Eseia 54:5-8
Eseia 54:5-8 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae’r un wnaeth dy greu di wedi dy briodi di! Yr ARGLWYDD hollbwerus ydy ei enw e. Bydd Un Sanctaidd Israel yn dy ollwng di’n rhydd – ie, ‘Duw yr holl daear’. Mae’r ARGLWYDD yn dy alw di yn ôl – fel gwraig oedd wedi’i gadael ac yn anobeithio, gwraig ifanc oedd wedi’i hanfon i ffwrdd.” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn. “Gwrthodais di am ennyd fach, ond gyda thosturi mawr bydda i’n dod â ti’n ôl. Rôn i wedi gwylltio am foment, ac wedi troi i ffwrdd oddi wrthot ti. Ond gyda chariad sy’n para am byth bydda i’n garedig atat ti eto,” –meddai’r ARGLWYDD, sy’n dy ollwng di’n rhydd.
Eseia 54:5-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd yr un a'th greodd yw dy ŵr— ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw; Sanct Israel yw dy waredydd, a Duw yr holl ddaear y gelwir ef. Fel gwraig wedi ei gadael, a'i hysbryd yn gystuddiol, y galwodd yr ARGLWYDD di— gwraig ifanc wedi ei gwrthod,” medd dy Dduw. “Am ennyd fechan y'th adewais, ond fe'th ddygaf yn ôl â thosturi mawr. Am ychydig, mewn dicter moment, cuddiais fy wyneb rhagot; ond â chariad di-baid y tosturiaf wrthyt,” medd yr ARGLWYDD, dy Waredydd.
Eseia 54:5-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys dy briod yw yr hwn a’th wnaeth; ARGLWYDD y lluoedd yw ei enw: dy Waredydd hefyd, Sanct Israel, DUW yr holl ddaear y gelwir ef. Canys fel gwraig wrthodedig, a chystuddiedig o ysbryd, y’th alwodd yr ARGLWYDD, a gwraig ieuenctid, pan oeddit wrthodedig, medd dy DDUW. Dros ennyd fechan y’th adewais; ond â mawr drugareddau y’th gasglaf. Mewn ychydig soriant y cuddiais fy wyneb oddi wrthyt ennyd awr; ond â thrugaredd dragwyddol y trugarhaf wrthyt, medd yr ARGLWYDD dy Waredydd.