Eseia 63:11-14
Eseia 63:11-14 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Yna dyma fe’n cofio’r hen ddyddiau – Moses … a’i bobl! Ble mae’r Un ddaeth â nhw drwy’r Môr gyda bugeiliaid ei braidd? Ble mae’r Un wnaeth roi ei Ysbryd Glân yn eu plith nhw – yr Un wnaeth roi ei nerth i Moses? Ble mae’r Un wnaeth hollti’r môr o’u blaenau a gwneud enw iddo’i hun am byth? Ble mae’r Un wnaeth eu harwain nhw drwy’r dyfnder fel ceffyl yn carlamu ar dir agored? Rhoddodd Ysbryd yr ARGLWYDD orffwys iddyn nhw, fel gwartheg yn mynd i lawr i’r dyffryn. Dyna sut wnest ti arwain dy bobl a gwneud enw gwych i ti dy hun!
Eseia 63:11-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna fe gofiwyd am y dyddiau gynt, am Moses a'i bobl. Ple mae'r un a ddygodd allan o'r môr fugail ei braidd? Ple mae'r un a roes yn eu canol hwy ei ysbryd sanctaidd, a pheri i'w fraich ogoneddus arwain deheulaw Moses, a hollti'r dyfroedd o'u blaen, i wneud iddo'i hun enw tragwyddol? Arweiniodd hwy trwy'r dyfnderoedd, fel arwain march yn yr anialwch; mor sicr eu troed ag ych yn mynd i lawr i'r dyffryn y tywysodd ysbryd yr ARGLWYDD hwy. Felly yr arweiniaist dy bobl, a gwneud iti enw ardderchog.
Eseia 63:11-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna y cofiodd efe y dyddiau gynt, Moses a’i bobl, gan ddywedyd, Mae yr hwn a’u dygodd hwynt i fyny o’r môr, gyda bugail ei braidd? mae yr hwn a osododd ei Ysbryd sanctaidd o’i fewn ef? Yr hwn a’u tywysodd hwynt â deheulaw Moses, ac â’i ogoneddus fraich, gan hollti y dyfroedd o’u blaen hwynt, i wneuthur iddo ei hun enw tragwyddol? Yr hwn a’u harweiniodd hwynt trwy y dyfnderau, fel march yn yr anialwch, fel na thramgwyddent? Fel y disgyn anifail i’r dyffryn, y gwna Ysbryd yr ARGLWYDD iddo orffwys: felly y tywysaist dy bobl, i wneuthur i ti enw gogoneddus.