Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 59:1-21

Eseia 59:1-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Nid aeth llaw'r ARGLWYDD yn rhy fyr i achub, na'i glust yn rhy drwm i glywed; ond eich camweddau chwi a ysgarodd rhyngoch a'ch Duw, a'ch pechodau chwi a barodd iddo guddio'i wyneb fel nad yw'n eich clywed. Y mae'ch dwylo'n halogedig gan waed, a'ch bysedd gan gamwedd; y mae'ch gwefusau'n dweud celwydd, a'ch tafod yn sibrwd twyll. Nid oes erlynydd teg na diffynnydd gonest, ond y maent yn ymddiried mewn gwegi ac yn llefaru twyll, yn feichiog o niwed ac yn esgor ar ddrygioni. Y maent yn deor wyau gwiberod, ac yn nyddu gwe pryf copyn; os bwyti o'r wyau, byddi farw; os torri un, daw neidr allan. Nid yw gwe pryf copyn yn gwneud dillad; nid oes neb yn gwneud gwisg ohoni; ofer yw eu gweithredoedd i gyd, a'u dwylo'n llunio trais. Y mae eu traed yn rhuthro at gamwedd, ac yn brysio i dywallt gwaed diniwed; bwriadau maleisus yw eu bwriadau, distryw a dinistr sydd ar eu ffyrdd; ni wyddant am ffordd heddwch, nid oes cyfiawnder ar eu llwybrau; y mae eu ffyrdd i gyd yn gam, ac nid oes heddwch i neb sy'n eu cerdded. Am hynny, ciliodd barn oddi wrthym, ac nid yw cyfiawnder yn cyrraedd atom; edrychwn am oleuni, ond tywyllwch a gawn, am ddisgleirdeb, ond mewn caddug y cerddwn; rydym yn ymbalfalu ar y pared fel deillion, yn ymbalfalu fel rhai heb lygaid; rydym yn baglu ganol dydd fel pe bai'n gyfnos, fel y meirw yn y cysgodion. Rydym i gyd yn chwyrnu fel eirth, yn cwyno ac yn cwyno fel colomennod; rydym yn disgwyl am gyfiawnder, ond nis cawn, am iachawdwriaeth, ond ciliodd oddi wrthym. Y mae ein troseddau yn niferus ger dy fron, a'n pechodau yn tystio yn ein herbyn; y mae'n troseddau'n amlwg inni, ac yr ydym yn cydnabod ein camweddau: gwrthryfela a gwadu'r ARGLWYDD, troi ymaith oddi wrth ein Duw, llefaru trawster a gwrthgilio, myfyrio a dychmygu geiriau celwyddog. Gwthir barn o'r neilltu, ac y mae cyfiawnder yn cadw draw, oherwydd cwympodd gwirionedd ar faes y dref, ac ni all uniondeb ddod i mewn. Y mae gwirionedd yn eisiau, ac ysbeilir yr un sy'n ymwrthod â drygioni. Gwelodd yr ARGLWYDD hyn, ac yr oedd yn ddrwg yn ei olwg nad oedd barn i'w chael. Gwelodd nad oedd neb yn malio, rhyfeddodd nad oedd neb yn ymyrryd; yna daeth ei fraich ei hun â buddugoliaeth iddo, a chynhaliodd ei gyfiawnder ef. Gwisgodd gyfiawnder fel llurig, a helm iachawdwriaeth am ei ben; gwisgodd ddillad dialedd, a rhoi eiddigedd fel mantell amdano. Bydd yn talu i bawb yn ôl ei haeddiant— llid i'w wrthwynebwyr, cosb i'w elynion; bydd yn rhoi eu haeddiant i'r ynysoedd. Felly, ofnant enw'r ARGLWYDD yn y gorllewin, a'i ogoniant yn y dwyrain; oherwydd fe ddaw fel afon mewn llif yn cael ei gyrru gan ysbryd yr ARGLWYDD. “Fe ddaw gwaredydd i Seion, at y rhai yn Jacob sy'n cefnu ar wrthryfel,” medd yr ARGLWYDD. “Dyma,” medd yr ARGLWYDD, “fy nghyfamod â hwy. Bydd fy ysbryd i arnat, a gosodaf fy ngeiriau yn dy enau; nid ymadawant oddi wrthyt nac oddi wrth dy blant, na phlant dy blant, o'r pryd hwn hyd byth,” medd yr ARGLWYDD.

