Eseia 56:1-12
Eseia 56:1-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Gwnewch beth sy’n iawn! Gwnewch beth sy’n deg! Dw i ar fin achub, a dangos fy nghyfiawnder. Y fath fendith fydd i’r bobl sy’n gwneud hyn, a’r rhai hynny sy’n dal gafael yn y peth – y rhai sy’n cadw’r Saboth, heb ei wneud yn aflan, ac yn stopio’u hunain rhag gwneud drwg. Ddylai’r estron sydd wedi ymrwymo i’r ARGLWYDD ddim dweud: ‘Mae’r ARGLWYDD yn fy nghadw i ar wahân i’w bobl.’ A ddylai’r eunuch ddim dweud, ‘Coeden sydd wedi gwywo ydw i.’” Achos dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: “I’r eunuchiaid hynny sy’n cadw fy Sabothau – sy’n dewis gwneud beth dw i eisiau ac yn glynu’n ffyddlon i’r ymrwymiad wnes i – dw i’n mynd i godi cofeb yn fy nhŷ, y tu mewn i’w waliau: rhywbeth gwell na meibion a merched, a rhoi enw iddyn nhw fydd yn para am byth. Ac i’r bobl estron sydd wedi ymrwymo i wasanaethu’r ARGLWYDD, ei garu, a dod yn weision iddo – pawb sy’n cadw’r Saboth heb ei wneud yn aflan, ac sy’n glynu’n ffyddlon i’r ymrwymiad wnes i – Bydda i’n eu harwain at fy mynydd cysegredig i ddathlu’n llawen yn fy nhŷ gweddi. Bydd croeso iddyn nhw ddod ag offrymau i’w llosgi ac aberthau i’w cyflwyno ar fy allor i; achos bydd fy nhŷ i yn cael ei alw yn dŷ gweddi i’r holl genhedloedd.” Dyma mae’r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud, yr un sy’n casglu ffoaduriaid Israel at ei gilydd: “Dw i’n mynd i gasglu mwy eto at y rhai sydd eisoes wedi’u casglu.” “Dewch i fwyta, chi anifeiliaid gwyllt! Dewch, holl anifeiliaid y goedwig! Mae’r gwylwyr i gyd yn ddall, ac yn deall dim. Maen nhw fel cŵn mud sy’n methu cyfarth – yn breuddwydio, yn gorweddian, ac wrth eu bodd yn pendwmpian. Ond maen nhw hefyd yn gŵn barus sydd byth yn gwybod pryd maen nhw wedi cael digon; bugeiliaid sy’n deall dim! Mae pob un wedi mynd ei ffordd ei hun, ac maen nhw i gyd yn ceisio elwa rywsut. ‘Dewch, dw i am nôl gwin! Gadewch i ni feddwi ar gwrw! Cawn wneud yr un fath yfory – bydd hyd yn oed yn well!’
