Eseia 41:11-15
Eseia 41:11-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn awr cywilyddir a gwaradwyddir pob un sy'n digio wrthyt; bydd pob un sy'n ymrafael â thi yn mynd yn ddim ac yn diflannu. Byddi'n chwilio am y rhai sy'n ymosod arnat, ond heb eu cael; bydd pob un sy'n rhyfela yn dy erbyn yn mynd yn ddim, ac yn llai na dim. Canys myfi, yr ARGLWYDD dy Dduw, sy'n gafael yn dy law dde, ac yn dweud wrthyt, ‘Paid ag ofni, yr wyf fi'n dy gynorthwyo.’ “Paid ag ofni, ti'r pryfyn Jacob, na thithau'r lleuen Israel; byddaf fi'n dy gynorthwyo,” medd yr ARGLWYDD, Sanct Israel, dy Waredydd. “Yn awr, fe'th wnaf yn fen ddyrnu— un newydd, ddanheddog a miniog; byddi'n dyrnu'r mynyddoedd a'u malu, ac yn gwneud y bryniau fel us.
Eseia 41:11-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Bydd pawb sy’n codi yn dy erbyn di yn cael eu cywilyddio a’u drysu. Bydd y rhai sy’n ymladd yn dy erbyn di yn diflannu ac yn marw. Byddi’n edrych am y rhai sy’n ymosod arnat ti ac yn methu dod o hyd iddyn nhw. Bydd y rhai sy’n rhyfela yn dy erbyn di yn diflannu ac yn peidio â bod. Fi, yr ARGLWYDD, ydy dy Dduw di, yn rhoi cryfder i dy law dde di, ac yn dweud wrthot ti: “Paid bod ag ofn. Bydda i’n dy helpu di.” Paid bod ag ofn, y pryf Jacob, y lindys bach Israel – Bydda i’n dy helpu di! –meddai’r ARGLWYDD. Fi sy’n dy ryddhau di, sef Un Sanctaidd Israel. Bydda i’n dy wneud di yn sled ddyrnu – un newydd, hefo llawer iawn o ddannedd. Byddi’n dyrnu mynyddoedd a’u malu ac yn gwneud bryniau fel us.
Eseia 41:11-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Wele, cywilyddir a gwaradwyddir y rhai oll a lidiasent wrthyt: dy wrthwynebwyr a fyddant megis diddim, ac a ddifethir. Ti a’u ceisi, ac nis cei hwynt, sef y dynion a ymgynenasant â thi: y gwŷr a ryfelant â thi fyddant megis diddim, a megis peth heb ddim. Canys myfi yr ARGLWYDD dy DDUW a ymaflaf yn dy ddeheulaw, a ddywed wrthyt, Nac ofna, myfi a’th gynorthwyaf. Nac ofna, di bryf Jacob, gwŷr Israel; myfi a’th gynorthwyaf, medd yr ARGLWYDD, a’th Waredydd, Sanct Israel. Wele, gosodaf di yn fen ddyrnu newydd ddanheddog; y mynyddoedd a ddyrni ac a feli, gosodi hefyd y bryniau fel mwlwg.