Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 35:1-10

Eseia 35:1-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Bydd yr anialwch a’r tir sych yn llawen, bydd y diffeithwch yn dathlu ac yn blodeuo – yn blodeuo’n sydyn fel saffrwn. Bydd yn dathlu’n llawen ac yn gweiddi; bydd ysblander Libanus yn cael ei roi iddi, a harddwch Carmel a Saron. Byddan nhw’n gweld ysblander yr ARGLWYDD, a harddwch ein Duw ni. Cryfhewch y dwylo llesg; a gwnewch y gliniau gwan yn gadarn. Dwedwch wrth y rhai ofnus, “Byddwch yn ddewr, peidiwch bod ag ofn. Edrychwch ar eich Duw – mae e’n dod i ddial ar eich gelynion! Y tâl dwyfol! Ydy, mae e’i hun yn dod i’ch achub chi!” Bydd llygaid pobl ddall yn cael eu hagor, a chlustiau pobl fyddar hefyd. Bydd y cloff yn neidio fel hydd, a’r mud yn gweiddi’n llawen! Achos bydd dŵr yn tasgu yn yr anialwch, ac afonydd yn llifo yn y diffeithwch. Bydd y tywod poeth yn troi’n bwll dŵr, a’r tir sych yn ffynhonnau’n ffrydio. Bydd y fan lle roedd siacaliaid yn gorweddian yn troi’n gorsydd o frwyn. Bydd priffordd, ie, ffordd yno sy’n cael ei galw, ‘Y Ffordd Sanctaidd’. Fydd neb sy’n aflan yn cael teithio arni – mae ar gyfer y rhai sy’n cerdded y Ffordd. Fydd ffyliaid ddim yn crwydro ar ei hyd. Fydd dim llew yno, a fydd anifail gwyllt ddim yn dod yn agos ati – fydd dim i’w gael yno. Ond bydd y rhai sydd wedi’u rhyddhau yn cerdded ar ei hyd. Bydd y bobl ollyngodd yr ARGLWYDD yn rhydd yn dod yn ôl i Seion yn bloeddio canu! Bydd y llawenydd sy’n para am byth yn goron ar eu pennau! Byddan nhw’n cael eu gwefreiddio gan hwyl a gorfoledd, am fod galar a griddfan wedi dianc i ffwrdd.