Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 65:1-25

Eseia 65:1-25 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

“Rôn i yno i rai oedd ddim yn gofyn amdana i; dangosais fy hun i rai oedd ddim yn chwilio amdana i. Dywedais, ‘Dyma fi! Dyma fi!’ wrth wlad oedd ddim yn galw ar fy enw. Bues i’n estyn fy llaw drwy’r amser at bobl oedd yn gwrthryfela – pobl yn gwneud beth oedd ddim yn dda, ac yn dilyn eu mympwy eu hunain. Roedden nhw’n fy nigio o hyd ac o hyd – yn aberthu yn y gerddi paganaidd ac yn llosgi aberthau ar allor frics; yn eistedd yng nghanol beddau, ac yn treulio’r nos mewn mannau cudd; yn bwyta cig moch a phowlenni o gawl gyda cig aflan ynddo; neu’n dweud, ‘Cadw draw! Dw i’n rhy lân i ti ddod yn agos ata i!’ Mae pobl fel yna’n gwneud i mi wylltio, mae fel tân sy’n dal i losgi drwy’r dydd. Edrychwch! Mae wedi’i gofnodi o mlaen i! Dw i ddim am ei ddiystyru – dw i’n mynd i dalu’n ôl yn llawn: Talu’n ôl i bob un ohonyn nhw am eu pechodau, a phechodau eu hynafiaid hefyd.” –meddai’r ARGLWYDD. “Roedden nhw’n llosgi arogldarth ar y mynyddoedd, ac yn fy enllibio i ar y bryniau. Bydda i’n talu’n ôl iddyn nhw’n llawn am bopeth wnaethon nhw o’r dechrau cyntaf!” Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Fel mae sudd da mewn swp o rawnwin, a rhywun yn dweud, ‘Paid difetha fe; mae daioni ynddo’, felly y bydda i’n gwneud er mwyn fy ngweision – fydda i ddim yn eu dinistrio nhw i gyd. Bydda i’n rhoi disgynyddion i Jacob, a phobl i etifeddu fy mynyddoedd yn Jwda. Bydd y rhai dw i wedi’u dewis yn eu meddiannu, a bydd fy ngweision yn byw yno. Bydd Saron yn borfa i ddefaid, a Dyffryn Achor, sy’n lle i wartheg orwedd, yn eiddo i’r bobl sy’n fy ngheisio i. Ond chi sydd wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD, a diystyru fy mynydd cysegredig i; chi sy’n gosod bwrdd i’r duw ‘Ffawd’, ac yn llenwi cwpanau o win i’r duw ‘Tynged’. Dw i’n eich condemnio i gael eich lladd â’r cleddyf! Byddwch chi’n penlinio i gael eich dienyddio – achos roeddwn i’n galw, a wnaethoch chi ddim ateb; roeddwn i’n siarad, a wnaethoch chi ddim gwrando. Roeddech chi’n gwneud pethau oeddwn i’n eu casáu, ac yn dewis pethau oedd ddim yn fy mhlesio.” Felly dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: “Bydd fy ngweision yn bwyta, a chithau’n llwgu. Bydd fy ngweision yn yfed, a chithau’n sychedu. Bydd fy ngweision yn llawen, a chithau’n cael eich cywilyddio. Bydd fy ngweision yn canu’n braf, a chithau’n wylo mewn poen, ac yn griddfan mewn gwewyr meddwl. Bydd eich enw yn cael ei ddefnyddio fel melltith gan y rhai dw i wedi’u dewis. Bydd y Meistr, yr ARGLWYDD, yn dy ladd di! Ond bydd enw hollol wahanol