Eseia 59:1-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Edrychwch, dydy’r ARGLWYDD ddim yn rhy wan i achub; a dydy e ddim yn rhy fyddar i glywed! Mae eich drygioni chi wedi’ch gwahanu chi oddi wrth Dduw. Eich pechodau chi sydd wedi gwneud iddo guddio’i wyneb a gwrthod gwrando arnoch chi. Mae tywallt gwaed yn gwneud eich dwylo’n aflan, a phechod yn baeddu eich bysedd. Mae eich gwefusau’n dweud celwydd a’ch tafod yn sibrwd twyll. Does neb yn sefyll dros beth sy’n iawn, a neb sy’n mynd i’r llys yn onest, ond yn dibynnu ar eiriau gwag a chelwydd. Maen nhw’n achosi drygioni ac yn esgor ar drafferthion. Maen nhw wedi deor wyau nadroedd, ac yn nyddu gwe pry copyn. Bydd pwy bynnag sy’n bwyta’r wyau hynny’n marw, ac os bydd un yn torri, mae neidr yn dod allan ohono. Dydy’r gwe pry copyn ddim yn gwneud dillad; allan nhw ddim gwisgo’r hyn maen nhw’n ei nyddu. Mae popeth maen nhw’n ei wneud yn ddrwg, ac maen nhw’n llawn trais. Maen nhw’n rhedeg at y drwg, ac yn barod iawn i ladd pobl ddiniwed. Maen nhw bob amser yn meddwl am wneud drwg, ac yn achosi llanast a dinistr. Dŷn nhw’n gwybod dim am wir heddwch, a byth yn gwneud beth sy’n iawn. Mae’r ffyrdd maen nhw’n eu dilyn yn droellog, a fydd dim heddwch i’r rhai sy’n cerdded y ffordd honno. Felly, dyna pam nad ydy’r sefyllfa wedi’i sortio, ac nad ydy Duw wedi gwneud pethau’n iawn. Dŷn ni’n disgwyl am olau, ond does dim ond tywyllwch, yn edrych am lygedyn o obaith, ond yn crwydro yn y gwyll. Dŷn ni’n ymbalfalu wrth y wal fel pobl ddall, yn ceisio teimlo’n ffordd fel rhai sydd ddim yn gweld. Dŷn ni’n baglu ganol dydd, fel petai wedi tywyllu; dŷn ni fel cyrff meirw pan ddylen ni fod yn llawn egni. Dŷn ni i gyd yn chwyrnu’n ddig fel eirth neu’n cwyno a cŵan fel colomennod. Dŷn ni’n edrych am gyfiawnder, ond ddim yn ei gael; am achubiaeth, ond mae allan o’n cyrraedd. Dŷn ni wedi gwrthryfela mor aml yn dy erbyn di, mae’n pechodau yn tystio yn ein herbyn ni. Y gwir ydy, dŷn ni’n dal i wrthryfela, a dŷn ni’n gwybod yn iawn ein bod wedi methu: gwrthryfela, gwadu’r ARGLWYDD a throi cefn ar Dduw; cymryd mantais anghyfiawn, bradychu, a phalu celwyddau! Felly mae’r hyn sy’n iawn yn cael ei wthio i ffwrdd a chyfiawnder yn cadw draw. Mae gwirionedd yn baglu yn y gymdeithas, a gonestrwydd yn methu dod i mewn. Mae gwirionedd wedi diflannu, ac mae’r un sy’n troi cefn ar ddrwg yn cael ei ysbeilio. ARGLWYDD Pan welodd yr ARGLWYDD fod dim cyfiawnder, roedd yn anhapus iawn. Pan welodd nad oedd neb o gwbl yn ymyrryd, roedd yn arswydo. Ond yna, dyma fe’i hun yn mynd ati i achub, a’i gyfiawnder yn ei yrru’n ei flaen. Gwisgodd gyfiawnder fel arfwisg, ac achubiaeth yn helmed ar ei ben. Rhoddodd ddillad dial amdano, a gwisgo sêl fel mantell. Bydd yn rhoi i bawb beth maen nhw’n ei haeddu – llid i’r rhai sydd yn ei wrthwynebu, a chosb i’w elynion; bydd yn talu’n ôl yn llawn i ben draw’r byd. Bydd pobl o’r gorllewin yn parchu enw’r ARGLWYDD, a phobl o’r dwyrain yn gweld ei ysblander. Bydd e’n dod fel afon sy’n llifo’n gryf, ac ysbryd yr ARGLWYDD yn ei yrru yn ei flaen. “Bydd e’n dod i Jerwsalem i ollwng yn rhydd, ac at y rhai yn Jacob sy’n troi cefn ar eu gwrthryfel,” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn. Dyma fy ymrwymiad i iddyn nhw, meddai’r ARGLWYDD: “Bydd fy Ysbryd i arnat ti, a fydd y neges dw i wedi’i rhoi i ti ddim yn dy adael di; byddi di a dy blant, a phlant dy blant, yn ei chofio o hyn allan ac am byth.” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.

Eseia 59:1-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Wele, ni fyrhawyd llaw yr ARGLWYDD, fel na allo achub; ac ni thrymhaodd ei glust ef, fel na allo glywed: Eithr eich anwireddau chwi a ysgarodd rhyngoch chwi a’ch DUW, a’ch pechodau a guddiasant ei wyneb oddi wrthych, fel na chlywo. Canys eich dwylo a halogwyd â gwaed, a’ch bysedd â chamwedd: eich gwefusau a draethasant gelwydd, eich tafod a fyfyriodd anwiredd. Nid oes a alwo am gyfiawnder, nac a ddadlau dros y gwirionedd: y maent yn gobeithio mewn gwagedd, ac yn dywedyd celwydd; yn beichiogi ar flinder, ac yn esgor ar anwiredd. Wyau asb a ddodwasant, a gweoedd y pryf copyn a weant: yr hwn a fwyty o’u hwyau a fydd farw, a’r hwn a sathrer a dyr allan yn wiber. Eu gweoedd hwy ni byddant yn wisgoedd, ac nid ymddilladant â’u gweithredoedd: eu gweithredoedd ydynt weithredoedd anwiredd, a gwaith trawster sydd yn eu dwylo. Eu traed a redant i ddrygioni, a hwy a frysiant i dywallt gwaed gwirion: eu meddyliau sydd feddyliau anwir; distryw a dinistr sydd ar eu ffyrdd hwynt. Ffordd heddwch nid adwaenant; ac nid oes gyfiawnder yn eu llwybrau: gwnaethant iddynt lwybrau ceimion: pwy bynnag a rodio yno, nid edwyn heddwch. Am hynny y ciliodd barnedigaeth oddi wrthym, ac ni’n goddiweddodd cyfiawnder: disgwyliasom am oleuni, ac wele dywyllwch; am ddisgleirdeb, ac yn y fagddu yr ydym yn rhodio. Palfalasom fel deillion â’r pared, ie, fel rhai heb lygaid y palfalasom: tramgwyddasom ar hanner dydd fel y cyfnos; oeddem mewn lleoedd anghyfannedd fel rhai meirw. Nyni oll a ruasom fel eirth, a chan riddfan y griddfanasom fel colomennod: disgwyliasom am farn, ac nid oes dim: am iachawdwriaeth, ac ymbellhaodd oddi wrthym. Canys amlhaodd ein camweddau ger dy fron, a thystiolaethodd ein pechodau i’n herbyn: oherwydd ein camweddau sydd gyda ni; a’n hanwireddau, ni a’u hadwaenom: Camweddu, a dywedyd celwydd yn erbyn yr ARGLWYDD, a chilio oddi ar ôl ein DUW, dywedyd trawster ac anufudd-dod, myfyrio a thraethu o’r galon eiriau gau. Barn hefyd a droed yn ei hôl, a chyfiawnder a safodd o hirbell: canys gwirionedd a gwympodd yn yr heol, ac uniondeb ni all ddyfod i mewn. Ie, gwirionedd sydd yn pallu, a’r hwn sydd yn cilio oddi wrth ddrygioni a’i gwna ei hun yn ysbail: a gwelodd yr ARGLWYDD hyn, a drwg oedd yn ei olwg nad oedd barn. Gwelodd hefyd nad oedd gŵr, a rhyfeddodd nad oedd eiriolwr: am hynny ei fraich a’i hachubodd, a’i gyfiawnder ei hun a’i cynhaliodd. Canys efe a wisgodd gyfiawnder fel llurig, a helm iachawdwriaeth am ei ben; ac a wisgodd wisgoedd dial yn ddillad; ie, gwisgodd sêl fel cochl. Yn ôl y gweithredoedd, ie, yn eu hôl hwynt, y tâl efe, llid i’w wrthwynebwyr, taledigaeth i’w elynion; taledigaeth i’r ynysoedd a dâl efe. Felly yr ofnant enw yr ARGLWYDD o’r gorllewin, a’i ogoniant ef o godiad haul. Pan ddelo y gelyn i mewn fel afon, Ysbryd yr ARGLWYDD a’i hymlid ef ymaith. Ac i Seion y daw y Gwaredydd, ac i’r rhai a droant oddi wrth anwiredd yn Jacob, medd yr ARGLWYDD. A minnau, dyma fy nghyfamod â hwynt, medd yr ARGLWYDD: Fy ysbryd yr hwn sydd arnat, a’m geiriau y rhai a osodais yn dy enau, ni chiliant o’th enau, nac o enau dy had, nac o enau had dy had, medd yr ARGLWYDD, o hyn allan byth.