Eseia 35:1-4
Eseia 35:1-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Bydd yr anialwch a’r tir sych yn llawen, bydd y diffeithwch yn dathlu ac yn blodeuo – yn blodeuo’n sydyn fel saffrwn. Bydd yn dathlu’n llawen ac yn gweiddi; bydd ysblander Libanus yn cael ei roi iddi, a harddwch Carmel a Saron. Byddan nhw’n gweld ysblander yr ARGLWYDD, a harddwch ein Duw ni. Cryfhewch y dwylo llesg; a gwnewch y gliniau gwan yn gadarn. Dwedwch wrth y rhai ofnus, “Byddwch yn ddewr, peidiwch bod ag ofn. Edrychwch ar eich Duw – mae e’n dod i ddial ar eich gelynion! Y tâl dwyfol! Ydy, mae e’i hun yn dod i’ch achub chi!”
Eseia 35:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Llawenyched yr anial a'r sychdir, gorfoledded y diffeithwch, a blodeuo. Blodeued fel maes o saffrwn, a gorfoleddu â llawenydd a chân. Rhodder gogoniant Lebanon iddo, mawrhydi Carmel a Saron; cânt weld gogoniant yr ARGLWYDD, a mawrhydi ein Duw ni. Cadarnhewch y dwylo llesg, cryfhewch y gliniau gwan; dywedwch wrth y pryderus, “Ymgryfhewch, nac ofnwch. Wele, fe ddisgyn ar Edom, ar y bobl a ddedfryda i farn.
Eseia 35:1-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yr anialwch a’r anghyfanheddle a lawenychant o’u plegid; y diffeithwch hefyd a orfoledda, ac a flodeua fel rhosyn. Gan flodeuo y blodeua, ac y llawenycha hefyd â llawenydd ac â chân: gogoniant Libanus a roddir iddo, godidowgrwydd Carmel a Saron: hwy a welant ogoniant yr ARGLWYDD, a godidowgrwydd ein DUW ni. Cadarnhewch y dwylo llesg, a chryfhewch y gliniau gweiniaid. Dywedwch wrth y rhai ofnus o galon, Ymgryfhewch, nac ofnwch: wele, eich DUW chwi a ddaw â dial, ie, DUW â thaledigaeth; efe a ddaw, ac a’ch achub chwi.