Eseia 46:3-4
Eseia 46:3-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Gwrandwch arna i, bobl Jacob, a phawb sydd ar ôl o bobl Israel. Fi wnaeth eich cario chi pan oeddech chi yn y groth, a dw i wedi’ch cynnal chi ers i chi gael eich geni. A bydd pethau yr un fath pan fyddwch chi’n hen; bydda i’n dal i’ch cario chi pan fydd eich gwallt wedi troi’n wyn! Fi wnaeth chi, a fi sy’n eich cario chi – fi sy’n gwneud y cario, a fi sy’n achub.
Eseia 46:3-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Gwrandewch arnaf fi, dŷ Jacob, a phawb sy'n weddill o dŷ Israel; buoch yn faich i mi o'r groth, ac yn llwyth i mi o'r bru; hyd eich henaint, myfi yw Duw, hyd eich penwynni, mi a'ch cariaf. Myfi sy'n gwneud, myfi sy'n cludo, myfi sy'n cario, a myfi sy'n arbed.
Eseia 46:3-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Tŷ Jacob, gwrandewch arnaf fi, a holl weddill tŷ Israel, y rhai a dducpwyd gennyf o’r groth, ac a arweddwyd o’r bru: Hyd henaint hefyd myfi yw; ie, myfi a’ch dygaf hyd oni benwynnoch: gwneuthum, arweddaf hefyd; ie, dygaf, a gwaredaf chwi.