Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 53:1-12

Eseia 53:1-12 beibl.net 2015, 2023 (BNET)

Pwy fyddai’n credu’r neges glywon ni? Oes rhywun wedi gweld un grymus yr ARGLWYDD? Wrth iddo dyfu o’i flaen doedd e’n ddim mwy na brigyn, neu wreiddyn mewn tir sych. O ran ei olwg, doedd dim yn ein denu i edrych arno, dim oedd yn ei wneud yn arbennig o ddeniadol. Cafodd ei ddirmygu a’i wrthod gan bobl; yn ddyn wnaeth ddiodde, yn gyfarwydd â phoen. Roedd pobl yn troi eu hwynebau i ffwrdd oddi wrtho; cafodd ei ddirmygu, a wnaethon ni mo’i werthfawrogi. Ac eto, cymerodd ein salwch ni arno’i hun, a diodde ein poenau ni yn ein lle. Roedden ni’n meddwl ei fod yn cael ei gosbi, a’i guro a’i gam-drin gan Dduw. Do, cafodd ei anafu am ein bod ni wedi gwrthryfela, cafodd ei sathru am ein bod ni ar fai. Cafodd ei gosbi i wneud pethau’n iawn i ni; ac am iddo fe gael ei guro cawson ni ein hiacháu. Dŷn ni i gyd wedi crwydro fel defaid – pob un wedi mynd ei ffordd ei hun; ond mae’r ARGLWYDD wedi rhoi ein pechod ni i gyd arno fe. Cafodd ei gam-drin a’i boenydio, wnaeth e ddweud dim, fel oen yn cael ei arwain i’r lladd-dy. Yn union fel mae dafad yn dawel pan mae’n cael ei chneifio, wnaeth e ddweud dim. Cafodd ei gymryd i ffwrdd heb achos llys teg – a phwy oedd yn malio beth oedd yn digwydd iddo? Cafodd ei dorri i ffwrdd o dir y byw, a’i daro am fod fy mhobl i wedi gwrthryfela. Y bwriad oedd ei gladdu gyda throseddwyr, ond cafodd fedd un cyfoethog. Roedd wedi gweithredu’n ddi-drais, a ddim wedi twyllo neb. Ac eto, yr ARGLWYDD wnaeth benderfynu ei gleisio, ac achosi iddo ddiodde. Wrth roi ei hun yn offrwm dros bechod, bydd yn gweld ei blant ac yn cael byw yn hir. Bydd yn cyflawni bwriadau’r ARGLWYDD. Ar ôl y dioddef i gyd bydd yn gweld beth wnaeth, a bydd yn gwbl fodlon. Bydd fy ngwas cyfiawn yn gwneud llawer o bobl yn gyfiawn, ac yn cario baich eu beiau ar ei ysgwyddau. Felly, y dyrfa yna fydd ei siâr e, a bydd yn rhannu’r ysbail gyda’r rhai cryfion, am ei fod wedi rhoi ei hun i farw, a’i gyfri’n un o’r gwrthryfelwyr. Cymerodd bechodau llawer o bobl arno’i hun ac ymyrryd ar ran gwrthryfelwyr.”

