Iago 1:12-21
Iago 1:12-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae’r rhai sy’n dal ati yn wyneb treialon yn cael eu bendithio gan Dduw. Ar ôl mynd drwy’r prawf byddan nhw’n cael eu coroni â’r bywyd mae Duw wedi’i addo i’r rhai sy’n ei garu. A ddylai neb ddweud pan mae’n cael ei brofi, “Duw sy’n fy nhemtio i.” Dydy Duw ddim yn cael ei demtio gan ddrygioni, a dydy e ddim yn temtio neb arall chwaith. Eu chwantau drwg eu hunain sy’n temtio pobl, ac yn eu llusgo nhw ar ôl iddyn nhw gymryd yr abwyd. Mae chwantau drwg yn arwain i weithredoedd drwg, a’r gweithredoedd drwg hynny yn arwain i farwolaeth ysbrydol. Peidiwch cymryd eich camarwain, frodyr a chwiorydd annwyl. Mae pob rhoi, a phob haelioni yn dod oddi wrth Dduw yn y nefoedd uchod. Fe ydy’r Tad a greodd y sêr a’r planedau, ond dydy ei oleuni e ddim yn amrywio, a dydy e byth yn cael ei gysgodi. Mae Duw wedi dewis rhoi bywyd newydd i ni, drwy wirionedd ei neges. Mae wedi’n dewis ni’n arbennig iddo’i hun o blith y cwbl mae wedi’i greu. Gallwch fod yn hollol siŵr o’r peth, frodyr a chwiorydd. Dylai pob un ohonoch fod yn awyddus i wrando a pheidio siarad yn fyrbwyll, a gwybod sut i reoli ei dymer. Dydy gwylltio ddim yn eich helpu chi i wneud beth sy’n iawn yng ngolwg Duw. Felly rhaid cael gwared â phob budreddi a’r holl ddrygioni sy’n rhemp, a derbyn yn wylaidd y neges mae Duw wedi’i phlannu yn eich calonnau chi – dyna’r neges sy’n eich achub chi.
Iago 1:12-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwyn ei fyd y sawl sy'n dal ei dir mewn temtasiwn, oherwydd ar ôl iddo fynd trwy'r prawf fe gaiff, yn goron, y bywyd a addawodd yr Arglwydd i'r rhai sydd yn ei garu ef. Ni ddylai neb sy'n cael ei demtio ddweud, “Oddi wrth Dduw y daw fy nhemtasiwn”; oherwydd ni ellir temtio Duw gan ddrygioni, ac nid yw ef ei hun yn temtio neb. Yn wir, pan yw rhywun yn cael ei demtio, ei chwant ei hun sydd yn ei dynnu ar gyfeiliorn ac yn ei hudo. Yna, y mae chwant yn beichiogi ac yn esgor ar bechod, ac y mae pechod, ar ôl cyrraedd ei lawn dwf, yn cenhedlu marwolaeth. Peidiwch â chymryd eich camarwain, fy nghyfeillion annwyl. Oddi uchod y daw pob rhoi da a phob rhodd berffaith. Disgyn y maent oddi wrth Dad goleuadau'r nef; ac iddo ef ni pherthyn na chyfnewid na chysgod troadau'r rhod. O'i fwriad ei hun y cenhedlodd ef ni trwy air y gwirionedd, er mwyn inni fod yn fath o flaenffrwyth o'i greaduriaid. Ystyriwch, fy nghyfeillion annwyl. Rhaid i bob un fod yn gyflym i wrando, ond yn araf i lefaru, ac yn araf i ddigio, oherwydd nid yw dicter dynol yn hyrwyddo cyfiawnder Duw. Ymaith gan hynny â phob aflendid, ac ymaith â'r drygioni sydd ar gynnydd, a derbyniwch yn wylaidd y gair hwnnw a blannwyd ynoch, ac sy'n abl i achub eich eneidiau.
Iago 1:12-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gwyn ei fyd y gŵr sydd yn goddef profedigaeth: canys pan fyddo profedig, efe a dderbyn goron y bywyd, yr hon a addawodd yr Arglwydd i’r rhai a’i carant ef. Na ddyweded neb, pan demtier ef, Gan Dduw y’m temtir: canys Duw nis gellir ei demtio â drygau, ac nid yw efe yn temtio neb. Canys yna y temtir pob un, pan ei tynner ef, ac y llithier, gan ei chwant ei hun. Yna chwant, wedi ymddŵyn, a esgor ar bechod: pechod hefyd, pan orffenner, a esgor ar farwolaeth. Fy mrodyr annwyl, na chyfeiliornwch. Pob rhoddiad daionus, a phob rhodd berffaith, oddi uchod y mae, yn disgyn oddi wrth Dad y goleuni, gyda’r hwn nid oes gyfnewidiad, na chysgod tröedigaeth. O’i wir ewyllys yr enillodd efe nyni trwy air y gwirionedd, fel y byddem ryw flaenffrwyth o’i greaduriaid ef. O achos hyn, fy mrodyr annwyl, bydded pob dyn esgud i wrando, diog i lefaru, diog i ddigofaint: Canys digofaint gŵr nid yw’n cyflawni cyfiawnder Duw. Oherwydd paham rhoddwch heibio bob budreddi, a helaethrwydd malais; a thrwy addfwynder derbyniwch yr impiedig air, yr hwn a ddichon gadw eich eneidiau.