Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 58:1-14

Eseia 58:1-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

“Gwaedda mor uchel ag y medri di, heb ddal yn ôl; Cod dy lais fel sain corn hwrdd! Dwed wrth fy mhobl eu bod nhw wedi gwrthryfela, ac wrth bobl Jacob eu bod nhw wedi pechu. Maen nhw’n troi ata i bob dydd, ac yn awyddus i ddysgu am fy ffyrdd. Yn ôl pob golwg maen nhw’n genedl sy’n gwneud beth sy’n iawn ac sydd heb droi cefn ar ddysgeidiaeth eu Duw. Maen nhw’n gofyn i mi am y ffordd iawn, ac yn awyddus i glosio at Dduw. ‘Pam oeddet ti ddim yn edrych pan oedden ni’n ymprydio?’ medden nhw, ‘Pam oeddet ti ddim yn cymryd sylw pan oedden ni’n cosbi ein hunain?’ Am eich bod chi’n ymprydio i blesio’ch hunain ac yn cam-drin eich gweithwyr yr un pryd! Dych chi’n ymprydio i ffraeo a ffustio, Dim dyna’r ffordd i ymprydio os ydych chi eisiau i Dduw wrando. Ai dyma sut ymprydio dw i eisiau – diwrnod pan mae pobl yn llwgu eu hunain, ac yn plygu eu pennau fel planhigyn sy’n gwywo? Diwrnod i orwedd ar sachliain a lludw? Ai dyna beth wyt ti’n ei alw’n ymprydio, yn ddiwrnod sy’n plesio’r ARGLWYDD? Na, dyma’r math o ymprydio dw i eisiau: cael gwared â chadwyni anghyfiawnder, datod rhaffau’r iau a gollwng y rhai sy’n cael eu gormesu yn rhydd; dryllio popeth sy’n rhoi baich ar bobl. Rhannu dy fwyd gyda’r newynog, rhoi lle i fyw i’r rhai tlawd sy’n ddigartref a rhoi dillad i rywun rwyt yn ei weld yn noeth; peidio ceisio osgoi gofalu am dy deulu. Wedyn bydd dy olau’n disgleirio fel y wawr, a byddi’n cael dy adfer yn fuan. Bydd dy gyfiawnder yn mynd o dy flaen di, a bydd ysblander yr ARGLWYDD yn dy amddiffyn o’r tu ôl. Wedyn, byddi’n galw, a bydd yr ARGLWYDD yn ateb; byddi’n gweiddi, a bydd e’n dweud, ‘Dw i yma’. Rhaid cael gwared â’r iau sy’n gorthrymu, stopio pwyntio bys a siarad yn gas. Rhaid i ti wneud popeth fedri i helpu’r newynog, a chwrdd ag anghenion y rhai sy’n diodde. Wedyn bydd dy olau’n disgleirio yn y tywyllwch, a bydd dy dristwch yn troi’n olau fel canol dydd! Bydd yr ARGLWYDD yn dy arwain bob amser, yn torri dy syched pan wyt ti mewn anialwch poeth, ac yn dy wneud yn gryf. Byddi fel gardd wedi’i dyfrio, neu ffynnon ddŵr sydd byth yn sychu. Byddi’n ailgodi’r hen adfeilion, ac yn adeiladu ar yr hen sylfeini. Byddi’n cael dy alw yn ‘atgyweiriwr y waliau’ ac yn ‘adferwr y strydoedd’, i bobl fyw yno. Os gwnei di stopio teithio ar y Saboth, a plesio dy hun ar fy niwrnod sbesial i; os gwnei di alw’r Saboth yn bleser, parchu diwrnod sbesial yr ARGLWYDD, dangos parch ato drwy beidio gwneud beth wyt ti eisiau, plesio dy hun, a siarad fel y mynni – wedyn gelli ddisgwyl i’r ARGLWYDD gael ei blesio. Byddi’n llwyddo, a fydd dim yn dy rwystro, a chei fwynhau etifeddiaeth Jacob, dy dad.” –mae’r ARGLWYDD wedi dweud.

