Eseia 61:1-3
Eseia 61:1-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae Ysbryd fy Meistr, yr ARGLWYDD, arna i, am fod yr ARGLWYDD wedi fy eneinio i’w wasanaethu. Mae wedi fy anfon i gyhoeddi newyddion da i’r tlodion, i drin briwiau’r rhai sydd wedi torri eu calonnau, a chyhoeddi fod y rhai sy’n gaeth i gael rhyddid, ac i ollwng carcharorion yn rhydd; i gyhoeddi fod blwyddyn ffafr yr ARGLWYDD yma, a’r diwrnod pan fydd Duw yn dial; i gysuro’r rhai sy’n galaru – ac i roi i alarwyr Seion dwrban ar eu pennau yn lle lludw, ac olew llawenydd yn lle galar, mantell mawl yn lle ysbryd anobaith.
Eseia 61:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae ysbryd yr Arglwydd DDUW arnaf, oherwydd i'r ARGLWYDD fy eneinio i gyhoeddi newyddion da i'r tlodion, a chysuro'r toredig o galon; i gyhoeddi rhyddid i'r caethion, a rhoi gollyngdod i'r carcharorion; i gyhoeddi blwyddyn ffafr yr ARGLWYDD a dydd dial ein Duw ni; i ddiddanu pawb sy'n galaru, a gofalu am alarwyr Seion; a rhoi iddynt goron yn lle lludw, olew llawenydd yn lle galar, mantell moliant yn lle digalondid. Gelwir hwy yn brennau cyfiawnder wedi eu plannu gan yr ARGLWYDD i'w ogoniant.
Eseia 61:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ysbryd yr ARGLWYDD DDUW sydd arnaf; oherwydd yr ARGLWYDD a’m heneiniodd i efengylu i’r rhai llariaidd; efe a’m hanfonodd i rwymo y rhai ysig eu calon, i gyhoeddi rhyddid i’r caethion, ac agoriad carchar i’r rhai sydd yn rhwym; I gyhoeddi blwyddyn gymeradwy yr ARGLWYDD, a dydd dial ein DUW ni; i gysuro pob galarus; I osod i alarwyr Seion, ac i roddi iddynt ogoniant yn lle lludw, olew llawenydd yn lle galar, gwisg moliant yn lle ysbryd cystuddiedig; fel y gelwid hwynt yn brennau cyfiawnder, yn blanhigyn yr ARGLWYDD, fel y gogonedder ef.