Eseia 53:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Pwy a gredai'r hyn a glywsom? I bwy y datguddiwyd braich yr ARGLWYDD? Fe dyfodd o'i flaen fel blaguryn, ac fel gwreiddyn mewn tir sych; nid oedd na phryd na thegwch iddo, na harddwch i'w hoffi wrth inni ei weld. Roedd wedi ei ddirmygu a'i wrthod gan eraill, yn ŵr clwyfedig, cyfarwydd â dolur; yr oeddem fel pe'n cuddio'n hwynebau oddi wrtho, yn ei ddirmygu ac yn ei anwybyddu. Eto, ein dolur ni a gymerodd, a'n gwaeledd ni a ddygodd— a ninnau'n ei gyfrif wedi ei glwyfo a'i daro gan Dduw, a'i ddarostwng. Ond archollwyd ef am ein troseddau ni, a'i ddryllio am ein camweddau ni; roedd pris ein heddwch ni arno ef, a thrwy ei gleisiau ef y cawsom ni iachâd. Rydym ni i gyd wedi crwydro fel defaid, pob un yn troi i'w ffordd ei hun; a rhoes yr ARGLWYDD arno ef ein beiau ni i gyd. Fe'i gorthrymwyd a'i ddarostwng, ond nid agorai ei enau; arweiniwyd ef fel oen i'r lladdfa, ac fel y bydd dafad yn ddistaw yn llaw'r cneifiwr, felly nid agorai yntau ei enau. Cymerwyd ef ymaith heb ei roi ar brawf na'i farnu— pwy oedd yn malio am ei dynged? Fe'i torrwyd o dir y rhai byw, a'i daro am drosedd fy mhobl. Rhoddwyd iddo fedd gyda'r rhai drygionus, a beddrod gyda'r troseddwyr, er na wnaethai niwed i neb ac nad oedd twyll yn ei enau. Yr ARGLWYDD a fynnai ei ddryllio a gwneud iddo ddioddef. Pan rydd ei fywyd yn aberth dros bechod, fe wêl ei had, fe estyn ei ddyddiau, ac fe lwydda ewyllys yr ARGLWYDD yn ei law ef. Wedi helbulon ei fywyd fe wêl oleuni, a chael ei fodloni yn ei wybodaeth; bydd fy ngwas yn cyfiawnhau llawer, ac yn dwyn eu camweddau. Am hynny rhof iddo ran gyda'r mawrion ac fe ranna'r ysbail gyda'r cedyrn, oherwydd iddo dywallt ei fywyd i farwolaeth, a chael ei gyfrif gyda throseddwyr, a dwyn pechodau llaweroedd, ac eiriol dros y troseddwyr.

Eseia 53:1-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Pwy a gredodd i’n hymadrodd? ac i bwy y datguddiwyd braich yr ARGLWYDD? Canys efe a dyf o’i flaen ef fel blaguryn, ac fel gwreiddyn o dir sych: nid oes na phryd na thegwch iddo: pan edrychom arno, ni bydd pryd fel y dymunem ef. Dirmygedig yw, a diystyraf o’r gwŷr; gŵr gofidus, a chynefin â dolur: ac yr oeddem megis yn cuddio ein hwynebau oddi wrtho: dirmygedig oedd, ac ni wnaethom gyfrif ohono. Diau efe a gymerth ein gwendid ni, ac a ddug ein doluriau: eto ni a’i cyfrifasom ef wedi ei faeddu, ei daro gan DDUW, a’i gystuddio. Ond efe a archollwyd am ein camweddau ni, efe a ddrylliwyd am ein hanwireddau ni: cosbedigaeth ein heddwch ni oedd arno ef: a thrwy ei gleisiau ef yr iachawyd ni. Nyni oll a grwydrasom fel defaid; troesom bawb i’w ffordd ei hun: a’r ARGLWYDD a roddes arno ef ein hanwiredd ni i gyd. Efe a orthrymwyd, ac efe a gystuddiwyd, ac nid agorai ei enau: fel oen yr arweinid ef i’r lladdfa, ac fel y tau dafad o flaen y rhai a’i cneifiai, felly nid agorai yntau ei enau. O garchar ac o farn y cymerwyd ef: a phwy a draetha ei oes ef? canys efe a dorrwyd o dir y rhai byw; rhoddwyd pla arno ef am gamwedd fy mhobl. Ac efe a wnaeth ei fedd gyda’r rhai anwir, a chyda’r cyfoethog yn ei farwolaeth; am na wnaethai gam, ac nad oedd twyll yn ei enau. Eithr yr ARGLWYDD a fynnai ei ddryllio ef; efe a’i clwyfodd: pan osodo efe ei enaid yn aberth dros bechod, efe a wêl ei had, efe a estyn ei ddyddiau; ac ewyllys yr ARGLWYDD a lwydda yn ei law ef. O lafur ei enaid y gwêl, ac y diwellir: fy ngwas cyfiawn a gyfiawnha lawer trwy ei wybodaeth; canys efe a ddwg eu hanwireddau hwynt. Am hynny y rhannaf iddo ran gyda llawer, ac efe a ranna yr ysbail gyda’r cedyrn: am iddo dywallt ei enaid i farwolaeth: ac efe a gyfrifwyd gyda’r troseddwyr; ac efe a ddug bechodau llaweroedd, ac a eiriolodd dros y troseddwyr.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd