Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 61:1-11

Eseia 61:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Y mae ysbryd yr Arglwydd DDUW arnaf, oherwydd i'r ARGLWYDD fy eneinio i gyhoeddi newyddion da i'r tlodion, a chysuro'r toredig o galon; i gyhoeddi rhyddid i'r caethion, a rhoi gollyngdod i'r carcharorion; i gyhoeddi blwyddyn ffafr yr ARGLWYDD a dydd dial ein Duw ni; i ddiddanu pawb sy'n galaru, a gofalu am alarwyr Seion; a rhoi iddynt goron yn lle lludw, olew llawenydd yn lle galar, mantell moliant yn lle digalondid. Gelwir hwy yn brennau cyfiawnder wedi eu plannu gan yr ARGLWYDD i'w ogoniant. Ailadeiladant hen adfeilion, cyfodant fannau a fu'n anghyfannedd; atgyweiriant ddinasoedd diffaith ac anghyfanedd-dra llawer oes. Bydd dieithriaid yn gweini fel bugeiliaid i'ch praidd, ac estroniaid fydd eich garddwyr a'ch gwinllanwyr. Gelwir chwi'n offeiriaid yr ARGLWYDD, a'ch enwi'n weinidogion ein Duw ni; cewch fwyta o olud y cenhedloedd ac ymffrostio yn eu cyfoeth. Yn lle'r rhan ddwbl o gywilydd, yn lle'r gwarth a'r cwynfan a ddaeth i'w rhan, fe etifeddant ran ddwbl yn eu gwlad, a chael llawenydd di-baid. “Oherwydd rwyf fi, yr ARGLWYDD, yn hoffi cyfiawnder, ac yn casáu trais a chamwri; rhof iddynt eu gwobr yn ddi-feth, a gwnaf gyfamod tragwyddol â hwy. Bydd eu plant yn adnabyddus ymysg y cenhedloedd, a'u hil ymhlith y bobloedd; bydd pawb fydd yn eu gweld yn eu cydnabod yn genedl a fendithiodd yr ARGLWYDD.” Llawenychaf yn fawr yn yr ARGLWYDD, gorfoleddaf yn fy Nuw; canys gwisgodd amdanaf wisgoedd iachawdwriaeth, taenodd fantell cyfiawnder drosof, fel y bydd priodfab yn gwisgo'i dorch, a phriodferch yn ei haddurno'i hun â'i thlysau. Fel y gwna'r ddaear i'r blagur dyfu, a'r ardd i'r hadau egino, felly y gwna'r ARGLWYDD Dduw i gyfiawnder a moliant darddu gerbron yr holl genhedloedd.

Eseia 61:1-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Mae Ysbryd fy Meistr, yr ARGLWYDD, arna i, am fod yr ARGLWYDD wedi fy eneinio i’w wasanaethu. Mae wedi fy anfon i gyhoeddi newyddion da i’r tlodion, i drin briwiau’r rhai sydd wedi torri eu calonnau, a chyhoeddi fod y rhai sy’n gaeth i gael rhyddid, ac i ollwng carcharorion yn rhydd; i gyhoeddi fod blwyddyn ffafr yr ARGLWYDD yma, a’r diwrnod pan fydd Duw yn dial; i gysuro’r rhai sy’n galaru – ac i roi i alarwyr Seion dwrban ar eu pennau yn lle lludw, ac olew llawenydd yn lle galar, mantell mawl yn lle ysbryd anobaith. Byddan nhw’n cael eu galw yn goed hardd, wedi’u plannu gan yr ARGLWYDD i arddangos ei ysblander. Byddan nhw’n ailadeiladu’r hen hen adfeilion, yn codi lleoedd oedd wedi’u dinistrio, ac yn adfer trefi oedd wedi’u difa a heb neb yn byw ynddyn nhw ers cenedlaethau. Bydd dieithriaid yn gofalu am dy ddefaid di, ac estroniaid yn aredig y tir ac yn trin y coed gwinwydd. Byddwch chi’n cael eich galw yn ‘Offeiriaid yr ARGLWYDD’, ‘Gweision Duw’ fydd y teitl arnoch chi. Byddwch chi’n bwydo ar gyfoeth y cenhedloedd ac yn mwynhau eu holl drysorau nhw. Yn lle’r cywilydd byddwch chi’n derbyn siâr ddwbl, ac yn lle’r gwarth byddwch chi’n dathlu yn eich etifeddiaeth. Felly, byddan nhw’n etifeddu siâr ddwbl yn eu tir, ac yn profi llawenydd fydd yn para am byth. Fi ydy’r ARGLWYDD; dw i’n caru cyfiawnder, ac yn casáu gweld lladrata’r offrwm sydd i’w losgi. Bydda i’n siŵr o roi eu gwobr iddyn nhw, a bydda i’n gwneud ymrwymiad gyda nhw fydd yn para am byth. Bydd eu plant yn adnabyddus ymhlith y cenhedloedd, a’u disgynyddion ymhlith y bobloedd. Bydd pawb sy’n eu gweld nhw’n cydnabod mai nhw ydy’r rhai mae’r ARGLWYDD wedi’u bendithio. Mae’r ARGLWYDD yn fy ngwneud i mor llawen, ac mae fy Nuw yn fy ngwefreiddio i. Mae e wedi fy ngwisgo ag achubiaeth a rhoi cyfiawnder yn fantell o’m cwmpas. Dw i fel priodfab yn gwisgo twrban hardd, neu briodferch wedi’i haddurno â’i thlysau. Fel mae planhigion yn tyfu o’r ddaear, a ffrwythau’n tyfu yn yr ardd, bydd fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn gwneud i gyfiawnder a moliant dyfu yng ngŵydd y cenhedloedd i gyd.

