Eseia 49:15-17
Eseia 49:15-17 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Ydy gwraig yn gallu anghofio’r babi ar ei bron? Ydy hi’n gallu peidio dangos tosturi at ei phlentyn? Hyd yn oed petaen nhw’n anghofio, fyddwn i’n sicr ddim yn dy anghofio di! Dw i wedi cerfio dy enw ar gledrau fy nwylo! Wna i byth golli golwg ar dy waliau di. Bydd dy adeiladwyr yn gweithio’n gyflymach na’r rhai wnaeth dy ddinistrio di; mae’r rhai achosodd y fath lanast wedi mynd!
Eseia 49:15-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“A anghofia gwraig ei phlentyn sugno, neu fam blentyn ei chroth? Fe allant hwy anghofio, ond nid anghofiaf fi di. Edrych, rwyf wedi dy gerfio ar gledr fy nwylo; y mae dy furiau bob amser o flaen fy llygaid; y mae dy adeiladwyr yn gyflymach na'r rhai sy'n dy ddinistrio, ac y mae dy anrheithwyr wedi mynd ymaith.
Eseia 49:15-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A anghofia gwraig ei phlentyn sugno, fel na thosturio wrth fab ei chroth? ie, hwy a allant anghofio, eto myfi nid anghofiaf di. Wele, ar gledr fy nwylo y’th argreffais; dy furiau sydd ger fy mron bob amser. Dy blant a frysiant; y rhai a’th ddinistriant, ac a’th ddistrywiant, a ânt allan ohonot.