Eseia 58:6-7
Eseia 58:6-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Onid dyma yr ympryd a ddewisais? datod rhwymau anwiredd, tynnu ymaith feichiau trymion, a gollwng y rhai gorthrymedig yn rhyddion, a thorri ohonoch bob iau? Onid torri dy fara i’r newynog, a dwyn ohonot y crwydraid i dŷ? a phan welych y noeth, ei ddilladu; ac nad ymguddiech oddi wrth dy gnawd dy hun?
Eseia 58:6-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Na, dyma’r math o ymprydio dw i eisiau: cael gwared â chadwyni anghyfiawnder, datod rhaffau’r iau a gollwng y rhai sy’n cael eu gormesu yn rhydd; dryllio popeth sy’n rhoi baich ar bobl. Rhannu dy fwyd gyda’r newynog, rhoi lle i fyw i’r rhai tlawd sy’n ddigartref a rhoi dillad i rywun rwyt yn ei weld yn noeth; peidio ceisio osgoi gofalu am dy deulu.
Eseia 58:6-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Onid dyma'r dydd ympryd a ddewisais: tynnu ymaith rwymau anghyfiawn, a llacio clymau'r iau, gollwng yn rhydd y rhai a orthrymwyd, a dryllio pob iau? Onid rhannu dy fara gyda'r newynog, a derbyn y tlawd digartref i'th dŷ, dilladu'r noeth pan y'i gweli, a pheidio ag ymguddio rhag dy deulu dy hun?