gan ei weision. Bydd pwy bynnag drwy’r byd sy’n derbyn bendith yn ei gael wrth geisio bendith gan y Duw ffyddlon; a’r sawl yn unman sy’n tyngu llw o ffyddlondeb yn ei gael wrth dyngu llw i enw’r Duw ffyddlon. Bydd trafferthion y gorffennol yn cael eu hanghofio, ac wedi’u cuddio o’m golwg. Achos dw i’n mynd i greu nefoedd newydd a daear newydd! Bydd pethau’r gorffennol wedi’u hanghofio; fyddan nhw ddim yn croesi’r meddwl. Ie, dathlwch a mwynhau am byth yr hyn dw i’n mynd i’w greu. Achos dw i’n mynd i greu Jerwsalem i fod yn hyfrydwch, a’i phobl yn rheswm i ddathlu. Bydd Jerwsalem yn hyfrydwch i mi, a’m pobl yn gwneud i mi ddathlu. Fydd sŵn crio a sgrechian ddim i’w glywed yno byth eto. Fydd babis bach ddim yn marw’n ifanc, na phobl mewn oed yn marw’n gynnar. Bydd rhywun sy’n marw yn gant oed yn cael ei ystyried yn llanc ifanc, a’r un sy’n marw heb gyrraedd y cant yn cael ei ystyried dan felltith. Byddan nhw’n adeiladu tai ac yn byw ynddyn nhw; byddan nhw’n plannu gwinllannoedd ac yn bwyta’u ffrwyth. Fyddan nhw ddim yn adeiladu tai i rywun arall fyw ynddyn nhw, nac yn plannu i rywun arall fwyta’r ffrwyth. Bydd fy mhobl yn byw mor hir â choeden; bydd y rhai dw i wedi’u dewis yn cael mwynhau’n llawn waith eu dwylo. Fyddan nhw ddim yn gweithio’n galed i ddim byd; fyddan nhw ddim yn magu plant i’w colli. Byddan nhw’n bobl wedi’u bendithio gan yr ARGLWYDD, a’u plant gyda nhw hefyd. Bydda i’n ateb cyn iddyn nhw alw arna i; bydda i wedi clywed cyn iddyn nhw orffen siarad. Bydd y blaidd a’r oen yn pori gyda’i gilydd, a bydd y llew yn bwyta gwellt fel ych; ond llwch y ddaear fydd bwyd y neidr. Fyddan nhw’n gwneud dim drwg na niwed yn fy mynydd cysegredig i.” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.

Eseia 65:1-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

“Yr oeddwn yno i'm ceisio gan rai nad oeddent yn holi amdanaf, yno i'm cael gan rai na chwilient amdanaf. Dywedais, ‘Edrychwch, dyma fi’, wrth genedl na alwai ar fy enw. Estynnais fy nwylo'n feunyddiol at bobl wrthryfelgar, rhai oedd yn rhodio ffordd drygioni, ac yn dilyn eu mympwy eu hunain, rhai oedd yn fy mhryfocio'n ddi-baid yn fy wyneb, yn aberthu mewn gerddi ac arogldarthu ar briddfeini, yn eistedd ymhlith y beddau, ac yn treulio'r nos mewn mynwentydd, yn bwyta cig moch, a'u llestri'n llawn o gawl aflan. Dywedant, ‘Cadw draw, paid â'm cyffwrdd, rwy'n rhy sanctaidd i ti.’ Y mae'r bobl hyn yn fwg yn fy ffroenau, yn dân sy'n mygu drwy'r dydd. Ond y mae'r cyfan wedi ei ysgrifennu o'm blaen; ni thawaf, ond fe dalaf yn ôl; i'r byw y talaf yn ôl eich camweddau chwi a'ch hynafiaid,” medd yr ARGLWYDD. “Am iddynt arogldarthu ar y mynyddoedd, a'm cablu ar y bryniau, mesuraf eu tâl iddynt i'r byw.” Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Fel pan geir gwin newydd mewn swp o rawn, ac y dywedir, ‘Paid â'i ddinistrio, oherwydd y mae bendith ynddo’, felly y gwnaf finnau er mwyn fy ngweision; ni ddinistriaf yr un ohonynt. Ond paraf i epil ddod o Jacob, a rhai i etifeddu fy mynyddoedd o Jwda; bydd y rhai a ddewisaf yn eu hetifeddu, a'm gweision yn trigo yno. Bydd Saron yn borfa defaid, a dyffryn Achor yn orweddfa gwartheg, ar gyfer fy mhobl sy'n fy ngheisio. “Ond chwi sy'n gwrthod yr ARGLWYDD, sy'n diystyru fy mynydd sanctaidd, sy'n gosod bwrdd i'r duw Ffawd ac yn llenwi cwpanau o win cymysg i Hap, dedfrydaf chwi i'r cleddyf, a'ch darostwng i gyd i'ch lladd; canys gelwais, ond ni roesoch ateb, lleferais, ond ni wrandawsoch. Gwnaethoch bethau sy'n atgas gennyf, a dewis yr hyn nad yw wrth fy modd.” Am hynny, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: “Edrychwch, bydd fy ngweision yn bwyta a chwithau'n newynu; bydd fy ngweision yn yfed a chwithau'n sychedu; bydd fy ngweision yn llawenhau a chwithau'n cywilyddio; bydd fy ngweision yn canu o lawenydd a chwithau'n griddfan mewn gofid calon, ac yn galaru mewn ing. Erys eich enw yn felltith gan f'etholedigion; bydd yr Arglwydd DDUW yn dy ddifa, ond fe rydd enw gwahanol ar ei weision. Bydd pawb ar y ddaear sy'n ceisio bendith yn ceisio'i fendith yn enw Duw gwirionedd, a phawb ar y ddaear sy'n tyngu llw yn tyngu ei lw yn enw Duw gwirionedd.” “Anghofir y treialon gynt, ac fe'u cuddir o'm golwg. Yr wyf fi'n creu nefoedd newydd a daear newydd; ni chofir y pethau gynt na meddwl amdanynt. Byddwch lawen, gorfoleddwch yn ddi-baid am fy mod i yn creu, ie, yn creu Jerwsalem yn orfoledd, a'i phobl yn llawenydd. Gorfoleddaf yn Jerwsalem, llawenychaf yn fy mhobl; ni chlywir ynddi mwyach na sŵn wylofain na chri trallod. Ni bydd yno byth eto blentyn yn dihoeni, na henwr heb gyflawni nifer ei flynyddoedd; llanc fydd yr un sy'n marw'n ganmlwydd, a dilornir y sawl nad yw'n cyrraedd ei gant. Byddant yn adeiladu tai ac yn byw ynddynt, yn plannu gwinllannoedd ac yn bwyta'u ffrwyth; ni fydd neb yn adeiladu i arall gyfanheddu, nac yn plannu ac arall yn bwyta. Bydd fy mhobl yn byw cyhyd â choeden, a'm hetholedig yn llwyr fwynhau gwaith eu dwylo. Ni fyddant yn llafurio'n ofer, nac yn magu plant i drallod; cenhedlaeth a fendithiwyd gan yr ARGLWYDD ydynt, hwy a'u hepil hefyd. Byddaf yn eu hateb cyn iddynt alw, ac yn eu gwrando wrth iddynt lefaru. Bydd y blaidd a'r oen yn cydbori, a'r llew yn bwyta gwair fel ych; a llwch fydd bwyd y sarff. Ni wnânt ddrwg na difrod yn fy holl fynydd sanctaidd,” medd yr ARGLWYDD.

