Eseia 46:1-4
Eseia 46:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Crymodd Bel, plygodd Nebo; ar gefn anifail ac ych y mae eu delwau, ac aeth y rhain, a fu'n ddyrchafedig, yn faich ar anifeiliaid blinedig. Plygant a chrymant gyda'i gilydd, ni allant arbed y llwyth, ond ânt eu hunain i gaethglud. “Gwrandewch arnaf fi, dŷ Jacob, a phawb sy'n weddill o dŷ Israel; buoch yn faich i mi o'r groth, ac yn llwyth i mi o'r bru; hyd eich henaint, myfi yw Duw, hyd eich penwynni, mi a'ch cariaf. Myfi sy'n gwneud, myfi sy'n cludo, myfi sy'n cario, a myfi sy'n arbed.
Eseia 46:1-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae Bel ar ei liniau, a Nabw yn gorwedd ar ei wyneb. Baich ar gefn anifeiliaid ydy eu delwau nhw, pethau mae’n rhaid eu cario – llwyth trwm ar gefn anifeiliaid blinedig! Maen nhw hefyd wedi syrthio a phlygu gyda’i gilydd; doedd dim modd arbed y llwyth, ac maen nhw ar eu ffordd i’r gaethglud. “Gwrandwch arna i, bobl Jacob, a phawb sydd ar ôl o bobl Israel. Fi wnaeth eich cario chi pan oeddech chi yn y groth, a dw i wedi’ch cynnal chi ers i chi gael eich geni. A bydd pethau yr un fath pan fyddwch chi’n hen; bydda i’n dal i’ch cario chi pan fydd eich gwallt wedi troi’n wyn! Fi wnaeth chi, a fi sy’n eich cario chi – fi sy’n gwneud y cario, a fi sy’n achub.
Eseia 46:1-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Crymodd Bel, plygodd Nebo; eu delwau oedd ar fwystfilod ac ar anifeiliaid: eich clud a lwythwyd yn drwm; llwyth ydynt i’r diffygiol. Gostyngant, cydgrymant: ni allent achub y llwyth, ond aethant mewn caethiwed eu hunain. Tŷ Jacob, gwrandewch arnaf fi, a holl weddill tŷ Israel, y rhai a dducpwyd gennyf o’r groth, ac a arweddwyd o’r bru: Hyd henaint hefyd myfi yw; ie, myfi a’ch dygaf hyd oni benwynnoch: gwneuthum, arweddaf hefyd; ie, dygaf, a gwaredaf chwi.