Eseia 58:1-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

“Gwaedda'n uchel, paid ag arbed, cod dy lais fel utgorn; mynega eu gwrthryfel i'm pobl, a'u pechod i dŷ Jacob. Y maent yn fy ngheisio'n feunyddiol, ac yn deisyfu gwybod fy ffordd; ac fel cenedl sy'n gweithredu cyfiawnder, heb droi cefn ar farn eu Duw, dônt i ofyn barn gyfiawn gennyf, ac y maent yn deisyfu nesáu at Dduw. “ ‘Pam y gwnawn ympryd, a thithau heb edrych? Pam y'n cystuddiwn ein hunain, a thithau heb sylwi?’ meddant. Yn wir, wrth ymprydio, ceisio'ch lles eich hunain yr ydych, a gyrru ar eich gweision yn galetach. Y mae eich ympryd yn arwain i gynnen a chweryl, a tharo â dyrnod maleisus; nid yw'r fath ddiwrnod o ympryd yn dwyn eich llais i fyny uchod. Ai dyma'r math o ympryd a ddewisais— diwrnod i rywun ei gystuddio'i hun? A yw i grymu ei ben fel brwynen, a gwneud ei wely mewn sachliain a lludw? Ai hyn a elwi yn ympryd, yn ddiwrnod i ryngu bodd i'r ARGLWYDD? “Onid dyma'r dydd ympryd a ddewisais: tynnu ymaith rwymau anghyfiawn, a llacio clymau'r iau, gollwng yn rhydd y rhai a orthrymwyd, a dryllio pob iau? Onid rhannu dy fara gyda'r newynog, a derbyn y tlawd digartref i'th dŷ, dilladu'r noeth pan y'i gweli, a pheidio ag ymguddio rhag dy deulu dy hun? Yna fe ddisgleiria d'oleuni fel y wawr, a byddi'n ffynnu mewn iechyd yn fuan; bydd dy gyfiawnder yn mynd o'th flaen, a gogoniant yr ARGLWYDD yn dy ddilyn. Pan elwi, bydd yr ARGLWYDD yn ateb, a phan waeddi, fe ddywed, ‘Dyma fi.’ “Os symudi'r gorthrwm ymaith, os peidi â chodi bys i gyhuddo ar gam, os rhoddi o'th fodd i'r anghenus, a diwallu angen y cystuddiol, yna cyfyd goleuni i ti o'r tywyllwch, a bydd y caddug fel canol dydd. Bydd yr ARGLWYDD yn dy arwain bob amser, yn diwallu dy angen mewn cyfnod sych, ac yn cryfhau dy esgyrn; yna byddi fel gardd ddyfradwy, ac fel ffynnon ddŵr a'i dyfroedd heb ballu. Byddi rhai ohonoch yn adeiladu'r hen furddunnod ac yn codi ar yr hen sylfeini; fe'th elwir yn gaewr bylchau, ac yn adferwr tai adfeiliedig. “Os peidi â sathru'r Saboth dan draed, a pheidio â cheisio dy les dy hun ar fy nydd sanctaidd, ond galw'r Saboth yn hyfrydwch, a dydd sanctaidd yr ARGLWYDD yn ogoneddus; os anrhydeddi ef, trwy beidio â theithio, na cheisio dy les na thrafod dy faterion dy hun; yna cei foddhad yn yr ARGLWYDD. Cei farchogaeth ar uchelfannau'r ddaear, a phorthaf di ag etifeddiaeth dy dad Jacob.” Y mae genau'r ARGLWYDD wedi llefaru.

Eseia 58:1-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Llefa â’th geg, nac arbed; dyrchafa dy lais fel utgorn, a mynega i’m pobl eu camwedd, a’u pechodau i dŷ Jacob. Eto beunydd y’m ceisiant, ac a ewyllysiant wybod fy ffyrdd, fel cenedl a wnelai gyfiawnder, ac ni wrthodai farnedigaeth ei DUW: gofynnant i mi farnedigaethau cyfiawnder, ewyllysiant nesáu at DDUW. Paham, meddant, yr ymprydiasom, ac nis gwelaist? y cystuddiasom ein henaid, ac nis gwybuost? Wele, yn y dydd yr ymprydioch yr ydych yn cael gwynfyd, ac yn mynnu eich holl ddyledion. Wele, i ymryson a chynnen yr ymprydiwch, ac i daro â dwrn anwiredd: nac ymprydiwch fel y dydd hwn, i beri clywed eich llais yn yr uchelder. Ai dyma yr ympryd a ddewisais? dydd i ddyn i gystuddio ei enaid? ai crymu ei ben fel brwynen ydyw, a thaenu sachliain a lludw dano? ai hyn a elwi yn ympryd, ac yn ddiwrnod cymeradwy gan yr ARGLWYDD? Onid dyma yr ympryd a ddewisais? datod rhwymau anwiredd, tynnu ymaith feichiau trymion, a gollwng y rhai gorthrymedig yn rhyddion, a thorri ohonoch bob iau? Onid torri dy fara i’r newynog, a dwyn ohonot y crwydraid i dŷ? a phan welych y noeth, ei ddilladu; ac nad ymguddiech oddi wrth dy gnawd dy hun? Yna y tyr dy oleuni allan fel y wawr, a’th iechyd a dardda yn fuan: a’th gyfiawnder a â o’th flaen; gogoniant yr ARGLWYDD a’th ddilyn. Yna y gelwi, a’r ARGLWYDD a etyb; y gwaeddi, ac efe a ddywed, Wele fi. Os bwri o’th fysg yr iau, estyn bys, a dywedyd oferedd; Os tynni allan dy enaid i’r newynog, a diwallu yr enaid cystuddiedig: yna dy oleuni a gyfyd mewn tywyllwch, a’th dywyllwch fydd fel hanner dydd: A’r ARGLWYDD a’th arwain yn wastad, ac a ddiwalla dy enaid ar sychder, ac a wna dy esgyrn yn freision: a thi a fyddi fel gardd wedi ei dyfrhau, ac megis ffynnon ddwfr, yr hon ni phalla ei dyfroedd. A’r rhai a fyddant ohonot ti a adeiladant yr hen ddiffeithleoedd; ti a gyfodi sylfeini llawer cenhedlaeth: a thi a elwir yn gaewr yr adwy, yn gyweiriwr llwybrau i gyfanheddu ynddynt. O throi dy droed oddi wrth y Saboth, heb wneuthur dy ewyllys ar fy nydd sanctaidd; a galw y Saboth yn hyfrydwch, sanct yr ARGLWYDD yn ogoneddus; a’i anrhydeddu ef, heb wneuthur dy ffyrdd dy hun, heb geisio dy ewyllys dy hun, na dywedyd dy eiriau dy hun: Yna yr ymhyfrydi yn yr ARGLWYDD, ac mi a wnaf i ti farchogaeth ar uchelfeydd y ddaear, ac a’th borthaf ag etifeddiaeth Jacob dy dad: canys genau yr ARGLWYDD a’i llefarodd.