Eseia 41:8-13
Eseia 41:8-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond Israel, ti ydy fy ngwas i, Jacob, ti dw i wedi’i ddewis – disgynyddion Abraham, fy ffrind i. Des i â ti yma o bell, a’th alw o ben draw’r byd, a dweud wrthot ti: “Ti ydy fy ngwas i.” Dw i wedi dy ddewis di! Dw i ddim wedi troi cefn arnat ti! Paid bod ag ofn, achos dw i gyda ti. Paid dychryn – fi ydy dy Dduw di! Dw i’n dy nerthu di ac yn dy helpu di, dw i’n dy gynnal di ac yn dy achub di hefo fy llaw dde. Bydd pawb sy’n codi yn dy erbyn di yn cael eu cywilyddio a’u drysu. Bydd y rhai sy’n ymladd yn dy erbyn di yn diflannu ac yn marw. Byddi’n edrych am y rhai sy’n ymosod arnat ti ac yn methu dod o hyd iddyn nhw. Bydd y rhai sy’n rhyfela yn dy erbyn di yn diflannu ac yn peidio â bod. Fi, yr ARGLWYDD, ydy dy Dduw di, yn rhoi cryfder i dy law dde di, ac yn dweud wrthot ti: “Paid bod ag ofn. Bydda i’n dy helpu di.”
Eseia 41:8-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Ti, Israel, yw fy ngwas; ti, Jacob, a ddewisais, had Abraham, f'anwylyd. Dygais di o bellteroedd byd, a'th alw o'i eithafion, a dweud wrthyt, ‘Fy ngwas wyt ti; rwyf wedi dy ddewis ac nid dy wrthod.’ Paid ag ofni, yr wyf fi gyda thi; paid â dychryn, myfi yw dy Dduw. Cryfhaf di a'th nerthu, cynhaliaf di â llaw dde orchfygol. Yn awr cywilyddir a gwaradwyddir pob un sy'n digio wrthyt; bydd pob un sy'n ymrafael â thi yn mynd yn ddim ac yn diflannu. Byddi'n chwilio am y rhai sy'n ymosod arnat, ond heb eu cael; bydd pob un sy'n rhyfela yn dy erbyn yn mynd yn ddim, ac yn llai na dim. Canys myfi, yr ARGLWYDD dy Dduw, sy'n gafael yn dy law dde, ac yn dweud wrthyt, ‘Paid ag ofni, yr wyf fi'n dy gynorthwyo.’
Eseia 41:8-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Eithr ti, Israel, fy ngwas ydwyt ti, Jacob yr hwn a etholais, had Abraham fy anwylyd. Ti, yr hwn a gymerais o eithafoedd y ddaear, ac y’th elwais oddi wrth ei phendefigion, ac y dywedais wrthyt, Fy ngwas wyt ti; dewisais di, ac ni’th wrthodais. Nac ofna; canys yr ydwyf fi gyda thi: na lwfrha; canys myfi yw dy DDUW: cadarnhaf di, cynorthwyaf di hefyd, a chynhaliaf di â deheulaw fy nghyfiawnder. Wele, cywilyddir a gwaradwyddir y rhai oll a lidiasent wrthyt: dy wrthwynebwyr a fyddant megis diddim, ac a ddifethir. Ti a’u ceisi, ac nis cei hwynt, sef y dynion a ymgynenasant â thi: y gwŷr a ryfelant â thi fyddant megis diddim, a megis peth heb ddim. Canys myfi yr ARGLWYDD dy DDUW a ymaflaf yn dy ddeheulaw, a ddywed wrthyt, Nac ofna, myfi a’th gynorthwyaf.