Eseia 32:16-19
Eseia 32:16-19 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Bryd hynny, bydd cyfiawnder yn aros yn yr anialwch a thegwch yn cartrefu yn y caeau; bydd cyfiawnder yn arwain i heddwch, ac wedyn bydd llonydd a diogelwch am byth. Bydd fy mhobl yn byw mewn cymunedau saff, tai diogel, a lleoedd i orffwys yn dawel. Er i’r goedwig gael ei thorri i lawr gan genllysg ac i’r ddinas orwedd mewn cywilydd
Eseia 32:16-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
yna caiff barn drigo yn yr anialwch a chyfiawnder gartrefu yn y doldir; bydd cyfiawnder yn creu heddwch, a'i effeithiau yn llonyddwch a diogelwch hyd byth. Yna bydd fy mhobl yn trigo mewn bro heddychlon, mewn anheddau diogel, a chartrefi tawel, a'r goedwig wedi ei thorri i lawr, a'r ddinas yn gydwastad â'r pridd.
Eseia 32:16-19 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna y trig barn yn yr anialwch, a chyfiawnder a erys yn y doldir. A gwaith cyfiawnder fydd heddwch; ie, gweithred cyfiawnder fydd llonyddwch a diogelwch, hyd byth. A’m pobl a drig mewn preswylfa heddychlon, ac mewn anheddau diogel, ac mewn gorffwysfaoedd llonydd. Pan ddisgynno cenllysg ar y coed, ac y gostyngir y ddinas mewn lle isel.