Eseia 61:1-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ysbryd yr ARGLWYDD DDUW sydd arnaf; oherwydd yr ARGLWYDD a’m heneiniodd i efengylu i’r rhai llariaidd; efe a’m hanfonodd i rwymo y rhai ysig eu calon, i gyhoeddi rhyddid i’r caethion, ac agoriad carchar i’r rhai sydd yn rhwym; I gyhoeddi blwyddyn gymeradwy yr ARGLWYDD, a dydd dial ein DUW ni; i gysuro pob galarus; I osod i alarwyr Seion, ac i roddi iddynt ogoniant yn lle lludw, olew llawenydd yn lle galar, gwisg moliant yn lle ysbryd cystuddiedig; fel y gelwid hwynt yn brennau cyfiawnder, yn blanhigyn yr ARGLWYDD, fel y gogonedder ef. Adeiladant hefyd yr hen ddiffeithfa, cyfodant yr anghyfanheddfa gynt, ac adnewyddant ddinasoedd diffaith, ac anghyfanhedd-dra llawer oes. A dieithriaid a safant ac a borthant eich praidd, a meibion dieithr fydd arddwyr a gwinllanwyr i chwi. Chwithau a elwir yn offeiriaid i’r ARGLWYDD: Gweinidogion ein DUW ni, meddir wrthych; golud y cenhedloedd a fwynhewch, ac yn eu gogoniant hwy yr ymddyrchefwch. Yn lle eich cywilydd y cewch ddauddyblyg; ac yn lle gwaradwydd hwy a lawenychant yn eu rhan: am hynny yn y tir y meddiannant ran ddwbl; llawenydd tragwyddol fydd iddynt. Canys myfi yr ARGLWYDD a hoffaf gyfiawnder; yr wyf yn casáu trais yn boethoffrwm, ac a gyfarwyddaf eu gwaith mewn gwirionedd, ac a wnaf â hwynt gyfamod tragwyddol. Eu had hwynt hefyd a adwaenir ymysg y cenhedloedd, a’u hiliogaeth hwynt yng nghanol y bobl: y rhai a’u gwelant a’u hadwaenant, mai hwynt-hwy yw yr had a fendithiodd yr ARGLWYDD. Gan lawenychu y llawenychaf yn yr ARGLWYDD, fy enaid a orfoledda yn fy NUW: canys gwisgodd fi â gwisgoedd iachawdwriaeth, gwisgodd fi â mantell cyfiawnder; megis y mae priodfab yn ymwisgo â harddwisg, ac fel yr ymdrwsia priodferch â’i thlysau. Canys megis y gwna y ddaear i’w gwellt dyfu, ac fel y gwna gardd i’w hadau egino, felly y gwna yr Arglwydd IÔR i gyfiawnder a moliant darddu gerbron yr holl genhedloedd.