Eseia 30:19-21
Eseia 30:19-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Chwi bobl Seion, trigolion Jerwsalem, peidiwch ag wylo mwyach. Bydd ef yn rasol wrth sŵn dy gri; pan glyw di, fe'th etyb. Er i'r Arglwydd roi iti fara adfyd a dŵr cystudd, ni chuddir dy athrawon mwyach, ond caiff dy lygaid eu gweld. Pan fyddwch am droi i'r dde neu i'r chwith, fe glywch â'ch clustiau lais o'ch ôl yn dweud, “Dyma'r ffordd, rhodiwch ynddi.”
Eseia 30:19-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Wir i chi, bobl Seion – chi sy’n byw yn Jerwsalem – fyddwch chi ddim yn wylo wedyn. Bydd e’n garedig atoch chi pan fyddwch chi’n galw. Bydd e’n ateb yr eiliad mae’n eich clywed chi. Er bod y Meistr wedi rhoi helynt i chi’n fwyd, a dioddefaint yn ddŵr, fydd y Duw sy’n eich tywys ddim yn cuddio mwyach, byddwch yn ei weld yn eich arwain. Wrth wyro i’r dde neu droi i’r chwith, byddwch yn clywed llais y tu ôl i chi’n dweud: “Dyma’r ffordd; ewch y ffordd yma!”
Eseia 30:19-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys y bobl a drig yn Seion o fewn Jerwsalem: gan wylo nid wyli; gan drugarhau efe a drugarha wrthyt; wrth lef dy waedd, pan ei clywo, efe a’th ateb di. A’r Arglwydd a rydd i chwi fara ing a dwfr gorthrymder, ond ni chornelir dy athrawon mwy, eithr dy lygaid fyddant yn gweled dy athrawon: A’th glustiau a glywant air o’th ôl yn dywedyd, Dyma y ffordd, rhodiwch ynddi, pan bwysoch ar y llaw ddeau, neu pan bwysoch ar y llaw aswy.