Eseia 53:11-12
Eseia 53:11-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Wedi helbulon ei fywyd fe wêl oleuni, a chael ei fodloni yn ei wybodaeth; bydd fy ngwas yn cyfiawnhau llawer, ac yn dwyn eu camweddau. Am hynny rhof iddo ran gyda'r mawrion ac fe ranna'r ysbail gyda'r cedyrn, oherwydd iddo dywallt ei fywyd i farwolaeth, a chael ei gyfrif gyda throseddwyr, a dwyn pechodau llaweroedd, ac eiriol dros y troseddwyr.
Eseia 53:11-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ar ôl y dioddef i gyd bydd yn gweld beth wnaeth, a bydd yn gwbl fodlon. Bydd fy ngwas cyfiawn yn gwneud llawer o bobl yn gyfiawn, ac yn cario baich eu beiau ar ei ysgwyddau. Felly, y dyrfa yna fydd ei siâr e, a bydd yn rhannu’r ysbail gyda’r rhai cryfion, am ei fod wedi rhoi ei hun i farw, a’i gyfri’n un o’r gwrthryfelwyr. Cymerodd bechodau llawer o bobl arno’i hun ac ymyrryd ar ran gwrthryfelwyr.”
Eseia 53:11-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
O lafur ei enaid y gwêl, ac y diwellir: fy ngwas cyfiawn a gyfiawnha lawer trwy ei wybodaeth; canys efe a ddwg eu hanwireddau hwynt. Am hynny y rhannaf iddo ran gyda llawer, ac efe a ranna yr ysbail gyda’r cedyrn: am iddo dywallt ei enaid i farwolaeth: ac efe a gyfrifwyd gyda’r troseddwyr; ac efe a ddug bechodau llaweroedd, ac a eiriolodd dros y troseddwyr.