Eseia 46:9-10
Eseia 46:9-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Cofiwch beth dw i wedi’i wneud yn y gorffennol. Achos fi sydd Dduw, a does dim un arall yn bod. Fi ydy Duw, a does neb tebyg i mi. Dw i’n dweud o’r dechrau beth fydd yn digwydd ar y diwedd, ac yn dangos ymlaen llaw bethau sydd heb ddigwydd eto. Dw i’n dweud: ‘Bydd fy nghynllun i yn digwydd; dw i’n cyflawni popeth dw i’n ei fwriadu.’
Rhanna
Darllen Eseia 46Eseia 46:9-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Cofiwch y pethau gynt, ymhell yn ôl; oherwydd myfi sydd Dduw, ac nid arall, yn Dduw heb neb yn debyg i mi. Rwyf o'r dechreuad yn mynegi'r diwedd, ac o'r cychwyn yr hyn oedd heb ei wneud. Dywedaf, ‘Fe saif fy nghyngor, a chyflawnaf fy holl fwriad.’
Rhanna
Darllen Eseia 46