Iago 1:2-12
Iago 1:2-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Frodyr a chwiorydd, pan fyddwch chi’n wynebu pob math o dreialon, ystyriwch hynny’n rheswm i fod yn llawen. Achos pan mae’ch ffydd chi’n cael ei brofi mae hynny’n meithrin y gallu i ddal ati a pheidio rhoi’r gorau iddi. Ac mae dal ati drwy’r cwbl yn eich gwneud chi’n gryf ac aeddfed – yn barod ar gyfer unrhyw beth! Os oes angen doethineb ar rywun, dylai ofyn i Dduw. Mae Duw yn rhoi yn hael i bawb sy’n gofyn, ac yn gwneud hynny heb oedi na phwyntio bys at eu beiau nhw. Ond rhaid gofyn gan gredu y bydd Duw yn ateb – peidio amau, am fod y rhai sy’n amau yn debyg i donnau’r môr yn cael eu taflu a’u chwipio i bobman gan y gwynt. Ddylai pobl felly ddim disgwyl cael unrhyw beth gan yr Arglwydd! Dŷn nhw ddim yn gwybod beth sydd arnyn nhw eisiau. Maen nhw’n byw mewn ansicrwydd. Dylai’r Cristion sy’n dod o gefndir tlawd frolio fod Duw wedi’i anrhydeddu, ond dylai’r cyfoethog fod yn falch pan mae Duw yn ei ddarostwng. Bydd e’n diflannu fel blodyn gwyllt. Wrth i’r haul tanbaid grino’r glaswellt mae’r blodyn yn syrthio a’i harddwch yn diflannu. Dyna’n union fydd yn digwydd i bobl gyfoethog – marw yng nghanol eu busnes! Mae’r rhai sy’n dal ati yn wyneb treialon yn cael eu bendithio gan Dduw. Ar ôl mynd drwy’r prawf byddan nhw’n cael eu coroni â’r bywyd mae Duw wedi’i addo i’r rhai sy’n ei garu.
Iago 1:2-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Fy nghyfeillion, cyfrifwch hi'n llawenydd pur pan syrthiwch i amrywiol brofedigaethau, gan wybod fod y prawf ar eich ffydd yn magu dyfalbarhad. A gadewch i ddyfalbarhad gyflawni ei waith, er mwyn ichwi fod yn berffaith a chyflawn, heb fod yn ddiffygiol mewn dim. Ac os oes un ohonoch yn ddiffygiol mewn doethineb, gofynned gan Dduw, ac fe'i rhoddir iddo, oherwydd y mae Duw yn rhoi i bawb yn hael a heb ddannod. Ond gofynned mewn ffydd, heb amau, gan fod y sawl sy'n amau yn debyg i don y môr, sy'n cael ei chwythu a'i chwalu gan y gwynt. Nid yw hwnnw—ac yntau rhwng dau feddwl, yn ansicr yn ei holl ffyrdd—i dybio y caiff ddim gan yr Arglwydd. Dylai'r credadun distadl ymfalchïo pan ddyrchefir ef, ond yr un cyfoethog ymfalchïo pan ddarostyngir ef, oherwydd diflannu a wna hwnnw fel blodeuyn y maes. Bydd yr haul yn codi yn ei wres tanbaid, a bydd y glaswellt yn crino, ei flodeuyn yn syrthio, a thlysni ei wedd yn darfod. Felly hefyd y diflanna'r cyfoethog yng nghanol ei holl fynd a dod. Gwyn ei fyd y sawl sy'n dal ei dir mewn temtasiwn, oherwydd ar ôl iddo fynd trwy'r prawf fe gaiff, yn goron, y bywyd a addawodd yr Arglwydd i'r rhai sydd yn ei garu ef.
Iago 1:2-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Cyfrifwch yn bob llawenydd, fy mrodyr, pan syrthioch mewn amryw brofedigaethau; Gan wybod fod profiad eich ffydd chwi yn gweithredu amynedd. Ond caffed amynedd ei pherffaith waith; fel y byddoch berffaith a chyfan, heb ddiffygio mewn dim. O bydd ar neb ohonoch eisiau doethineb, gofynned gan Dduw, yr hwn sydd yn rhoi yn haelionus i bawb, ac heb ddannod; a hi roddir iddo ef. Eithr gofynned mewn ffydd, heb amau dim: canys yr hwn sydd yn amau, sydd gyffelyb i don y môr, a chwelir ac a deflir gan y gwynt. Canys na feddylied y dyn hwnnw y derbyn efe ddim gan yr Arglwydd. Gŵr dauddyblyg ei feddwl sydd anwastad yn ei holl ffyrdd. Y brawd o radd isel, llawenyched yn ei oruchafiaeth: A’r cyfoethog, yn ei ddarostyngiad: canys megis blodeuyn y glaswelltyn y diflanna efe. Canys cyfododd yr haul gyda gwres, a gwywodd y glaswelltyn, a’i flodeuyn a gwympodd, a thegwch ei bryd ef a gollodd: felly hefyd y diflanna’r cyfoethog yn ei ffyrdd. Gwyn ei fyd y gŵr sydd yn goddef profedigaeth: canys pan fyddo profedig, efe a dderbyn goron y bywyd, yr hon a addawodd yr Arglwydd i’r rhai a’i carant ef.