Eseia 66:1-2
Eseia 66:1-2 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Y nefoedd ydy fy ngorsedd i, a’r ddaear ydy fy stôl droed i. Ble allech chi adeiladu teml fel yna i mi? Ble dych chi am ei roi i mi i orffwys? Onid fi sydd wedi creu popeth sy’n bodoli? Fi ddaeth â nhw i fod!” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn. “Ac eto dyma pwy dw i’n cymryd sylw ohonyn nhw: Y rhai tlawd sy’n teimlo’n annigonol ac sy’n parchu fy neges.
Eseia 66:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Y nefoedd yw fy ngorsedd, a'r ddaear fy nhroedfainc; ple, felly, y codwch dŷ i mi, a phle y caf fan i orffwys? Fy llaw i a wnaeth y pethau hyn i gyd, a'r eiddof fi yw pob peth,” medd yr ARGLWYDD. “Ond fe edrychaf ar y truan, yr un o ysbryd gostyngedig, ac sy'n parchu fy ngair.
Eseia 66:1-2 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Y nef yw fy ngorseddfainc, a’r ddaear yw lleithig fy nhraed: mae y tŷ a adeiledwch i mi? ac mae y fan y gorffwysaf? Canys y pethau hyn oll a wnaeth fy llaw, a thrwof fi y mae hyn oll, medd yr ARGLWYDD: ond ar hwn yr edrychaf, sef ar y truan a’r cystuddiedig o ysbryd, ac sydd yn crynu wrth fy ngair.