Eseia 53:4-6
Eseia 53:4-6 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Ac eto, cymerodd ein salwch ni arno’i hun, a diodde ein poenau ni yn ein lle. Roedden ni’n meddwl ei fod yn cael ei gosbi, a’i guro a’i gam-drin gan Dduw. Do, cafodd ei anafu am ein bod ni wedi gwrthryfela, cafodd ei sathru am ein bod ni ar fai. Cafodd ei gosbi i wneud pethau’n iawn i ni; ac am iddo fe gael ei guro cawson ni ein hiacháu. Dŷn ni i gyd wedi crwydro fel defaid – pob un wedi mynd ei ffordd ei hun; ond mae’r ARGLWYDD wedi rhoi ein pechod ni i gyd arno fe.
Eseia 53:4-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Eto, ein dolur ni a gymerodd, a'n gwaeledd ni a ddygodd— a ninnau'n ei gyfrif wedi ei glwyfo a'i daro gan Dduw, a'i ddarostwng. Ond archollwyd ef am ein troseddau ni, a'i ddryllio am ein camweddau ni; roedd pris ein heddwch ni arno ef, a thrwy ei gleisiau ef y cawsom ni iachâd. Rydym ni i gyd wedi crwydro fel defaid, pob un yn troi i'w ffordd ei hun; a rhoes yr ARGLWYDD arno ef ein beiau ni i gyd.
Eseia 53:4-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Diau efe a gymerth ein gwendid ni, ac a ddug ein doluriau: eto ni a’i cyfrifasom ef wedi ei faeddu, ei daro gan DDUW, a’i gystuddio. Ond efe a archollwyd am ein camweddau ni, efe a ddrylliwyd am ein hanwireddau ni: cosbedigaeth ein heddwch ni oedd arno ef: a thrwy ei gleisiau ef yr iachawyd ni. Nyni oll a grwydrasom fel defaid; troesom bawb i’w ffordd ei hun: a’r ARGLWYDD a roddes arno ef ein hanwiredd ni i gyd.