Eseia 64:1-4
Eseia 64:1-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
O na fyddet ti’n rhwygo’r awyr a dod i lawr, nes bod y mynyddoedd yn crynu o dy flaen di – byddai fel tân yn llosgi brigau sych, neu’n gwneud i ddŵr ferwi – i dy elynion ddod i wybod pwy wyt ti ac i’r cenhedloedd grynu o dy flaen di! Roeddet ti’n arfer gwneud pethau syfrdanol, cwbl annisgwyl! Roeddet ti’n dod i lawr ac roedd y mynyddoedd yn crynu o dy flaen. Does neb erioed wedi clywed a does neb wedi gweld Duw tebyg i ti, sy’n gweithredu o blaid y rhai sy’n ei drystio fe.
Eseia 64:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
O na fuaset wedi rhwygo'r nefoedd, a dod i lawr, a'r mynyddoedd yn toddi o'th flaen, fel tân yn llosgi prysgwydd, fel dŵr yn berwi ar dân, er mwyn i'th enw ddod yn hysbys i'th gaseion, ac i'r cenhedloedd grynu yn dy ŵydd! Pan wnaethost bethau ofnadwy heb i ni eu disgwyl, daethost i lawr, a thoddodd y mynyddoedd o'th flaen. Ni chlywodd neb erioed, ni ddaliodd clust, ni chanfu llygad unrhyw Dduw ond tydi, a wnâi ddim dros y rhai sy'n disgwyl wrtho.
Eseia 64:1-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
O na rwygit y nefoedd, a disgyn, fel y toddai’r mynyddoedd o’th flaen di, Fel pan losgo’r tân greision, y pair y tân i’r dwfr ferwi; i hysbysu dy enw i’th wrthwynebwyr, fel yr ofno’r cenhedloedd rhagot! Pan wnaethost bethau ofnadwy ni ddisgwyliasom amdanynt, y disgynnaist, a’r mynyddoedd a doddasant o’th flaen. Ac erioed ni chlywsant, ni dderbyniasant â chlustiau, ac ni welodd llygad, O DDUW, ond tydi, yr hyn a ddarparodd efe i’r neb a ddisgwyl wrtho.