Eseia 56:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Cadwch farn, gwnewch gyfiawnder; oherwydd y mae fy iachawdwriaeth ar ddod, a'm goruchafiaeth ar gael ei datguddio. Gwyn ei fyd y sawl sy'n gwneud felly, a'r un sy'n glynu wrth hyn, yn cadw'r Saboth heb ei halogi, ac yn ymgadw rhag gwneud unrhyw ddrwg.” Na ddyweded y dieithryn a lynodd wrth yr ARGLWYDD, “Yn wir y mae'r ARGLWYDD yn fy ngwahanu oddi wrth ei bobl.” Na ddyweded yr eunuch, “Pren crin wyf fi.” Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “I'r eunuchiaid sy'n cadw fy Sabothau ac yn dewis y pethau a hoffaf ac yn glynu wrth fy nghyfamod, y rhof yn fy nhŷ ac oddi mewn i'm muriau gofgolofn ac enw a fydd yn well na meibion a merched; rhof iddynt enw parhaol nas torrir ymaith. A'r dieithriaid sy'n glynu wrth yr ARGLWYDD, yn ei wasanaethu ac yn caru ei enw, sy'n dod yn weision iddo ef, yn cadw'r Saboth heb ei halogi ac yn glynu wrth fy nghyfamod— dygaf y rhain i'm mynydd sanctaidd, a rhof iddynt lawenydd yn fy nhŷ gweddi, a derbyn eu poethoffrwm a'u haberth ar fy allor; oherwydd gelwir fy nhŷ yn dŷ gweddi i'r holl bobloedd,” medd yr Arglwydd DDUW, sy'n casglu alltudion Israel. “Casglaf ragor eto at y rhai sydd wedi eu casglu.” Dewch i ddifa, chwi fwystfilod gwyllt, holl anifeiliaid y coed. Y mae'r gwylwyr i gyd yn ddall a heb ddeall; y maent i gyd yn gŵn mud heb fedru cyfarth, yn breuddwydio, yn gorweddian, yn hoffi hepian, yn gŵn barus na wyddant beth yw digon. Y maent hefyd yn fugeiliaid heb fedru deall, pob un yn troi i'w ffordd ei hun, a phob un yn edrych am elw iddo'i hun, ac yn dweud, “Dewch, af i gyrchu gwin; gadewch i ni feddwi ar ddiod gadarn; bydd yfory'n union fel heddiw, ond yn llawer gwell.”
Eseia 56:1-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Cedwch farn, a gwnewch gyfiawnder: canys fy iachawdwriaeth sydd ar ddyfod, a’m cyfiawnder ar ymddangos. Gwyn ei fyd y dyn a wnelo hyn, a mab y dyn a ymaflo ynddo; gan gadw y Saboth heb ei halogi, a chadw ei law rhag gwneuthur dim drwg. Ac na lefared y dieithrfab, yr hwn a lynodd wrth yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD gan ddidoli a’m didolodd oddi wrth ei bobl; ac na ddyweded y disbaddedig, Wele fi yn bren crin. Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth y rhai disbaddedig, y rhai a gadwant fy Sabothau, ac a ddewisant yr hyn a ewyllysiwyf, ac a ymaflant yn fy nghyfamod i; Ie, rhoddaf iddynt yn fy nhŷ, ac o fewn fy magwyrydd, le ac enw gwell na meibion ac na merched: rhoddaf iddynt enw tragwyddol, yr hwn ni thorrir ymaith. A’r meibion dieithr, y rhai a lynant wrth yr ARGLWYDD, gan ei wasanaethu ef, a chan garu enw yr ARGLWYDD, i fod yn weision iddo ef, pob un a gadwo y Saboth heb ei halogi, ac a ymaflo yn fy nghyfamod; Dygaf hwythau hefyd i fynydd fy sancteiddrwydd, a llawenychaf hwynt yn nhŷ fy ngweddi: eu poethoffrymau hefyd a’u hebyrth fyddant gymeradwy ar fy allor: canys fy nhŷ i a elwir yn dŷ gweddi i’r holl bobloedd. Medd yr Arglwydd DDUW, yr hwn a gasgl wasgaredigion Israel, Eto mi a gasglaf eraill ato ef, gyda’r rhai sydd wedi eu casglu ato. Pob bwystfil y maes, deuwch i ddifa, a phob bwystfil yn y coed. Deillion yw ei wyliedyddion: ni wyddant hwy oll ddim, cŵn mudion ydynt hwy oll, heb fedru cyfarth; yn cysgu, yn gorwedd, ac yn caru hepian. Ie, cŵn gwancus ydynt, ni chydnabyddant â’u digon, a bugeiliaid ydynt ni fedrant ddeall; wynebant oll ar eu ffordd eu hun, pob un at ei elw ei hun o’i gwr. Deuwch, meddant, cyrchaf win, ac ymlanwn o ddiod gref; a bydd yfory megis heddiw, a mwy o lawer iawn.