Iago 1:19-21
Iago 1:19-21 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Gallwch fod yn hollol siŵr o’r peth, frodyr a chwiorydd. Dylai pob un ohonoch fod yn awyddus i wrando a pheidio siarad yn fyrbwyll, a gwybod sut i reoli ei dymer. Dydy gwylltio ddim yn eich helpu chi i wneud beth sy’n iawn yng ngolwg Duw. Felly rhaid cael gwared â phob budreddi a’r holl ddrygioni sy’n rhemp, a derbyn yn wylaidd y neges mae Duw wedi’i phlannu yn eich calonnau chi – dyna’r neges sy’n eich achub chi.
Iago 1:19-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ystyriwch, fy nghyfeillion annwyl. Rhaid i bob un fod yn gyflym i wrando, ond yn araf i lefaru, ac yn araf i ddigio, oherwydd nid yw dicter dynol yn hyrwyddo cyfiawnder Duw. Ymaith gan hynny â phob aflendid, ac ymaith â'r drygioni sydd ar gynnydd, a derbyniwch yn wylaidd y gair hwnnw a blannwyd ynoch, ac sy'n abl i achub eich eneidiau.
Iago 1:19-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
O achos hyn, fy mrodyr annwyl, bydded pob dyn esgud i wrando, diog i lefaru, diog i ddigofaint: Canys digofaint gŵr nid yw’n cyflawni cyfiawnder Duw. Oherwydd paham rhoddwch heibio bob budreddi, a helaethrwydd malais; a thrwy addfwynder derbyniwch yr impiedig air, yr hwn a ddichon gadw eich eneidiau.