n fy nhemtio i.” Dydy Duw ddim yn cael ei demtio gan ddrygioni, a dydy e ddim yn temtio neb arall chwaith. Eu chwantau drwg eu hunain sy’n temtio pobl, ac yn eu llusgo nhw ar ôl iddyn nhw gymryd yr abwyd. Mae chwantau drwg yn arwain i weithredoedd drwg, a’r gweithredoedd drwg hynny yn arwain i farwolaeth ysbrydol. Peidiwch cymryd eich camarwain, frodyr a chwiorydd annwyl. Mae pob rhoi, a phob haelioni yn dod oddi wrth Dduw yn y nefoedd uchod. Fe ydy’r Tad a greodd y sêr a’r planedau, ond dydy ei oleuni e ddim yn amrywio, a dydy e byth yn cael ei gysgodi. Mae Duw wedi dewis rhoi bywyd newydd i ni, drwy wirionedd ei neges. Mae wedi’n dewis ni’n arbennig iddo’i hun o blith y cwbl mae wedi’i greu.

Iago 1:2-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Fy nghyfeillion, cyfrifwch hi'n llawenydd pur pan syrthiwch i amrywiol brofedigaethau, gan wybod fod y prawf ar eich ffydd yn magu dyfalbarhad. A gadewch i ddyfalbarhad gyflawni ei waith, er mwyn ichwi fod yn berffaith a chyflawn, heb fod yn ddiffygiol mewn dim. Ac os oes un ohonoch yn ddiffygiol mewn doethineb, gofynned gan Dduw, ac fe'i rhoddir iddo, oherwydd y mae Duw yn rhoi i bawb yn hael a heb ddannod. Ond gofynned mewn ffydd, heb amau, gan fod y sawl sy'n amau yn debyg i don y môr, sy'n cael ei chwythu a'i chwalu gan y gwynt. Nid yw hwnnw—ac yntau rhwng dau feddwl, yn ansicr yn ei holl ffyrdd—i dybio y caiff ddim gan yr Arglwydd. Dylai'r credadun distadl ymfalchïo pan ddyrchefir ef, ond yr un cyfoethog ymfalchïo pan ddarostyngir ef, oherwydd diflannu a wna hwnnw fel blodeuyn y maes. Bydd yr haul yn codi yn ei wres tanbaid, a bydd y glaswellt yn crino, ei flodeuyn yn syrthio, a thlysni ei wedd yn darfod. Felly hefyd y diflanna'r cyfoethog yng nghanol ei holl fynd a dod. Gwyn ei fyd y sawl sy'n dal ei dir mewn temtasiwn, oherwydd ar ôl iddo fynd trwy'r prawf fe gaiff, yn goron, y bywyd a addawodd yr Arglwydd i'r rhai sydd yn ei garu ef. Ni ddylai neb sy'n cael ei demtio ddweud, “Oddi wrth Dduw y daw fy nhemtasiwn”; oherwydd ni ellir temtio Duw gan ddrygioni, ac nid yw ef ei hun yn temtio neb. Yn wir, pan yw rhywun yn cael ei demtio, ei chwant ei hun sydd yn ei dynnu ar gyfeiliorn ac yn ei hudo. Yna, y mae chwant yn beichiogi ac yn esgor ar bechod, ac y mae pechod, ar ôl cyrraedd ei lawn dwf, yn cenhedlu marwolaeth. Peidiwch â chymryd eich camarwain, fy nghyfeillion annwyl. Oddi uchod y daw pob rhoi da a phob rhodd berffaith. Disgyn y maent oddi wrth Dad goleuadau'r nef; ac iddo ef ni pherthyn na chyfnewid na chysgod troadau'r rhod. O'i fwriad ei hun y cenhedlodd ef ni trwy air y gwirionedd, er mwyn inni fod yn fath o flaenffrwyth o'i greaduriaid.

Iago 1:2-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Cyfrifwch yn bob llawenydd, fy mrodyr, pan syrthioch mewn amryw brofedigaethau; Gan wybod fod profiad eich ffydd chwi yn gweithredu amynedd. Ond caffed amynedd ei pherffaith waith; fel y byddoch berffaith a chyfan, heb ddiffygio mewn dim. O bydd ar neb ohonoch eisiau doethineb, gofynned gan Dduw, yr hwn sydd yn rhoi yn haelionus i bawb, ac heb ddannod; a hi roddir iddo ef. Eithr gofynned mewn ffydd, heb amau dim: canys yr hwn sydd yn amau, sydd gyffelyb i don y môr, a chwelir ac a deflir gan y gwynt. Canys na feddylied y dyn hwnnw y derbyn efe ddim gan yr Arglwydd. Gŵr dauddyblyg ei feddwl sydd anwastad yn ei holl ffyrdd. Y brawd o radd isel, llawenyched yn ei oruchafiaeth: A’r cyfoethog, yn ei ddarostyngiad: canys megis blodeuyn y glaswelltyn y diflanna efe. Canys cyfododd yr haul gyda gwres, a gwywodd y glaswelltyn, a’i flodeuyn a gwympodd, a thegwch ei bryd ef a gollodd: felly hefyd y diflanna’r cyfoethog yn ei ffyrdd. Gwyn ei fyd y gŵr sydd yn goddef profedigaeth: canys pan fyddo profedig, efe a dderbyn goron y bywyd, yr hon a addawodd yr Arglwydd i’r rhai a’i carant ef. Na ddyweded neb, pan demtier ef, Gan Dduw y’m temtir: canys Duw nis gellir ei demtio â drygau, ac nid yw efe yn temtio neb. Canys yna y temtir pob un, pan ei tynner ef, ac y llithier, gan ei chwant ei hun. Yna chwant, wedi ymddŵyn, a esgor ar bechod: pechod hefyd, pan orffenner, a esgor ar farwolaeth. Fy mrodyr annwyl, na chyfeiliornwch. Pob rhoddiad daionus, a phob rhodd berffaith, oddi uchod y mae, yn disgyn oddi wrth Dad y goleuni, gyda’r hwn nid oes gyfnewidiad, na chysgod tröedigaeth. O’i wir ewyllys yr enillodd efe nyni trwy air y gwirionedd, fel y byddem ryw flaenffrwyth o’i greaduriaid ef.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd