Eseia 55:6-12
Eseia 55:6-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dewch at yr ARGLWYDD tra mae ar gael! Galwch arno tra mae’n agos! Rhaid i’r euog droi cefn ar eu ffyrdd drwg, a’r rhai sy’n creu helynt ar eu bwriadau – troi’n ôl at yr ARGLWYDD, iddo ddangos trugaredd; troi at ein Duw ni, achos mae e mor barod i faddau. Dydy fy mwriadau i ddim yr un fath â’ch bwriadau chi, a dydy fy ffyrdd i ddim yr un fath â’ch ffyrdd chi –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn. Fel mae’r nefoedd gymaint uwch na’r ddaear, mae fy ffyrdd i yn uwch na’ch ffyrdd chi, a’m bwriadau i yn well na’ch bwriadau chi. Ond fel y glaw a’r eira sy’n disgyn o’r awyr a ddim yn mynd yn ôl nes dyfrio’r ddaear gan wneud i blanhigion dyfu a rhoi hadau i’w hau a bwyd i’w fwyta, felly mae’r neges dw i’n ei chyhoeddi: dydy hi ddim yn dod yn ôl heb wneud ei gwaith – mae’n gwneud beth dw i eisiau, ac yn llwyddo i gyflawni ei phwrpas. Ie, byddwch chi’n mynd allan yn llawen ac yn cael eich arwain mewn heddwch. Bydd y mynyddoedd a’r bryniau’n bloeddio canu o’ch blaen, a’r coed i gyd yn curo dwylo.
Eseia 55:6-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ceisiwch yr ARGLWYDD tra gellir ei gael, galwch arno tra bydd yn agos. Gadawed y drygionus ei ffordd, a'r un ofer ei fwriadau, a dychwelyd at yr ARGLWYDD, iddo drugarhau wrtho, ac at ein Duw ni, oherwydd fe faddau'n helaeth. “Oherwydd nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi, ac nid eich ffyrdd chwi yw fy ffyrdd i,” medd yr ARGLWYDD. “Fel y mae'r nefoedd yn uwch na'r ddaear, y mae fy ffyrdd i yn uwch na'ch ffyrdd chwi, a'm meddyliau i na'ch meddyliau chwi. Fel y mae'r glaw a'r eira yn disgyn o'r nefoedd, a heb ddychwelyd yno nes dyfrhau'r ddaear, a gwneud iddi darddu a ffrwythloni, a rhoi had i'w hau a bara i'w fwyta, felly y mae fy ngair sy'n dod o'm genau; ni ddychwel ataf yn ofer, ond fe wna'r hyn a ddymunaf, a llwyddo â'm neges. “Mewn llawenydd yr ewch allan, ac mewn heddwch y'ch arweinir; bydd y mynyddoedd a'r bryniau'n bloeddio canu o'ch blaen, a holl goed y maes yn curo dwylo.
Eseia 55:6-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ceisiwch yr ARGLWYDD, tra y galler ei gael ef; gelwch arno, tra fyddo yn agos. Gadawed y drygionus ei ffordd, a’r gŵr anwir ei feddyliau; a dychweled at yr ARGLWYDD, ac efe a gymer drugaredd arno; ac at ein DUW ni, oherwydd efe a arbed yn helaeth. Canys nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi, ac nid eich ffyrdd chwi yw fy ffyrdd i, medd yr ARGLWYDD. Canys fel y mae y nefoedd yn uwch na’r ddaear, felly uwch yw fy ffyrdd i na’ch ffyrdd chwi, a’m meddyliau i na’ch meddyliau chwi. Canys fel y disgyn y glaw a’r eira o’r nefoedd, ac ni ddychwel yno, eithr dyfrha y ddaear, ac a wna iddi darddu a thyfu, fel y rhoddo had i’r heuwr, a bara i’r bwytawr: Felly y bydd fy ngair, yr hwn a ddaw o’m genau: ni ddychwel ataf yn wag; eithr efe a wna yr hyn a fynnwyf, ac a lwydda yn y peth yr anfonais ef o’i blegid. Canys mewn llawenydd yr ewch allan, ac mewn hedd y’ch arweinir; y mynyddoedd a’r bryniau a floeddiant ganu o’ch blaen, a holl goed y maes a gurant ddwylo.