Eseia 65:1-25 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ceisiwyd fi gan y rhai ni ymofynasant amdanaf; cafwyd fi gan y rhai ni’m ceisiasant: dywedais, Wele fi, wele fi, wrth genhedlaeth ni alwyd ar fy enw i. Estynnais fy llaw ar hyd y dydd at bobl wrthryfelgar, y rhai a rodient y ffordd nid oedd dda, yn ôl eu meddyliau eu hun; Pobl y rhai a’m llidient i yn wastad yn fy wyneb; yn aberthu mewn gerddi, ac yn arogldarthu ar allorau priddfeini; Y rhai a arhoent ymysg y beddau, ac a letyent yn y mynwentau; y rhai a fwytaent gig moch, ac isgell ffiaidd bethau yn eu llestri; Y rhai a ddywedent, Saf ar dy ben dy hun; na nesâ ataf fi: canys sancteiddiach ydwyf na thydi. Y rhai hyn sydd fwg yn fy ffroenau, tân yn llosgi ar hyd y dydd. Wele, ysgrifennwyd ger fy mron: ni thawaf; eithr talaf, ie, talaf i’w mynwes, Eich anwireddau chwi, ac anwireddau eich tadau ynghyd, medd yr ARGLWYDD, y rhai a arogldarthasant ar y mynyddoedd, ac a’m cablasant ar y bryniau: am hynny y mesuraf eu hen weithredoedd hwynt i’w mynwes. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Megis y ceir gwin newydd mewn swp o rawn, ac y dywedir, Na ddifwyna ef; canys y mae bendith ynddo: felly y gwnaf er mwyn fy ngweision, na ddistrywiwyf hwynt oll. Eithr dygaf had allan o Jacob, ac o Jwda un a etifeddo fy mynyddoedd: a’m hetholedigion a’i hetifeddant, a’m gweision a drigant yno. Saron hefyd fydd yn gorlan defaid, a glyn Achor yn orweddfa gwartheg, i’m pobl y rhai a’m ceisiasant. Ond chwi yw y rhai a wrthodwch yr ARGLWYDD, a anghofiwch fy mynydd sanctaidd, a arlwywch fwrdd i’r llu acw, ac a lenwch ddiod-offrwm i’r niferi acw. Rhifaf chwithau i’r cleddyf, a chwi oll a ymostyngwch i’r lladdedigaeth: oherwydd pan elwais chwi, nid atebasoch; pan leferais, ni wrandawsoch; ond gwnaethoch ddrygioni yn fy ngolwg, a dewisasoch yr hyn nid oedd dda gennyf. Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Wele, fy ngweision a fwytânt, a chwithau a newynwch: wele, fy ngweision a yfant, a chwithau a sychedwch: wele, fy ngweision a lawenychant, a chwithau a fydd cywilydd arnoch: Wele, fy ngweision a ganant o hyfrydwch calon, a chwithau a waeddwch rhag gofid calon, ac a udwch rhag cystudd ysbryd. A’ch enw a adewch yn felltith gan fy etholedigion: canys yr ARGLWYDD DDUW a’th ladd di, ac a eilw ei weision ar enw arall: Fel y bo i’r hwn a ymfendigo ar y ddaear, ymfendigo yn NUW y gwirionedd; ac i’r hwn a dyngo ar y ddaear, dyngu i DDUW y gwirionedd: am anghofio y trallodau gynt, ac am eu cuddio hwynt o’m golwg. Canys wele fi yn creu nefoedd newydd, a daear newydd: a’r rhai cyntaf ni chofir, ac ni feddylir amdanynt. Eithr llawenychwch a gorfoleddwch yn dragywydd yn y pethau a grewyf fi: canys wele fi yn creu Jerwsalem yn orfoledd, a’i phobl yn llawenydd. Gorfoleddaf hefyd yn Jerwsalem, a llawenychaf yn fy mhobl: ac ni chlywir ynddi mwyach lais wylofain, na llef gwaedd. Ni bydd o hynny allan blentyn o oed, na hynafgwr, yr hwn ni chyflawnodd ei ddyddiau: canys y bachgen fydd marw yn fab canmlwydd; ond y pechadur yn fab canmlwydd a felltithir. A hwy a adeiladant dai, ac a’u cyfanheddant; plannant hefyd winllannoedd, a bwytânt eu ffrwyth. Nid adeiladant hwy, fel y cyfanheddo arall; ac ni phlannant, fel y bwytao arall: eithr megis dyddiau pren y bydd dyddiau fy mhobl, a’m hetholedigion a hir fwynhânt waith eu dwylo. Ni lafuriant yn ofer, ac ni chenhedlant i drallod: canys had rhai bendigedig yr ARGLWYDD ydynt hwy, a’u hepil gyda hwynt. A bydd, cyn galw ohonynt, i mi ateb: ac a hwy eto yn llefaru, mi a wrandawaf. Y blaidd a’r oen a borant ynghyd; y llew fel ych a bawr wellt; a’r sarff, llwch fydd ei bwyd hi: ni ddrygant ac ni ddistrywiant yn fy holl fynydd sanctaidd, medd yr ARGLWYDD.