Eseia 64:6-9
Eseia 64:6-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond bellach dŷn ni i gyd fel rhywbeth aflan, mae hyd yn oed ein gorau ni fel dillad isaf budron. Dŷn ni i gyd wedi gwywo fel deilen, Ac mae’n methiant, fel y gwynt, yn ein chwythu i ffwrdd. Does neb yn galw ar dy enw di, nac yn gwneud ymdrech i ddal gafael ynot ti. Ti wedi troi i ffwrdd oddi wrthon ni, a gwneud i ni wynebu’n methiant! Ac eto, ARGLWYDD, ti ydy’n Tad ni! Gwaith dy ddwylo di ydyn ni – ni ydy’r clai a thi ydy’r crochenydd. Paid gwylltio’n llwyr hefo ni, ARGLWYDD! Paid dal dig am ein methiant am byth! Edrych arnon ni i gyd, dy bobl!
Eseia 64:6-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Aethom i gyd fel peth aflan, a'n holl gyfiawnderau fel clytiau budron; yr ydym i gyd wedi crino fel deilen, a'n camweddau yn ein chwythu i ffwrdd fel y gwynt. Ac nid oes neb yn galw ar dy enw, nac yn trafferthu i afael ynot; cuddiaist dy wyneb oddi wrthym, a'n traddodi i afael ein camweddau. Ond tydi, O ARGLWYDD, yw ein tad; ni yw'r clai a thi yw'r crochenydd; gwaith dy ddwylo ydym i gyd. Paid â digio'n llwyr, ARGLWYDD, na chofio camwedd am byth. Edrych, yn awr, dy bobl ydym ni i gyd.
Eseia 64:6-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Eithr yr ydym ni oll megis peth aflan, ac megis bratiau budron yw ein holl gyfiawnderau; a megis deilen y syrthiasom ni oll; a’n hanwireddau, megis gwynt, a’n dug ni ymaith. Ac nid oes a alwo ar dy enw, nac a ymgyfyd i ymaflyd ynot: canys cuddiaist dy wyneb oddi wrthym; difeaist ni, oherwydd ein hanwireddau. Ond yn awr, O ARGLWYDD, ein Tad ni ydwyt ti: nyni ydym glai, a thithau yw ein lluniwr ni; ie, gwaith dy law ydym ni oll. Na ddigia, ARGLWYDD, yn ddirfawr, ac na chofia anwiredd yn dragywydd: wele, edrych, atolwg, dy bobl di ydym ni oll.