Eseia 55:1-3
Eseia 55:1-3 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
“Hei! Os oes syched arnoch chi, dewch at y dŵr! Os nad oes gynnoch chi arian, dewch beth bynnag! Prynwch a bwytwch. Dewch! Prynwch win a llaeth heb arian – mae am ddim! Pam gwario’ch arian ar rywbeth sydd ddim yn fwyd, a’ch cyflog ar rywbeth sydd ddim yn bodloni? Gwrandwch yn ofalus arna i! Cewch fwyta bwyd blasus, a mwynhau danteithion. Gwrandwch arna i, a dewch yma. Os gwnewch chi wrando, cewch fyw! Bydda i’n gwneud ymrwymiad hefo chi fydd yn para am byth – fel y bendithion sicr wnes i eu haddo i Dafydd.
Eseia 55:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Dewch i'r dyfroedd, bob un y mae syched arno; dewch, er eich bod heb arian; prynwch a bwytewch. Dewch, prynwch win a llaeth, heb arian a heb dâl. Pam y gwariwch arian am yr hyn nad yw'n fara, a llafurio am yr hyn nad yw'n digoni? Gwrandewch arnaf yn astud, a chewch fwyta'r hyn sydd dda, a mwynhau danteithion. Gwrandewch arnaf, dewch ataf; clywch, a byddwch fyw. Gwnaf â chwi gyfamod tragwyddol, fy ffyddlondeb sicr i Ddafydd.
Eseia 55:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
O deuwch i’r dyfroedd, bob un y mae syched arno, ie, yr hwn nid oes arian ganddo; deuwch, prynwch, a bwytewch; ie, deuwch, prynwch win a llaeth, heb arian, ac heb werth. Paham y gweriwch arian am yr hyn nid ydyw fara? a’ch llafur am yr hyn nid yw yn digoni? gan wrando gwrandewch arnaf fi, a bwytewch yr hyn sydd dda; ac ymhyfryded eich enaid mewn braster. Gogwyddwch eich clust, a deuwch ataf; gwrandewch, a bydd byw eich enaid: a mi a wnaf gyfamod tragwyddol â chwi, sef sicr drugareddau Dafydd.